|
Pan oresgynnodd y Rhufeiniaid Brydain yn AD 43, fe ddaethant â dylanwadau newydd. Bu i'w duwiau eu hunain gyfuno gyda duwiau brodorol Prydeinig i greu crefydd gyfansawdd newydd. Agorwyd y llwybrau felly ar gyfer y grefydd newydd a drechodd yr hen ffyrdd paganaidd maes o law. Chwalwyd yr hen drefn Dderwyddol yn 60 AD pan gafodd ei gafael ar Môn ei thorri gan y fyddin Rufeinig. Y Derwyddon oedd swyddogion crefyddol y Brythoniaid brodorol ac mae'n ymddangos mai hwy oedd prif ffynhonnell gwrthwynebiad i'r Rhufeiniaid. Roedd y goresgyniad o Fôn yn gydnabyddiaeth amlwg o'r bygythiad i'r gyfundrefn Rufeinig. Mae'n bosib mai crefydd gynhenid i Brydain oedd Derwyddiaeth. Mae'r gair Cymraeg Derwydd, yn cysylltu'n agos gyda'r gair derwen. Ac mae'r Gymraeg yn iaith sy'n hanu'n uniongyrchol o'r iaith Frythoneg a siaradwyd gan y Brythoniaid adeg y goncwest Rufeinig. Nododd Julius Caesar bod y Derwyddon yn addoli mewn llwyni derw, ac yn ôl yr hanesydd Tacitus un o'r pethau cyntaf wnaeth concwerwyr Rhufeinig Môn oedd torri nifer o'r llwyni derw ddarganfuwyd dros yr ynys. Er i bŵer gwleidyddol Derwyddol gael ei chwalu, parhawyd i addoli'r duwiau brodorol. Mae'n debyg mai agwedd bragmataidd oedd gan y Rhufeiniaid tuag at grefydd - os nad oedd yn bygwth presenoldeb Rhufeinig fe gâi ei goddef. Mae'n ymddangos y credent hefyd mai gwell oedd peidio â digio'r duwiau brodorol, gan y gallai hynny olygu y caent lwc ddrwg yn ystod eu arhosiad ar dir estron. Felly fe geision nhw gael y gorau o ddau fyd drwy baru eu duwiau Rhufeinig gyda'r rhai Prydeinig, gan godi allorau ar y cyd. Ceir un o'r rhai enwocaf ym Mhrydain yn yr hen faddondai Rhufeinig yng Nghaerfaddon. Adeiladodd y Rhufeiniaid eu hallorau o gwmpas y ffynhonnau poeth oedd yno yn 54 AD, ar safle teml godwyd gan y Brythoniaid. Enw'r dduwies frodorol wreiddiol oedd Sul ac fe'i cyfunwyd gyda'r dduwies Rufeinig Minerva i greu Sulis Minerva. Cafwyd esiampl yng Nghymru o 'dduw cyfansawdd' a ddarganfuwyd mewn teml wedi ei chyflwyno i Mars-Oculus yng Nghaerwent, a charreg yn dyddio o tua 300 AD a ddarganfuwyd yng Nghaerleon yn awgrymu i gredoau Prydeinig brodorol barhau heb orfod gael eu cyfuno gydag arferion Rhufeinig. Mae cof gwerin yn parhau hyd heddiw am yr hen dduwiau ar ffurf mythau a chwedlau, - y Mabinogi yw'r enghraifft orau yng Nghymru. Credir bod y casgliad hwn o straeon eisoes yn hynafol pan gofnodwyd hwy ynghanol yr unfed ganrif ar ddeg. Cred rhai mai dyma'r agosaf allwn gyrraedd i fyd hudolus yr hen Frythoniaid. Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif, cafodd dau ddyn o'r enw Aaron a Julius eu dienyddio yn nhre Caerleon am ddilyn crefydd waharddedig. Ni wyddys faint a ddilynodd yr un ffawd. Ond o fewn can mlynedd y ffydd erlidedig hon oedd crefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig, ac ymhen amser fe gafodd Aaron a Julius eu cydnabod fel y merthyron Cristnogol Cymreig cyntaf.
 |