BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
20fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymru aml-ddiwylliannol (Llun: John Hallam)


Cymru aml-ddiwylliannol

Mae gan pob un o brif grefyddau'r byd bresenoldeb dros Gymru, er mai yn ninasoedd y de y mae ganddynt y rhan fwyaf o aelodau.

Mae gan Gymru nifer o gymunedau ethnig, gyda nifer o aelodau yn perthyn i gredoau sydd ddim yn Gristnogol. Maent wedi eu lleoli'n bennaf yn ninasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

Mae gan pob un o brif grefyddau'r byd bresenoldeb yng Nghymru, megis Iddewaeth, Islam, Bwdaeth, Hindŵaeth a Siciaeth. Yng Nghaerdydd mae'r nifer mwyaf o aelodau o'r crefyddau hyn.

Y ffydd hynaf i'w sefydlu yma wedi Cristnogaeth, oedd Iddewiaeth, a fu â phresenoldeb yn Abertawe ers tua 1730. Cafodd cymunedau Iddewig eu ffurfio yn y ganrif ganlynol yng Nghaerdydd, Merthyr Tydfil, Pontypridd a Thredegar, ac yno yng nghymoedd Gwent yn 1911 y gwelwyd un o'r digwyddiadau tristaf ym mherthynas y Cymry gydg aelodau o grefyddau eraill.

Roedd 1911 yn flwyddyn o anghydfodau diwydiannol ac anhrefn cymdeithasol yng Nghymru gyda therfysgoedd mawr yn Nhonypandy a Llanelli. Ym mis Awst y flwyddyn honno, cafodd siopau Iddewig ar hyd ardaloedd pyllau glo de ddwyrain Cymru eu targedu am ymosodiadau gan dorfeydd.

Mae'r bai am yr ymosodiadau wedi ei roi ar deimladau gwrth-Iddewig oedd yn bodoli mewn propaganda sosialaidd gynnar ac mewn Anghydffurfiaeth Gymreig. Ar uchafbwynt twf y gymuned Iddewig yng Nghymru, tua 1913, credir bod cyfanswm o rhwng 4,000 a 5,000 o Iddewon. Erbyn cyfrifiad 2001, roedd y nifer wedi gostwng i tua 2,000.

Y ffydd fwyaf yng Nghymru, heblaw Cristnogaeth, yw'r un sy'n tyfu fwyaf yn y byd heddiw, sef Islam. Yng nhyfrifiad 2001 roedd ganddi 22,000 o aelodau.

Daeth nifer o Foslemiaid i dde Cymru yn ystod oes aur Caerdydd fel y porthladd pwysicaf yn y byd am allforio glo. Erbyn hyn mae Moslemiaid wedi hen sefydlu yma.

Credir mai Yemeniaid Caerdydd yw'r gymuned Foslemaidd hynaf ym Mhrydain, yn dyddio yn ôl i ganol y 19eg Ganrif.

Cafodd y mosg cyntaf ei adeiladu yng Nghaerdydd ym 1947 a'i enwi y Noor-el-Islam. Y flwyddyn ganlynol, cynhaliodd Caerdydd y gynhadledd Foslemaidd gyntaf ym Mhrydain. Mae gan Gymru tua 40 mosg, gyda'r nifer mwyaf i'w canfod yng Nghaerdydd, ac eraill yng Nghasnewydd, Abertawe a Hwlffordd. Mae coleg ar gyfer hyfforddi clerigwyr Moslemaidd wedi ei agor yn ddiweddar mewn hen blasty o'r 18fed Ganrif yn Llanybydder, gorllewin Cymru.

Mae gan Hindŵaeth tua 5,000 o aelodau yng Nghymru, yr un nifer ag sydd gan Bwdaeth. Mae'r mwyafrif i'w canfod yng Ngheredigion. Yn 1993 bu'r Dalai Lama ar ei ymweliad cyntaf â Chymru gan ddod i Gaerdydd.

Mae gan Siciaeth tua 2,000 o aelodau. Agorwyd y ganolfan arbennig gyntaf ar eu cyfer yng Nghaerdydd ym 1989.

Mae cyfrifiad 2001 yn dangos bod 'Crefyddau Eraill' yng Nghymru yn nodi tua 7,000 o aelodau. Ymhlith y rhif yna byddai nifer fawr o paganiaid, gan gynnwys y rheiny sy'n cyfrif eu hunain yn Dderwyddon.

Mae'r Derwyddon modern yma yn seilio eu credoau ar nifer o ffynonellau, gan gynnwys hen lenyddiaeth Cymru. Mae'r Dderwyddiaeth atgyfodedig hon yn cyfannu hanes crefydd yng Nghymru mewn ffordd, gan ei fod yn dod â'r stori yn ôl i'r credoau a fu mewn grym cyn i'r Rhufeiniaid oresgyn y wlad.

Ni ddylid cymysgu'r ffurf yma ar Dderwyddiaeth gyda Gorsedd y Beirdd, sy'n adnabyddus i gynifer drwy'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r Orsedd yn gorff diwylliannol, yn ymwneud â hybu a chadw'r iaith Gymraeg. Bu nifer o benawdau papur newydd am gysylltiadau 'paganaidd' honedig yr Orsedd pan gafodd Rowan Williams, Archesgob Caer-gaint, ei dderbyn yn aelod yn 2002.

Efallai mai yr hyn ddylai fod yn destun pryder i grefyddau Cymru yw'r ffaith i cyfrifiad 2001 ddangos bod dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn dweud nad oes ganddynt unrhyw fath o grefydd. Dyna un rhan o chwech o'r boblogaeth.

Does dim newydd yn y ffaith bod crefyddau newydd yn cyrraedd Cymru. Wedi'r cwbl, ar un adeg roedd Cristnogaeth ei hun yn grefydd ryfedd, estron nes iddi ddechrau gwreiddio yn y wlad.

Y gwir yw bod Cymru, fel gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, bellach yn gartref i nifer o gredoau. Yn wir, mae Tywysog Cymru wedi cydnabod hyn drwy sôn yr hoffai, pan ddaw'n frenin, ddileu'r hen deitl 'Amddiffynnydd y Ffydd' sy'n dyddio yn ôl i ddyddiau Harri'r Wythfed, a rhoi'r teitl 'Amddiffynnydd Ffydd' yn ei le.

Mae'r sylw hwn o'i eiddo wedi ei groesawu fel enghraifft o agwedd gynhwysol tuag at grefydd, er bod rhai pobl draddodiadol wedi gweld bai arno. Roedd y drafodaeth ar y pwnc yn dangos er bod crefydd efallai yn edwino, mae o hyd yn bwnc llosg ac yn arwydd o sut mae pobl yn diffinio eu hunain. Nid oes arwydd bod crefydd yng Nghymru, yn ei holl agweddau gwahanol, am ddiflannu yn y dyfodol agos.




Cynt
Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy