BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Christmas Evans (Delwedd: Llyfrgell Genedlaethol Cymru)


Pobl Anghydffurfiol

Yn dilyn y Diwygiad Methodistaidd, daeth ail don o bregethwyr i'r amlwg wrth i Gymru gychwyn ar y Chwyldro Diwydiannol.

Wrth i ffigyrau amlwg cynnar y Diwygiad Methodistaidd farw tua diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth arweiniad y mudiad o dan ofal Thomas Charles (1755-1814).

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, ymgartrefodd yn y Bala, gogledd Cymru, ac aeth ati gyda'i egni a'i drefnusrwydd nodweddiadol i wneud y dref yn ganolfan i Fethodistiaeth yng ngogledd Cymru.

Aeth ati hefyd i adfywio ysgolion darllen Griffith Jones, oedd wedi gwneud y cysylltiad â chrefydd yn bosib i gymaint o Gymry.

Un o ddigwyddiadau byd-enwog y cyfnod hwn oedd pan gerddodd y ferch ifanc Mari Jones o Lanfihangel y Pennant i'r Bala ac yn ôl - taith o 40 milltir - i dderbyn copi o'r Beibl Cymraeg, gweithred a ysbrydolodd Thomas Charles i gynorthwyo i sefydlu y gymdeithas Feibl Brydeinig a Thramor ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Charles oedd yr un a arweiniodd y Methodistiaid Cymreig allan o Eglwys Loegr yn 1811, symudiad a'u hunionodd o'r diwedd gyda gweddill Anghydffurfiaeth yng Nghymru.

Ysbrydolodd y Diwygiad Methodistaidd weithgaredd o'r newydd o fewn yr Eglwys sefydliedig ac o fewn yr amrywiol enwadau Anghydffurfiol megis y Bedyddwyr a'r Annibynwyr.

Daeth ail don o bregethwyr i'r amlwg yn ystod y cyfnod hwn, un o'r enwocaf a'r mwyaf carismataidd oedd Christmas Evans (1766-1838). Yn wreiddiol o Landysul yng ngorllewin Cymru, daeth Evans o gefndir tlawd a chaled. Collodd lygad wrth ymladd un tro.

Yn dilyn ei dröedigaeth, fe aeth yn weinidog gyda'r Bedyddwyr, a chan ddilyn esiampl un arall o orllewin Cymru, Thomas Charles, aeth Evans i wneud gwaith cenhadol yng ngogledd Cymru. Arhosodd yno am nifer o flynyddoedd cyn setlo yn ôl yn y de. Gelwir ef yn 'Bunyan Cymru'.

Bu i'r gweithgaredd crefyddol yma arwain at gynnydd enfawr mewn aelodaeth o fewn yr enwadau Anghydffurfiol, a arweiniodd yn ei dro at godi nifer o gapeli ar draws y wlad. Parhaodd hyn drwy'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod y cyfnod yma amcangyfrifir ar gyfartaledd bod capel yn cael ei godi bob wyth diwrnod.

Cymaint oedd gweithgarwch yr adeiladwyr fel y credir bod mwy o seddi yn y capeli gyda'i gilydd nag oedd yna o bobl a oedd yn byw yng Nghymru! Efallai nad yw hyn yn wir, ond beth sydd yn sicr yw i'r ymdrechion yma arwain at un o eiconau pensaernïol amlyca'r wlad, y Capel Cymreig.

Roedd gan bob pentref o leiaf un, a bu i'r cymunedau newydd ddeilliodd o'r Chwyldro Diwydiannol ddarparu mwy fyth o gyfle am adeiladau newydd. Yn anffodus mae'r edwino presennol yn y nifer sy'n mynd i'r capel wedi arwain at gapeli gwag sy'n prysur dadfeilio.

Yn ystod yr un cyfnod, gwelwyd trais yng Nghymru, yn fwyaf arbennig ym Merthyr lle bu terfysg sylweddol yn 1831, yng Nghasnewydd lle bu ymosodiad gan y Siartwyr yn 1839, ac yn y Gymru wledig lle cafwyd terfysg Beca rhwng 1839 a 1842.

Ymatebodd yr awdurdodau drwy gomisiynu amrywiaeth o adroddiadau. Bu i'w casgliadau nid yn unig gael effaith ar y modd wnaeth crefydd ddatblygu yng Nghymru yn ystod ail hanner y ganrif, ond hefyd gwelwyd y canlyniadau ym meysydd gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod yn ogystal.


Cynt Nesaf
Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy