BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cromlech Pentre Ifan, De Orllewin Cymru


Cymru cyn Crist

Cyn i Gristnogaeth gyrraedd Cymru, mae tystiolaeth archeolegol yn dangos bodolaeth amrywiaeth o gredoau crefyddol a defodau.

Ceir tystiolaeth o fodolaeth pobl gynhanesyddol o Gymru mewn sawl man - yn llythrennol ar lawr gwlad ac oddi tano. Mae dipyn o'r dystiolaeth yma yn ymwneud â chladdedigaeth gweddillion dynol.

Mae gan nifer o'r safleoedd nodweddion tebyg, sy'n rheswm cryf dros gredu bod system gred gyffredin yn bodoli drwy'r ardal yn ystod gwahanol gyfnodau, yn arbennig ynglŷn â marwolaeth. Dyna pam efallai fod crefyddau cynhanesyddol yn cael eu cysylltu â delweddau marwaidd (meddylier am ddelweddau poblogaidd o aberthau derwyddol gwaedlyd), gan nad oes cymaint o dystiolaeth am briodasau a genedigaethau, neu o leiaf, nid yw'r dystiolaeth honno wedi ei chanfod eto.

Darganfuwyd un o'r safleoedd claddu cynharaf mewn ogof ar arfordir Gŵyr. Dyma'r sgerbwd a adweaenir fel 'Dynes Goch Pafiland'. Mewn gwirionedd, ysgerbwd dyn ifanc ydyw; mae'n dyddio o tua 25,000 mlynedd yn ôl. Mae'n un o'r claddedigaethau seremonïol hynaf i'w canfod yng ngorllewin Ewrop. Wedi eu claddu gyda'r corff oedd gemwaith wedi ei wneud o ifori a chregyn y môr, yn ogystal â phenglog mamoth. Mae'r lliwio coch a ddarganfuwyd ar y gweddillion yn awgrymu cysylltiad symbolaidd â gwaed. Ceir theori bod y dyn ifanc yn siaman neu'n ddyn hysbys.

Yn dilyn diwedd Oes yr Iâ tua 10,000 mlynedd nôl dychwelodd pobl i'r hyn sydd nawr yn Gymru. Y cyfnod hyd at yr Oes Efydd, tua 4,000 mlynedd nôl, oedd y cyfnod pryd y gwelwyd adeiladu cromlechi a chylchoedd cerrig dros ymylon gorllewin Ewrop. Fel rheol, fe ffurfir cromlech gyda dwy neu dair carreg yn sefyll ar i fyny a chapfaen ar eu pen. Credir mai siambrau claddu yw cromlechi, ac, yn ôl haneswyr, dyma'r adeiladau parhaol cynharaf a godwyd gan bobl, yn hŷn na phyramidiau'r Aifft.

Ceir tua 150 o gromlechi yng Nghymru, y mwyaf nodedig ym Mhentre Ifan yn y Preseli, Sir Benfro.

Mae gan Sir Benfro hefyd gysylltiad gyda'r cylchoedd cerrig enwocaf ym Mhrydain, Côr y Cewri, neu 'Stonehenge' gan fod cylch mewnol y safle yn Wiltshire yn cynnwys cerrig glas, a ddaeth, mae'n debyg, o'r Preseli lle mae Pentre Ifan wedi ei leoli. Mae cylch cerrig hynafol Sir Benfro ei hun i'w canfod hefyd yn Y Preseli ei hun, yng Nghors Fawr, ger Crymych. Ceir nifer o rai eraill dros Gymru.

Credir i'r cylchoedd yma gael eu defnyddio ar gyfer defodau crefyddol, ond does dim cofnod ar gael o'r hyn a ddigwyddodd. Cafodd y traddodiad o godi cylchoedd cerrig ei adfer yn dilyn gweithgareddau yr hanesydd o'r 18fed ganrif, Iolo Morgannwg. Daeth yn rhan o weithgareddau yr Eisteddfod Genedlaethol, a hyd heddiw fe godir gylch cerrig lle bynnag mae'r Eisteddfod yn ymweld, a phan fo'r tywydd yn caniatáu, dyma ganolbwynt seremonïau Gorsedd y Beirdd yn ystod yr Eisteddfod. Dyna pam fod pobl yn meddwl bod yr hen Dderwyddon arfer ag addoli wrth y cylchoedd cerrig hyn.

Mae'n debyg i arferion crefyddol y bobl frodorol gael eu heffeithio gan ddyfodiad gwaith metel i Gymru, ynghyd â newid yn yr hinsawdd. I gychwyn fe beidiwyd â chodi cromlenni a chylchoedd cerrig. Roedd creu metel yn ddewiniaeth yn ei hanfod, a chafodd nifer o wrthrychau eu gwneud o efydd a haearn yn ogystal ag amrywiadau mwy gwerthfawr fel aur, arian a chopr. Mae'n debyg i'r gwrthrychau hyn ddod yn sylfaen crefydd ac iddynt gael eu cynnig yn offrwm i'r duwiau. Cafwyd hyd i nifer o wrthrychau metel yn dyddio o'r cyfnod yma, yn amrywio o arfau i offer bob-dydd, ar waelod llynnoedd hynafol yng Nghymru fel Llyn Cerrig Fach a Llyn Fawr.

Daeth arweinwyr crefyddol y defodau yma i'w hadnabod fel Derwyddon. Rydym yn gwybod mwy amdanynt na'u rhagflaenwyr oherwydd roeddynt yn byw pan ymestynnai'r Ymerodraeth Brydeinig i ogledd orllewin Ewrop, cyfnod sydd wedi ei gofnod'n gymharol dda. Ysgrifennodd Julius Caesar am y Derwyddon yn ystod ei ryfeloedd gyda'r Galiaid, ac mae gan yr hanesydd Tacitus ddisgrifiad byw iawn o'r ymosodiad ar Ynys Môn, neu Mona, un o gadarnleoedd y Derwyddon, yn AD 60.

Bu i'r ymosodiad yma ar Fôn ddod â Derwyddiaeth i ben fel grym effeithiol ym Mhrydain, ond cafodd addoli duwiau'r hen Frythoniaid ei oddef o dan y gyfundrefn Rufeinig o hyd.


Nesaf
Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy