BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Crefydd

Crefyddau
Dyfyniadau
Llinell Amser
Lluniau
Llusern
Straeon


BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Crefyddau
Croes y Cristion Cristnogaeth
Crefydd Tad a Mab ac Ysbryd Glan
gan Rheinallt Thomas
Hanes Cychwynnodd Cristnogaeth tua 35 OC a lledaenodd yn raddol nes bod erbyn heddiw Gristnogion ym mhob gwlad drwy'r byd.

Hi, o bosibl, yw'r grefydd fwyaf niferus yn y byd bellach.

Tardda'r gair Cristnogaeth o enw Iesu Grist, gŵr a dreuliodd rai blynyddoedd yn pregethu neges Duw cyn iddo gael ei groeshoelio.

Fel y lledaenai Cristnogaeth, datblygodd mewn gwahanol ffyrdd ac erbyn heddiw ceir tair prif gangen, a channoedd o fan ganghennau.

Y tair prif gangen yw:
  • Yr Eglwys Babyddol;
  • Yr Eglwys Uniongred (er enghraifft, Eglwys Uniongred Groeg ac Eglwys Uniongred Rwsia);
  • Yr Eglwys Brotestannaidd, (er enghraifft, Anglicaniaid, Presbyteriaid, Methodistiaid, Bedyddwyr ac ati).

    Mae llawer o grefyddau newydd yr ugeinfed ganrif hefyd a'u gwreiddiau mewn Cristnogaeth gan eu bod yn dilyn dysgeidiaeth Gristnogol y Beibl, llyfr cysegredig y Cristion.

    Tua 500 mlynedd wedi marwolaeth Iesu datblygwyd calendr newydd oedd i gychwyn gyda blwyddyn ei eni - ond roedd amcangyfrif yr ysgolheigion am ddyddiad ei eni rywfaint allan ohoni.

    Ganwyd Iesu tua 4 CC mewn gwirionedd ond rydym ni heddiw'n defnyddio'r un calendr a hwnnw'n gwahanu hanes i CC (Cyn Crist) ac OC (Oed Crist) neu AD (sef Blwyddyn yr Arglwydd).

    Man addoli
    Mae Cristnogion yn addoli mewn Eglwys - gair sy'n dod o'r Lladin ecclesia.

    Yng Nghymru ceir eglwysi sy'n perthyn i'r Eglwys Babyddol, i'r Eglwys yng Nghymru, a'r eglwysi anghydffurfiol sy'n cynnwys y Presbyteriaid, Methodistiaid a'r Bedyddwyr a nifer eraill.

    Yn yr eglwysi sy'n perthyn i'r Eglwys yng Nghymru mae'r cynllun fel rheol ar ffurf croes, sy'n cynrychioli croeshoeliad ac atgyfodiad Iesu.

    Ceir Allor mewn eglwys - ym mhen dwyreiniol yr adeilad fel rheol.

    Yn y pen arall ceir weithiau feindwr neu dŵr gyda chloch ynddo, fydd yn cael ei chanu ar adegau arbennig.

    Bydd y gynulleidfa'n eistedd ar seddau yng Nghorff yr eglwys.

    Y naill ochr a'r llall i'r corff ceir cilfachau.

    Gelwir gweddill yr eglwys yn Gangell.

    Mae yno bulpud a darllenfa hefyd.

    Rhennir Cymru yn esgobaethau, gyda'r Gadeirlan yn brif eglwys ym mhob esgobaeth.

    Yr Esgob yw pennaeth yr esgobaeth, a phennaeth y gadeirlan yw'r Deon.

    Mae'r eglwysi anghydffurfiol neu Gapeli fel y gelwir hwy yn aml, yn cynnwys rhai o nodweddion eglwys y plwyf ond fel rheol mae'r cynllun yn wahanol iawn a chan amlaf yn cynnwys sêt fawr i'r blaenoriaid neu ddiaconiaid.

    Ysgrythurau sanctaidd
    Rhennir y Beibl yn ddwy brif adran.
  • Yn Yr Hen Destament ceir dysgeidiaeth ynglŷn â sut y dymunai Duw i'r Iddewon fyw.

    Mae iddo 39 o 'lyfrau' yn cychwyn gyda Llyfr Genesis.

  • Mae'r Testament Newydd yn sôn arn gyfnod Iesu, a'r blynyddoedd yn dilyn ei farwolaeth pan sefydlwyd yr Eglwys Gristnogol.

    Rhannwyd y Testament Newydd yn 27 o 'lyfrau', oll yn annog dilynwyr Iesu i fyw yn unol â'i ddysgeidiaeth.

    Ni chafodd yr un o 'r llyfrau hyn eu hysgrifennu gan Iesu ei hun ond naill ai gan ei ddisgyblion cyntaf neu gan Gristnogion eraill y cyfnod.

    I Gristnogion mae'r Testament Newydd yn gwireddu addewid yr Hen Destament.
    Mae'n adrodd am, ac yn dehongli'r Cyfamod (cytundeb ) newydd rhwng Duw a 'i bobl, sy'n cael ei wireddu drwy fywyd a marwolaeth Iesu.

    Fel yn yr Hen Destament ceir ynddo amrywiaeth o ddulliau ysgrifennu ac ymhlith y 27 llyfr ceir:
    • Atgofion am fywyd a gweithredoedd a dywediadau Iesu yn y pedair Efengyl.
    • Adroddiad hanesyddol o flynyddoedd cynharaf yr Eglwys Gristnogol yn Actau'r Apostolion.
    • Nifer o Epistolau neu lythyrau sy'n llawn cynghorion.
    • Ac, i orffen, disgrifiad apocalyptaidd o ymyriad Duw mewn hanes, Llyfr y Datguddiad.
    Credoau
    Gellir rhannu credoau Cristnogol yn dair rhan a'u crynhoi o dan y teitl Y Drindod Sanctaidd:
    • Y Tad - Mae Cristnogion yn credu mewn un Duw, sydd yn hollalluog. Creodd Duw y byd a'r cwbl sydd ynddo. Mae fel tad sydd yn gwarchod ac yn gofalu am ei bobl.
    • Y Mab - daeth Iesu Grist, mab Duw, i'r ddaear ar ffurf dyn i ddysgu pobl am Dduw. Bu farw ar y groes gan wneud yr aberth eithaf. Mae bellach gyda Duw yn y nefoedd ond bydd yn dychwelyd rhyw ddiwrnod i farnu dynoliaeth.
    • Yr Ysbryd Glân - yw grym Duw sy'n cyfnerthu ei bobl. Mae'r Ysbryd Glan o fewn pawb a phopeth ond nad yw rhai pobl yn gadael iddo ddylanwadu ar eu bywydau.
    Gwyliau
    Mae'r gwyliau Cristnogol yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym mywyd Iesu. Dyma rai o'r rhai pwysicaf.
    • Adfent: caiff ei dathlu ar y pedwar SuI cyn y Nado1ig.
    • Nadolig: genedigaeth Iesu ar Ragfyr 25.
    • Y Grawys: y deugain diwrnod ac eithrio'r Suliau, cyn y Pasg.
    • Sul y Blodau: y diwrnod yr aeth Iesu i mewn i Jerwsalem.
    • Dydd Iau Cablyd: diwrnod y Swper Olaf.
    • Dydd Gwener y Groglith: diwrnod croeshoelio Iesu.
    • Dydd Sul Y Pasg: diwrnod Atgyfodiad Iesu.
    • Dydd Iau Dyrchafael: dathlu esgyniad Iesu i'r Nefoedd.
    • Y Sulgwyn (Y Pentecost): y seithfed Sul wedi'r Pasg i ddathlu rhoddi'r Ysbryd Glân i'r Apostolion.
    Cristnogion a Chymru
    Mae eglwysi a chapeli ym mhob dinas, tref a phentref yng Nghymru yn perthyn i'r amrywiol enwadau.

  • Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 71.9% o boblogaeth Cymru yn Gristnogion (2,087,242) gyda 18.5% (537,935) yn honni eu bod yn ddigrefydd.
    Yn ôl yr un cyfrifiad 2001 roedd 0.2% o boblogaeth Cymru yn Fwdhiaid (5,407) Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd 0.2% o'r boblogaeth yn Hindwiaid (5,439), 0.1% yn Iddewon (2,256), 0.7% yn Fwslimiaid (21,739) a 0.1% yn Sikhiaid (2,015).

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy