BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
15fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Crefydd

Crefyddau
Dyfyniadau
Llinell Amser
Lluniau
Llusern
Straeon


BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Crefyddau
Bwdhaeth
Tywysog yn troi cefn ar fywyd moethus
Rheinallt Thomas yn trafod Bwdhaeth
Hanes
Crefydd a gychwynnodd yn yr India tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl yw Bwdhaeth ac erbyn heddiw yng ngwledydd Dwyrain Pell Asia y mae amlycaf.

Y sylfaenydd y oedd Siddartha Guatama a anwyd 560 C.C.

Roedd ei fywyd yn un a weddai i dywysog nes yr oedd yn 29 oed ond pan welodd dlodi'r bobl, yr afiechydon a'r anobaith, gadawodd ei fywyd moethus, diogel, i chwilio am ateb i'r holl ddioddefaint a ddeuai i ran dynoliaeth a cheisio heddwch i'r enaid.

Treuliodd gyfnod gyda mynaich o wahanol urddau ond heb gael yr ateb a ddymunai.

Pan gyrhaeddodd Bodh-Gaya (yr enw modern) eisteddodd dan goeden ffigys a myfyrio am 46 diwrnod nes cyrraedd yr hyn y cyfeiria Bwdhiaid heddiw ato fel goleuedigaeth eithaf.

Cyflwr o fyfyrdod yw hwn sy'n galluogi person i weld bywyd yn union fel ag y mae ac i ganfod atebion i broblemau dynol.

O hyn allan galwyd ef y Bwdha, sy'n golygu 'yr un goleuedig'.

Teithiodd y Bwdha i Benares lle pregethodd ei bregeth gyntaf.

Hyd ei farw yn 80 oed, teithiodd ar hyd a lled yr India yn pregethu ei ffordd newydd o feddwl a elwir 'y ffordd ganol'.

Dwy gangen
Heddiw ceir dwy gangen o Fwdhaeth:
Ysgol y Gogledd sef Mahayana,
Ysgol y De sef Theravada.

Mae hanfodion y grefydd yn gyffredin i'r ddwy gangen, ond cred y Mahayaid mai bod tragwyddol yn hytrach na bod dynol oedd y Bwdha, tra chred y Theravadiaid mai bod dynol oedd, ond gyda galluoedd eithriadol.

Man addoli
Bydd Bwdhiaid yn gweddïo mewn mynachlogydd, cysegrfannau neu demlau sy'n amrywio'n fawr o ran maint a chynllun.

O fewn y rhan fwyaf o fynachlogydd bydd mynaich yn edrych ar ô1 y lle.

DelwauSymlrwydd yw'r allwedd i'w ffordd o fyw. Bydd cysegrfan y fynachlog yn am1 yr adeiladwaith mwyaf disglair a chymhleth yn y lle gyda llun, neu fwyaf tebyg, gerflun o Bwdha yno.

Bydd lle wedi ei neilltuo gerllaw i dderbyn offrymau, yn ogysta1 â lle i bobl eistedd a gweddïo neu fyfyrio.

Caiff temlau a chysegrfannau eu hadeiladu lle bynnag y bo galw amdanynt.

Ym Mhrydain gallwch ganfod allor mewn tai, neu unrhyw adeilad arall sydd yn fan cyfarfod i'r Bwdhiaid.

Pum elfen
Mae symbolau pum elfen y ffydd ym mhob cysegrfan. Y pump yw:
Daear
Tân
Dŵr
Awyr
Doethineb.

Gosodir symbolau o'r elfennau hyn yn strategol o gylch y gysegrfan.

Mae myfyrio yn hynod o bwysig i Fwdhiaid, a bydd llawer yn treulio awr neu ddwy bob diwrnod yn myfyrio mewn cysegrfan neu fan arall.

Ysgrythurau sanctaidd
Ar y cychwyn lledaenwyd credoau Bwdhaidd drwy adrodd hanesion a'u trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yr ysgrythurau cynharaf sydd wedi goroesi hyd heddiw yw arysgrifau ar feini carreg o tua 250 C.C.

O'r ail ganrif y daw'r fersiwn gyflawn gyntaf i oroesi o'r Ffordd Rinweddol.

Geilw Bwdhiaid ysgol y Theravada eu llyfr cysegredig hwy yn Tri-Pitake, ac mae iddo dair adran:
  • Mae'r rhan gyntaf yn ymdrin â'r bywyd
    disgybledig y disgwylir i fynaich ei ddilyn.

  • Mae'r ail ran yn cynnwys dysgeidiaeth y
    Bwdha.

  • Yn y drydedd ran ceir esboniad ar
    ddysgeidiaeth y Bwdha, ac
    eglurhad ar brif ddaliadau'r grefydd.


Yr ail lyfr yw'r un a ystyrir bwysicaf, a cheir ynddo 540 o hanesion am y Bwdha.

Yr adran bwysicaf o bosibl yw, Y Llwybr Rhinweddol.

Y mae llawer o Fwdhiaid yn gwybod yr adran hon ar eu cof.

Mae Bwdhiaid ysgol y Mahayana yn defnyddio llawysgrifau (Sutrau) eraill yn ogystal, wedi eu hysgrifennu mewn Sanskrit a ieithoedd Hindwaidd hynafol eraill.
Y pwysicaf o' r rhain yw Ysgrythur y Lotws.

Credoau
Y ddwy gred bwysicaf o fewn Bwdhaeth yw:
  • Samsara sef y gred y bydd person wedi ei
    farwolaeth yn cael ei aileni, naill ai yn fod dynol neu yn anifail neu greadur.
    Yr unig ffordd i osgoi aileni yw cyrraedd y stad o
    Nirvana, drwy fyfyrdod, sy'n codi'r ymwybyddiaeth
    uwchlaw cylch geni ac aileni.
  • Karma yw'r gred fod yr hyn a wna person
    mewn bywyd wedi ei gofnodi.


I'r Bwdhiaid mae Pedwar Gwirionedd Urddasol, sef:
  • Mae dioddef yn rhan o fywyd

Teml yn Nhibet
  • Trachwant hunanol sy'n
    achosi dioddef

  • Mae dioddefaint yn peidio os llwyddir i drechu'r chwantau.

  • Gellir trechu'r chwantau drwy ddilyn y llwybr wythplyg:
    Derbyniwch ddysgeidiaeth y Bwdha;
    Gweithredwch ddysgeidiaeth y Bwdha;
    Peidiwch a dweud celwydd na siarad yn gas;
    Peidiwch a lladd dim,
    Osgowch gyffuriau,
    Peidiwch â dwyn,
    Peidiwch a godinebu;
    Dilynwch yrfa sy'n eich galluogi i fyw yn ôl
    dysgeidiaeth y Bwdha;

Drwy fyw yn gywir mae'n haws cyrraedd Nirvana;
Rheolwch eich meddwl drwy fyfyrdod;
Myfyriwch a chanolbwyntiwch yn ddwys i gyrraedd Nirvana

Gwyliau
Dethlir Magha Puja yn ystod lleuad llawn mis Chwefror.

Gorymdeithio Dethlir Wesak am dri diwrnod yn Mai.

Mae Asala yn dathlu genedigaeth y Bwdha.

Dethlir Oban yn Siapan i gofio hynafiaid.

Mae gan y Chineaid ŵyl debyg, Ddydd yr Eneidiau Coll.

Gŵyl Siapaneiadd arall yw Higan, lle'r offrymir gweddïau i'r meirw.

Mae'r FIwyddyn Newydd yn ŵyl hynod o bwysig i Fwdhiaid gyda dathliadau yn amrywio o wlad i wlad ond ceir elfennau tebyg, fel anrhydeddu'r Bwdha, rhyddhau pysgod i afonydd, rhyddhau adar a gaethiwyd a chynnal gorymdeithiau.

Yng Nghymru
Mae canolfannau Bwdhaidd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, Penrhos ger Raglan , Cwmbrân a Llangunllo (Powys).


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy