 |
"Wrth helpu nain i sbring clinio dyma fi'n dod ar draws scrapbook rhyfal taid."

 Taid - Yr Arwr Cudd Sara Angharad Roberts, Sbarc!, Galeri Caernarfon
|
 |
Cymdeithasu oddi adref
Daw Sara i ddarganfod mwy am brofiadau ei thaid adeg rhyfel. Stori ddigidol gan Sbarc!, Galeri Caernarfon. Gyda diolch i Sbarc!
 Gwalia gan Liz Fletcher Oni'n meddwl 'rioed na soldiwr odd taid yn rhyfal tan 'chydig wsnosa 'nol.
Wrth helpu nain i sbring clinio dyma fi'n dod ar draws scrapbook rhyfal taid ac yn 'i ganol o, odd na ddyddiadur odd o di sgwennu tra odd o yn yr Almaen yn ystod yr ail ryfal byd.
Wrth ddarllan y dyddiadur, dyma fi'n dod i ddeall na dim soldiwr odd taid wedi'r cyfan, ond yn hytrach Caplan a Swyddog Lles hefo'r YMCA.
Nath neb 'rioed sylwi na bathodyn y YMCA odd ar i fraich o yn y llun.
Teithio ar hyd a lled Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a'r Almaen odd taid, gan ddreifio lori yn gwerthu nwydda' fatha siocled a sigaréts i'r soldiwrs.
Ddoth taid ar draws llawar o filwyr Cymraeg pan odd o yn y rhyfal - Deiniol Williams o Lanbabo a Ken El o Fethal - i enwi ond rhai.
Ar y 7fed o Fedi 1940 pan o'dd taid yn Tilberg, dyma fo'n gweld dyn ar ochor y stryd efo "Taffy" ar i gefn o. A'th taid ato fo a gofyn yn Gymraeg o le odd o'n dod, ag atebodd o - o G'narfon. William Jones odd i enw fo - Wil Co-op i bawb yn ardal C'narfon, am i fod o yn dreifio fan Co-op o gwmpas. Yr un d'wrnod dyma fo'n cyfarfod Johnny Castall o Lanrug.
Nath cyfarfod yr holl bobl 'ma 'i sbarduno fo i fynd ati i ffurfio Cymdeithasa Cymraeg yn hosteli'r YMCA, gan drefnu cyngherdda' a dramâu i'r milwyr, gan i g'neud nhw'n gartrefol mewn gwlad ddiarth, a rhoi cyfla' iddyn nhw gymdeithasu drwy'u mam iaith.
Ella na dim soldiwr odd taid, a 'nath o'm cwffio yn erbyn y "Jerry's", ond nath o lot i helpu'r soldiwrs, yn enwedig y soldiwrs Cymraeg, a ma hynny'n gneud taid yn fwy o arwr i fi.
Eich sylwadau... Beth ydych yn meddwl am y stori yma? Gadewch i ni wybod.
|  |
|