bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
8fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cipolwg ar Gymru

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Cipolwg ar Gymru
Cefndir
Sylwadau
Straeon fesul ardal
Capture Wales (Saesneg)

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb








"Ar goll mewn gwe. Chwilio am wythïen. Y di-ffurf, y dim, ac eto, y bob dim."

Ar goll mewn gwe. Chwilio am wythïen. Y di-ffurf, y dim, ac eto, y bob dim.

Gweld o'r Gwagle
Rhiannon Williams, Sbarc!, Galeri Caernarfon
Chwilio am ddiffiniad
O edrych allan o'r gwagle, daw rhai pethau i'r amlwg ac eraill sy' angen diffiniad pellach.
Stori ddigidol gan Sbarc!, Galeri Caernarfon. Gyda diolch i Sbarc!

Gweld o'r Gwagle gan Rhiannon Williams
Ar goll mewn gwe. Chwilio am wythïen. Y di-ffurf, y dim, ac eto , y bob dim.

Staen anrhefn yn y Drefn. Straen y deud hawdd ond y mynegi anodd.

Gwaed ? Ta gwaedd? Oes 'na batrwm yn y blerwch?

Welwch chi'r byd o bell i ffwrdd? Y gweld o'r gwagle? Dibwys ydi'n daliada'.

Tegan o flaen y lleuad oer.

O'n i'n fferru a dim dihangfa.

Fel pelan fach wrth bwar yr haul, dwi'n wlyb o chwys.

Mor drwm ydi tynfa'r ddaear. Hen wers mewn gwyleidd-dra.

Mewn fflach , cyfrinachedd. Bybl yn byrstio, pelydr-x.

Be di'r gofod yn fy nheg? Y dwdlo diddiwedd yn fy mhen?

Mi fachludodd y Dolig bregus, y dathlu amharod.

A rwbath yn torri, torri'n ddwy, dŵad i ben.

Fyny fanna, yn y byd arall, lle gwell, tu hwnt i'r gwynt a'r glaw.

Lle llonydd - lle mae cariad megis arbrawf a synnwyr mewn breuddwydion.

Eich sylwadau...
Beth ydych yn meddwl am y stori yma?
Gadewch i ni wybod.
Yr Wyddfa
Taith
"Peth rhyfedd ydy bod yn unig ymysg pobol."
Carol Hughes
Siop
Siopa'r Oes O'r Blaen
"Erbyn heddiw, toes dim ond un siop ar ol sef y becws a'r banc."
Griff Roberts
Bolougne
Perthyn
"Ma'r pabi coch yn ein hatgoffa amdano bob amser."
Gwen Jones
Siop Gwalia
Gwalia
""A bechdan ham and a te in a cowpen", atebais yn fy Saesneg gora. "
Elizabeth Fletcher


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy