 |
"Ond fel aml i bentref arall yng Nghymru mae niferoedd yn yr ysgol yn disgyn..."

 Croeso Croesor Rhian Croesor, Bangor, Tachwedd, 2002
|
 |
Croeso wrth y Cnicht
Mae Rhian yn sôn am y newidiadau sydd wedi ac yn parhau i ddigwydd yng Nghroesor, a'r gobaith at ddyfodol y pentref.
 Dywedwch rywfaint o'ch hanes. Cefais fy ngheni a'm magu yng Nghroesor, Gwynedd - pentref bychan ar droed y Cnicht a'r Moelwyni. Rwyf yn fam i dri o blant ac yn nain i ddau. Rwy'n gweithio rhan amser yn rhoi cyrsiau ymlaen yn y gymuned. Fy nghymuned, dysgu, chwarae'r piano a darllen yw fy mhrif ddiddordebau.
Am beth mae eich stori yn sôn? Ar hyn o bryd rwy'n gwirfoddoli ar brosiect cymunedol - Cynllun Bryngelynnen. Rydym wedi prynu hen ffermdy ar bwriad yw i newid y lle i Neuadd Bentref, Ty Bynciau, Caffi a thoiledau cyhoeddus. Stori am sut mae rhoi gwaith gwirfoddol i ddefnydd yw'r stori yma, a sut all cychwyn efo cynllun bach tyfu i rywbeth fwy. Rwy'n gobeithio bod y stori yn dweud beth rwyf i yn cael allan o weithio ar y prosiect a hefyd fy mhryderon i am bentref bach Croesor a pentrefi eraill ar hyd Cymru.
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol? Mi oedd yn gyfle gwych ac yn fenter arloesol iawn yn yr ardal. Rwyf wedi mwynhau cyfarfod y storïwyr eraill ac rwy'n edrych ymlaen i ehangu mwy yn y maes.
Darllenwch y stori.Eich sylwadau... Beth ydych yn meddwl am y stori yma? Gadewch i ni wybod. |  |
|