 |
"O ni wrth y modd yn gweld gwyneba'r plant wrth i mi gario'r gacan i fewn."

 Cacan Mam 'Di'r Gora Rhian Cadwaladr, Sbarc!, Galeri Caernarfon
|
 |
Cacennau Cariad
Daw Rhian i fwynhau'r llafur cariad y tu ol i ganolbwynt arbennig y bwrdd te parti. Stori ddigidol gan Sbarc!, Galeri Caernarfon. Gyda diolch i Sbarc!
 Cacan Mam 'Di'r Gora' gan Rhian Cadwaladr Nath hi gymryd tair awr i mi 'neud cacan pen-blwydd gynta' Meilir. Wel - rodd rhaid i mi neud r'wbath go spesial i fynd i ganol y bwrdd te parti. Fe drodd y gacan yna i fod yn gynta' o nifer gan i mi ga'l tri plentyn arall.
Dwi di colli cownt o faint yn union dwi di neud ond yn eu plith rodd na dedi, bwni, trên, Sion Corn (babi Dolig o'dd Leri ), Ynys y trysor, ceffyl, trên arall, Sion Corn arall.
O ni wrth y modd yn gweld gwyneba'r plant wrth i mi gario'r gacan i fewn.
Pan ddechreuodd yr archfarchnadoedd werthu pob math o gacenna pen-blwydd nesh inna ddilyn y ffasiwn a phrynu cacan siop.
Ond doedda nhw ddim cystal chwaith - roedda' nhw'n edrych yn dda ond yn rhy felys a rhy sych a ddim yn ddigon spesial rwsud felly esh i 'nôl i'r gegin a gneud nhw'n hun.
Be o'dd ots os oedd y deinosor braidd yn debyg i gwningen, y tŷ bach twt ddim mor dwt â hynna ne'r sgwennu yn flêr - roedda nhw i gyd wedi eu gneud efo cariad.
Ac er bod y babi cynta' yn tynnu at ei ugain erbyn hyn - cacan Mam di'r gora o hyd!
Eich sylwadau... Beth ydych yn meddwl am y stori yma? Gadewch i ni wybod.
|  |
|