 |
"Mae'r criw i gyd yn gwybod sut i gael hwyl a mae'n nhw fel teulu i fi... ond pan mae'n dod i'r 'job', mae nhw'n 'serious'. "

 Cwch Achub Abermaw Kate, Gweithdy Ffonau Symudol, Chwefror 2008
|
 |
Arwyr Bâd Achub Abermaw
Cofia Kate am arwyr Bâd Achub Abermaw ac mae ganddi neges bwysig i'r sawl sy'n mynd allan i'r môr. Cafodd y stori yma ei greu ar Weithdy Ffonau Symudol, Chwefror 2008.
 Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Dwi'n byw yn Bermo. Mae gen i dair chwaer a tri brawd a dwi'n byw hefo fy Nain. Dwi'n hoffi pelrwyd.
Am beth mae eich stori yn sôn?
Mae fy stori am Gwch Achub Bermo ac am fy nhad ac Alan. Mae pobl yn cymryd criw Cwch Achub yn 'guaranteed' a dyw e' ddim yn iawn. Mae'r criw yn arbennig iawn i fi achos mae'n 'voluntary' ac mae nhw'n achub bywydau.
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol? Mae'n roi siawns i mi ddangos i bobol eraill yr hyn mae'r Cwch Achub yn ei wneud.
Darllenwch y stori.Eich sylwadau... Beth ydych yn meddwl am y stori yma? Gadewch i ni wybod. |  |
|