bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SUL
15fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cipolwg ar Gymru

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Cipolwg ar Gymru
Cefndir
Sylwadau
Straeon fesul ardal
Capture Wales (Saesneg)

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb








"Ma'r pabi coch yn ein hatgoffa amdano bob amser."

Ma'r pabi coch yn ein hatgoffa amdano bob amser.

Perthyn
Gwen Jones, Sbarc!, Galeri Caernarfon
Gwreiddyn yn nhir tramor
Mae'r teimlad o berthyn i Ffrainc yn magu fwyfwy wrth i Gwen a'i theulu ddarganfod fod yna gysylltiad teuluol i'r wlad.
Stori ddigidol gan Sbarc!, Galeri Caernarfon. Gyda diolch i Sbarc!

Perthyn gan Gwen Jones
Mi rydan ni'n licio mynd i Ffrainc am wylia, ac wedi bod sawl gwaith. Ma' Dafydd, y gŵr yn enwedig yn teimlo'n gartrefol yno a theimlo ei fod yn perthyn. Mae o'n hoff o'r bloda' haul, yr ymlacio a'r gateau. Ond erbyn hyn, ma' 'na reswm arall hefyd.

Ar ol i ni fod yna'r tro cynta' yn 1975 a deud yr hanas wrth rieni Dafydd, dyma'i dad yn deud fod ei dad o wedi ei gladdu yn Boulogne. Rodda ni'n gw'bod fod taid Dafydd wedi ca'l ei ladd yn y Rhyfel Mawr ond dyma'r tro cynta' i ni gl'wad am y fan a'r lle. Mi gawson ni w'bod yn reit sydyn o'r War graves commision yn Llundan ac wedyn mi naetho' ni drip arbennig i chwilio amdano.

David David Jones o'dd ei enw, ac mi fuo fo farw yn saith ar hugain oed yn 1917. Ro'dd y fynwant ar y Rue St Omer yn Boulogne. Lle hyfryd a graen haeddiannol arni. Mi ddaethon ni blanhigyn a grug o Eryri ar y bedd ac aros gryn dipyn i ni ga'l llunia arbennig i fynd adra i Tom, tad Dafydd. Anodd coelio na welodd 'rioed mo'i dad, na chwaith ei fedd. Ni o'dd y rhai cynta' o'r teulu i fod yno, a 'da ni'n mynd bob tro y bydda ni yn ardal Boulogne.

Ma' rhai o'n teulu ni wedi bod yna yn achlysurol hefyd. Y d'wrnod y gwelish i rai o'n plant a'n hwyrion ni yn sefyll wrth y bedd nesh i sylweddoli mai yno o'dd un o'u gwreiddia a bod David David Jones yn r'an enfawr ohonyn nhw. Mi deimlish i i'r byw.

Ma'r pabi coch yn ein hatgoffa amdano bob amser ac felly ro'dd gweld pabi coch mewn cae yn Ffrainc yn reswm arall dros ein hoffter o'r lle, ac mai yn ei thir ma'r dynfa i Dafydd fynd yno. Rhyfadd o fyd. Ma' miloedd o'r bedda' yma yn Ffrainc a ma' nhw'i gyd yn perthyn i rywun.

Eich sylwadau...
Beth ydych yn meddwl am y stori yma?
Gadewch i ni wybod.
Yr Wyddfa
Taith
"Peth rhyfedd ydy bod yn unig ymysg pobol."
Carol Hughes
Siop
Siopa'r Oes O'r Blaen
"Erbyn heddiw, toes dim ond un siop ar ol sef y becws a'r banc."
Griff Roberts
Bolougne
Perthyn
"Ma'r pabi coch yn ein hatgoffa amdano bob amser."
Gwen Jones
Siop Gwalia
Gwalia
""A bechdan ham and a te in a cowpen", atebais yn fy Saesneg gora. "
Elizabeth Fletcher


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy