bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SUL
15fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cipolwg ar Gymru

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Cipolwg ar Gymru
Cefndir
Sylwadau
Straeon fesul ardal
Capture Wales (Saesneg)

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb








"Erbyn heddiw, toes dim ond un siop ar ol sef y becws a'r banc."

Erbyn heddiw, toes dim ond un siop ar ol sef y becws a'r banc.

Siopa'r Oes O'r Blaen
Griff Roberts, Sbarc!, Galeri Caernarfon
Argraffiadau Stryd Turner
Teimla Griff bod cwymp yn y siopau arbennigol yn ei bentref Lanber wedi effeithio'n fawr ar galon y gymuned.
Stori ddigidol gan Sbarc!, Galeri Caernarfon. Gyda diolch i Sbarc!

Siopa'r Oes O'r Blaen gan Griff Roberts
Hogyn o Lanber dwi. Gesh fy ngeni a'n magu mewn stryd o'r enw Turner, ac o fewn tafliad carreg ro'dd tua pymthag o siopa. Rhai bach a rhai tipyn mwy.

Drws nesa i ni ro'dd gweithdy crud, ble ro'dd Dafydd crudd yn trwsio sgidia yn ei barlwr. Ar ben y stryd ro'dd banc y Midland. Drws nesa i'r banc ro'dd siop Mrs Jones Wyddfyd yn gwerthu petha da, a siop Anti Gwen yn gwerthu union run peth!

Ar ben y stryd, ro'dd E.B.Jones y grosar, a dros ffordd ro'dd siop Richey pen bryn yn gwerthu bara, a'r becws yn y cefn.

Ar gornel stryd Goodman ro'dd siop Glandwr, a siop grosar arall o'dd hwnnw. Ychydig i fewn yn y stryd ro'dd siop fwyd Dilys Baylis Meirionfa. A dros y ffordd ro'dd Mr Davies Gwenfro. Ia, gwerthu bwyd o'dd o hefyd.

Drws nesa ro'dd Tomos Pritchard, yn gwerthu paent, papur wal, celfi o bob math, a tu ôl i'r siop ro'dd cwt mawr lle o'dd seiri yn gneud eirch.

A dwi'n cofio Moi Lewis - cigydd, a lladd-dy yn y cefn. A siop Miss White yn gwerthu coed tan a chanhwylla, ac yn yr un stryd ro'dd siop fish and chips.

Erbyn heddiw, toes dim ond un siop ar ol sef y becws a'r banc.

Da chi'n mynd i'r archfarchnad heddiw, hel eich siopa - ma'r archfarchnad yn cynnwys pob dim. Un siop sy na rŵan yn lle o'dd 'na amryw o siopa. Ers sdalwm, odd ganddoch chi siop da da, siop baco, siop bara, siop gig. Ac yn yr hen siopa bach sdalwm yn Llanber, o'dd 'na sgwrs a chymdeithas. Mi o'dda nhw'n lot mwy cartrefol - mi o'dd y perchennog yn siarad efo chi.

Ar ol i siopa bach a'r capeli gau, roth ddiwadd ar y gymdeithas glos fel yr o'dd hi 'sdalwm.

Eich sylwadau...
Beth ydych yn meddwl am y stori yma?
Gadewch i ni wybod.
Yr Wyddfa
Taith
"Peth rhyfedd ydy bod yn unig ymysg pobol."
Carol Hughes
Siop
Siopa'r Oes O'r Blaen
"Erbyn heddiw, toes dim ond un siop ar ol sef y becws a'r banc."
Griff Roberts
Bolougne
Perthyn
"Ma'r pabi coch yn ein hatgoffa amdano bob amser."
Gwen Jones
Siop Gwalia
Gwalia
""A bechdan ham and a te in a cowpen", atebais yn fy Saesneg gora. "
Elizabeth Fletcher


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy