 |
"Sbaeneg oedd fy iaith, ond nid iaith fy nain a symudodd i fyw gyda ni."

 Hirdaith Fabio Lewis, Caerdydd, Medi 2002
|
 |
O'r Wladfa i'r Hen Wlad
Gwrandewch ar hanes arbennig Fabio Lewis o Batagonia. Mae'n bellach yn ail-afael yn hanes ei hen, hen daid yn ogystal a chreu hanes eu hun yma.
 Beth yw eich hanes chi? Fabio Lewis yw f'enw i. Dw i'n dod yn wreiddiol o bentref bach Dolavon, Dyffryn Camwy, Patagonia. Dw i'n byw ar hyn o bryd yn yr Hendy, ger Llanelli, gyda fy nyweddi. Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr iaith Gymraeg a hanes fy nheulu. Ymfudodd fy hen, hen daid - Lewis Davies - i Batagonia ar long y Mimosa yn 1865. Dw i'n mwynhau teithio a chanu, a dwi wedi cystadlu'n flynyddol yn Eisteddfod y Wladfa, Trelew.
Am beth mae eich stori yn sôn? Dwi wedi dewis adrodd hanes fy nheulu yn ymfudo i Batagonia o Aberystwyth, gan sôn yn arbennig am ddylanwad y Gymraeg ar fy mywyd. Sbaeneg oedd iaith yr aelwyd, er bod fy rhieni yn siarad Cymraeg â'i gilydd, ro'n nhw'n siarad Sbaeneg gyda ni y plant. Ond pan symudodd nain i fyw gyda ni, roedd hi bob amser yn siarad Cymraeg gyda ni, felly roeddwn yn clywed yr iaith bob dydd. Dwi wedi ymweld â Chymru, cynorthwyo mewn dosbarthiadau Cymraeg yn y Wladfa, ac wedi bod yn athro Cymraeg i ddosbarth dechreuwyr. Mae'r rhod wedi troi, a dw i nawr yn yr Hen Wlad, ac ar fin priodi â Chymraes yma.
Pam y gwnaethoch ddewis sôn am y stori yma'n arbennig? Am fod y Gymraeg wedi chwarae rhan mor fawr yn fy mywyd, ac am fod gen i gymaint o ddiddordeb yn hanes fy nheulu yma yng Nghymru.
Beth oedd eich profiad chi o greu stori ddigidol eich hun? Roedd yn brofiad newydd a diddorol i mi, ac yn ffordd dda o gofnodi fy hanes. Dysgais lawer am y meddalwedd - hoffais y broses o sganio ac addasu lluniau. Roedd yn grêt gweld sut oedd stori yn dod at ei gilydd.
Eich sylwadau... Beth ydych yn meddwl am y stori yma? Gadewch i ni wybod.
|  |
|