bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SUL
15fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cipolwg ar Gymru

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Cipolwg ar Gymru
Cefndir
Sylwadau
Straeon fesul ardal
Capture Wales (Saesneg)

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb








""A bechdan ham and a te in a cowpen", atebais yn fy Saesneg gora. "



Gwalia
Elizabeth Fletcher, Sbarc!, Galeri Caernarfon
Croeso yng Nghaffi Gwalia
Dewch mewn i gaffi clud Gwalia. Mae yna groeso mawr yn eich disgwyl yn ogystal â paned, cacen... ac ambell i sgerbwd efallai.
Stori ddigidol gan Sbarc!, Galeri Caernarfon. Gyda diolch i Sbarc!

Gwalia gan Elizabeth Fletcher
Os ydach chi ym Mhwllheli ryw dro ac yn ffansio panad cofiwch alw i mewn i Caffi Gwalia. Caffi teulu ni, y Pritchards ydi Gwalia ers bron i hannar can mlynadd.

Becar o'dd dad, yn berchan ar Central Stores, Pen y groes pan brynodd o a mam Gwalia. Plant Pwllheli ydi Eric, Sifian a fi.

Dwi'n cofio'n iawn i ni fynd yna am y tro cynta' i ga'l te efo Mrs Griffiths, y perchennog ar y pryd. Roddwn i'n dipyn o lances.

"What would you like for tea Elizabeth?" gofynnodd Mrs Griffiths i mi.
"A bechdan ham and a te in a cowpen", atebais yn fy Saesneg gora.

Ond fel 'na ro'n i isio bod, yn grand fel fy ffrindia. Do'dd byw uwchben siop ddim yn fy mhlesio. Ma' mam yn cofio i mi ofyn iddi ryw dro "Pa bryd da ni'n mynd i ga'l drws ffrynt neis fel pawb arall?"

Ond bu rhaid i mi weithio yn y siop yn gwerthu cacenni a bara bob gwylia ha a ro'n i'n ca'l llond bol ar ofyn i Saeson o'dd isio prynu eclairs a cream slices "In a bag or a box, in a bag or a box" fel rhyw barot gwallgo!

Ro'dd dad yn casglu clefydda' a'u dangos ar wal y caffi. Un Nadolig, pan oedda' ni yn teenagers mi gafodd fy mrawd, chwaer a minna' barti yn y caffi pan o'dda ni'n teenagers. Tynnodd nifer o'r gwesteion meddw rhain i lawr a dechra' cwffio efo nhw! Gwyrth nad a'th amball i feddwyn adra namun coes chwith neu fraich dde!

Tydi Gwalia heb newid llawar ers hannar canrif. Yr un byrdda' a chadeiria a chasgliad o lestri prydferth sy yna o hyd. A chofiwch, peidiwch a dod heb arian. Tydi switch na Access wedi cyrra'dd eto. Ma'r hen dil hefo rhes o fotyma sy angan eu gwasgu'n galad yn dal i gymryd pres.

Os nad ydi'r lle wedi altro wedi altro rhyw lawar, ma'r staff pan oeddwn i'n ifanc wedi hen fynd. Ond, da ni'n dal i siarad amdanyn nhw dros fwrdd cinio neu dros banad.

Un Gŵyl Banc Gofynnodd mam mond am skeleton staff un ŵyl banc. Un o'r waitresses a ddaeth o'dd Palmeira. Pan gwynodd ryw Saeson wrthi fod y gwasanaeth yn rhy ara' deg, atebodd hitha'.

"It's no use complaining - we are a staff of skeletons!"

Tydi Gwalia heb newid llawar - a pheth braf 'di hynny; bod cysondeb mewn byd mor gyfnewidiol.

Ond yn y diwadd, wrth gwrs, ma' popeth yn newid, ac efallai mai'r unig beth sy'n aros o hyd ydi ein hatgofion ni. Diolch am atgofion sy mor felys a drws ffrynt sy mor fawr.

Eich sylwadau...
Beth ydych yn meddwl am y stori yma?
Gadewch i ni wybod.
Yr Wyddfa
Taith
"Peth rhyfedd ydy bod yn unig ymysg pobol."
Carol Hughes
Siop
Siopa'r Oes O'r Blaen
"Erbyn heddiw, toes dim ond un siop ar ol sef y becws a'r banc."
Griff Roberts
Bolougne
Perthyn
"Ma'r pabi coch yn ein hatgoffa amdano bob amser."
Gwen Jones
Siop Gwalia
Gwalia
""A bechdan ham and a te in a cowpen", atebais yn fy Saesneg gora. "
Elizabeth Fletcher


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy