 |
"Peth rhyfedd ydy bod yn unig ymysg pobol."

 Taith Carol Hughes, Sbarc!, Galeri Caernarfon
|
 |
Cyrraedd y Copa
Siwrne personol Carol. Stori ddigidol gan Sbarc!, Galeri Caernarfon. Gyda diolch i Sbarc!
 Taith gan Carol Hughes Llynedd roedd Owain yn dathlu 'i ben-blwydd yn ddeg oed ond doeddwn i ddim yn medru bod yna i rannu'r miri. Roedd iselder wedi fy nal yn ei grafanc dur am yr eil dro.
Doeddwn i ddim yn medru cysgu, na b'yta. Doeddwn i ddim yn medru darllen na dilyn rhaglen deledu. A d'eud y gwir doeddwn i ddim yn medru g'neud dim. Bob. Yn fethiant llwyr.
Peth rhyfedd ydi bod yn unig ymysg pobl, yn rhan o'r darlun ond yn edrych arno o'r tu allan , mewn rhyw niwl neu wyll.
Bu'n rhaid i Kevin 'neud popeth, yn ogystal â gafael yn fy llaw. Doeddwn i'n dda i ddim!
Roedd Owain a Non yn gw'bod bod r'wbath o'i le.
"Ti'n iawn mam? Ti'n mynd i'r ysgol heddiw?"
"Na, dim heddiw," oedd yr ateb pob tro.
Byddai fy noctor yn gofyn yn ystod pob ymweliad os oeddwn i'n cerdded.
"'Chydig," oedd fy ateb, euog braidd. Wel, roeddwn i'n cerdded o'r tŷ i'r car er mwyn mynd i siop y pentra' i brynu "Marlboro Lights."
Ac yna fe ddaeth y diwrnod.
Dyma fi'n mynd am dro. A dim am dro bach cofiwch chi. O na! Cychwyn o Ben y Pas ac anelu at gopa'r Wyddfa.
Nes i ddim cyrraedd y brig y d'wrnod hwnnw. Erbyn cyrraedd hanner ffordd roeddwn yn teimlo cymaint allan o'm cynefin a'r wylan unig 'ma.
"Mi a' i yr wythnos nesa'!"
Dyna oedd y bwriad beth bynnag. Mewn gwirionedd roedd yn ddeufis go lew cyn i mi fentro eto. Peth fel 'na ydy iselder. Dwy gam ymlaen, deg cam yn ôl.
Yna, un d'wrnod tanbaid, dyma fynd amdani. Cychwyn o Lanberis y tro hwn, yn teimlo'n 'styfnig fel mul! Cyrraedd caffi hanner ffordd a meddwl fy mod i rêl boi. Roedd y rhan yna'n hawdd! Ymlaen a fi. Am starch! Bustachu a brwydro 'mlaen dan wingo a rhegi 'dan fy ngwynt. Ond roedd rhaid cyrraedd y copa. Doedd dim troi'n ôl. Dim y tro 'ma!
Meddwl am Kevin, Owain a Non, am deulu a ffrindia' oedd wedi bod yn gymaint o gefn i mi. Ac yn fwy na dim meddwl am gael d'eud,
" 'Dw i 'di cerdded i fyny'r Wyddfa heddiw, ar fy mhen fy hun."
Ac yn meddwl yn ddistaw bach,"Dwi'n MEDRU g'neud r'wbath!"
Roedd Owain yn unarddeg ar Chwefror y chweched eleni ac roeddwn i yno!
Eich sylwadau... Beth ydych yn meddwl am y stori yma? Gadewch i ni wybod.
|  |
|