bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SUL
20fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cipolwg ar Gymru

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Cipolwg ar Gymru
Cefndir
Sylwadau
Straeon fesul ardal
Capture Wales (Saesneg)

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb








'Coffi yn y Grefi' - Rhys W

Coffi yn y GrefiDw i'n hoffi neud pranciau achos mae o mor hwyl. Does 'na neb arall yn gallu gwybod bo' ti'n mynd i'w neud o, dim ond os wyt ti'n mynd i ddeud wrthyn nhw.

Dw i'n meddwl ddaru fi ddechrau gwneud prancs pan o' ni'n saith mlwydd oed. O' ni'n gwatsiad y teledu ag odd nhw'n gwneud prancs hefo'r 'Whoopey cushion' ag o' ni'n meddwl fod hwnna'n ddoniol ofnadwy. So 'aru fi fynd allan a phrynu un a defnyddio fo pam odd nain a taid drosodd yn cael bwyd.

Dw i'n gwneud y prancs ar mam fel arfer oherwydd dydy hi ddim yn cymeryd pethau'n rhy serious ond pam ma' hi yn gweld pranc mae hi'n cael sioc fawr pam mae'n ffeindio coffi yn y grefi a grefi yn y coffi. Dw i hefyd yn hoffi gwneud pranciau ar mam am un rheswm mawr, ma hi'n wael iawn am goginio, dyna un rheswm da ni am neud prancs arni hi. 'Chydig bach o revenge.

Mae Mam yn ymateb mor dda i prancs. Mae'n sioc llwyr arni a gwyneb rili rili rili ffyni.

Dw i'm yn meddwl fod 'na pranc gwell na chymryd tywel y 'mrawd i pam mae o yn y shower. Mae o'n gweiddi am oesoedd eisio tywel arall a neb yn gwrando arno fo. Mae o jyst yn eistedd yna am oriau.

Mae geno' ni un athro yn ysgol ni, Mr Rogers. Mae Mr Rogers yn ddyn sydd yn organeisio pob peth yn daclus. Mae o hefo'r beiro coch yn un pot a gwyrdd mewn pot arall a da ni'n cymysgu fo'i gyd i fyny i neud o mynd yn wallgof. Y pranc gorau da ni di chwarae arno fo ydy rhoi tep ar ei lygoden o ar y cyfrifiadur. Odd o yna am oriau.

Un tro 'aru mam neud pranc arna' ni yn ôl. 'Aru hi roi tri papur pum deg punt i fi, ma hynna'n lot o bres i fi am y 'mhen-blwydd ac o' ni sïo prynu 'chydig bach o taffis amdano fo ond odd y pum deg punt yn dau ddarn o bapur, dim pum deg go iawn. O 'ni'n rili yn wallgof hefo fy mam, rili wallgof.

Oherwydd bo fi di bod yn neud prancs am mor hir dw i ddim yn meddwl y byddai byth yn stopio, ma jyst mor hwyl i neud.

Dim ond unwaith dw i 'di cael fy nal o'r blaen a dw i'm yn meddwl y byddai'n cael yn 'nal eto. Ma'n rhy naturiol i fi a dw i dal am neu prancs am weddill fy mywyd.

Gwyliwch y stori ddigidol.

Yr Wyddfa
Taith
"Peth rhyfedd ydy bod yn unig ymysg pobol."
Carol Hughes
Siop
Siopa'r Oes O'r Blaen
"Erbyn heddiw, toes dim ond un siop ar ol sef y becws a'r banc."
Griff Roberts
Bolougne
Perthyn
"Ma'r pabi coch yn ein hatgoffa amdano bob amser."
Gwen Jones
Siop Gwalia
Gwalia
""A bechdan ham and a te in a cowpen", atebais yn fy Saesneg gora. "
Elizabeth Fletcher


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy