 |
'Croeso Croesor' - Rhian Croesor
"Waeth i chi roi eich ffidil yn y to ddim." - Geiriau Huws Welsh, athro Cymraeg pan o'n i yn Ysgol Ardudwy.
Mae Croesor yn bentref bychan wedi ei leoli ar droed y Cnicht ar Moelwyni mewn ardal sy'n arbennig o hardd yng nghalon Eryri gyda phoblogaeth o tua 80 o oedolion a 25 o blant.
Oherwydd bod yr ardal yn eithriadol o hardd, mae'n atyniad i ymwelwyr. Ond fel aml i bentref arall yng Nghymru mae niferoedd yn yr ysgol yn disgyn, un capel sydd yno a dim siop o gwbl.
Ond er mor llwm ydi hi o rai pethau yr hyn syn bwysig i mi ydy cael byw mewn cymdeithas lle mae cyfeillgarwch a chymdogaeth yn galon i'r gymuned.
Yn Croesor mae pobl wedi gwirfoddoli i weithio ar brosiectau gwahanol er enghraifft pwll nofio allanol a adeiladwyd ynghanol y 60au dan arolygiad Tudur Owen - mab Bob Owen, Croesor a gardd yr ysgol a gynlluniwyd gan y plant dan ofal Miss Gwyneth Morgan y brifathrawes ar y pryd.
Ar bob un llechan mai darn o hanes Cwm Croesor wedi ei gerfio ac mae'r ardd yn dal i ddod â phleser mawr i bawb boed yn drigolion lleol neu'n ymwelwyr.
Er hynny prin iawn ydy'r adnoddau o fewn y pentref a dyna pam wnes i benderfynu sefydlu Cwmni Cyfeillion Croesor ym 1998, yn bennaf oherwydd yr oedd angen cae chwarae ar blant yr ysgol. Fe amgylchynwyd y cae gyda crawiau llechi er mwyn sicrhau ei fod yn gweddu gyda thirwedd yr ardal. Cefais hyd i'r crawiau hyn mewn nifer o lefydd yn amrywio o erddi pobl i hen 'urinals' capel - ych-a-fi!
Roedd rhaid 'nol a chludo pob un ond er gwaetha'r holl waith corfforol a chaled, dwi mor falch o'r gwaith gorffenedig.
Ar hyn o bryd mae yna griw ohonom ni yn rhedeg siop gymunedol ym Mhenrhyndeudraeth er mwyn ariannu ein cynllun diweddaraf sef troi ffermdy Bryngelynnen yn ganolbwynt cymdeithasol ac economaidd i'r ardal.
Er bod gennym gwaith enfawr o'n Blaenau, dwi'n meddwl ei fod e'n gwrthbrofi nid oes yn rhaid rhoi y ffidil yn y to bob amser.
Gwyliwch y stori ddigidol.
|  |
|