 |
'Crwydro' - Catherine Craven
Oedd mam na dad ddim yn siarad Cymraeg, felly dim ond fi a fy mrawd a doedden ni ddim yn siarad Cymraeg da'n gilydd. Ond dwy'n meddwl taw'r ysgol Gymraeg yn rhoi gwell addysg i'w plant nag oedd yr ysgol yn Saesneg.
Es i i'r ysgol yn Pont-y-gwaith ar y pryd. O' ni'n byw yn Tylorstown felly oedd rhaid i fi gerdded i lawr dros y mynydd a cerdded nol.
Roedd un ffrind da fi yn yr un flwyddyn yn byw ar dop Tylorstown felly oedd rhaid mynd ati hi, ond chi'n gwybod doedd neb yn yr un stryd na'r stryd nesa na'r stryd wedyn. Oedd e reit ar dop Tylorstown oedd hi'n byw, felly oedd rhaid cerdded nôl a mlaen at ei thŷ hi os o' chi am fynd i'w gweld.
Roedd ffrind arall da fi wedyn yn Glyn Rhedynog, Ferndale, a mae hynny milltir a hanner falle i gerdded. Roedd hi dop Glynrhedyn felly rhyw dou milltir. Felly os o chi am gweld hi, roedd rhaid cerdded i Glynrhedyn a nol lawr to, ac fel arfer buaswn yn cerdded falle i Glynrhedyn a dewis wedyn mynd i nofio a oedd y pwll nofio yn Ystrad a chi'n gwbod, buasen ni cerdded dros y mynydd wedyn, dros Penrhys, lawr yr ochr arall, nofio mewn dwy awr, falle cael gem o badmington a cerdded nol. Felly o' ni wastad yn crwydro rownd ac yn cerdded lot mawr i gyrraedd ffrindiau ac ati.
O' chi'n teimlo lot yn saffach, roedd cerdded yn byth meddwl doeddech chi ddim yn saff. O' chi off peth cynta' yn y bore ac yn dod 'nôl gyda'r nos heb unrhyw ots.
O' ni yn mwynhau cerdded o ran hynny, hyd yn oed, chi'n gwybod, pam o' ni'n ifanc o ran hynny yn sylweddoli bod yr ardal, y lle o'ch amgylch chi yn lle hyfryd iawn.
Gwyliwch y stori ddigidol.
|  |
|