 |
'Bywyd ar y Fferm' - Abi
Wel ar fferm ma'n bwysig iawn bod pawb yn gweithio hefo'i gilydd. Os di neb yn gweithio hefo'i gilydd ma pethau'n mynd yn wrong felly ma angen help pawb.
Rhaid i chi godi weithiau am chwartar wedi pump er mwyn allan i checio defaid i weld bod dim yn cael dim trafferth hefo wyn a phetha' fel 'na.
Yn diwedd y dydd, y fferm sy'n dod yn gyntaf, dim chi. Da chi'm yn cael jyst deud 'dw i'n brysur heddiw, dw i'm yn gallu helpu'. Ma rhaid i chi roi amser i chi'ch hun ond y ffarm sy'n dod gynta' bob amser.
Ma'n rhaid i bawb weithio' galed iawn ar ffarm achos ma geno chi goats i fwydo, rhaid i chi newid dŵr nhw, rhaid rhoi glaswellt iddyn nhw bob bore a neud yn siŵr bod i gwely nhw'n gynnes ac yn neis.
A ma geno chi hwyaid fyd sy'n neud lot o lanast ym bob man hefo ieir a ma nhw'n gwneud lot o sŵn hefyd. Ma cŵn defaid angen llawer o help. Ma geno ni cŵn bach sy angen mynd am dro dwywaith y diwrnod a angen cael eu bwydo dwywaith y diwrnod. Ma geno chi 'derriers' a ma' rheina yn ffeitio fel y goblyn hefo cwn defaid fyd.
Ma'n neis gweithio ar ffarm achos da chi'n cael cyfrifoldeb a rhaid i chi edrych ar ôl anifeiliaid a dw i'n ni'n cael lot o hwyl hefyd.
Ma lle da ni'n byw yn brydferth iawn a ma na lot o goed o gwmpas, a pryd ma na storm a'r coed yn ysgwyd ma'n rili neis na. Be bynnag ydy'r tywydd mae'n neis a ma jyst yn lle lyfli i fyw.
Pryd dwi'n hyn dw i sïo bod yn milfeddyg. Sgen ai'm llawer o ddiddordeb mewn dim byd arall a dw i isio trafeilio'r byd a dw i sio gweld llefydd fel Finland, a New Zealand a dw i sio mynd i Tibet a gweld Everest a phethau felna.
Dw i sio cael gweld pethau cyn i fi orfod setlo lawr. Dw i'n edrych mlaen at y dyfodol, dw i di planio pob peth allan.
Gwyliwch y stori ddigidol.
|  |
|