Roedd y gŵr o'r Swisdir yn fuddugol 6-2 6-3 6-2 yn erbyn Jo-Wilfried Tsonga mewn rownd gyn derfynol unochrog yn Melbourne. Mae Federer wedi ennill teitl Awstralia deirgwaith o'r blaen ac fe fydd yn chwarae mewn rownd derfynol un o'r prif gystadlaethau am yr 22ain tro. Fe fydd yn ceisio ennill teitl Grand Slam rhif 16 ddydd Sul ac fe drechodd Murray yn rownd derfynol Pencampwriaeth yr Unol Daleithiau dwy flynedd yn ôl.
 |