Roedd Murray ar y blaen 6-3 7-6 (7-2) 3-0 pan fu'n rhaid i bencampwr y llynedd orfod rhoi'r gorau oherwydd anaf i'w ben-glin. Ar ol sicrhau'r set agoriadol de ddaeth Murray fewn dau bwynt i golli'r ail set ar dri achlysur cyn iddo ennill ar y datglwm. Ond erbyn y drydedd set roedd hi'n amlwg bod anaf yn llethu'r Sbaenwr a doedd o fawr o ryfedd iddo roi'r gorau gyda Murray ar y blaen 3-0. Murray yw'r Prydeiniwr cyntaf ers John Lloyd ym 1977 i gyrraedd pedwar olaf y gystadleuaeth. Yn y rownd gyn derfynol fe fydd Murray yn wynebu Marin Cilic wedi i'r gŵr o Croatia drechu Andy Roddick.
 |