|
Cafodd yr Albanwr, yr ail ddetholyn yn Efrog Newydd, gyfle i sicrhau'r set gyntaf ond i'r gŵr o Croatia ennill 7-5. Bu'r ail set yn un trychinebus i Murray wrth iddo wneud cyfres o gamgymeriadau dyma'n galluogi Cilic i ymestyn ei fantais. Ac fe sicrhaodd y gŵr 20 oed ei le yn rownd yr wyth olaf a gornest yn erbyn Juan Martin Del Potro drwy gipio'r drydedd set 6-2.
 |