BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tenis

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 02 Mehefin 2009
Breuddwyd Murray ar ben ym Mharis

Chwalwyd breuddwyd Andy Murray o gipio un o'r prif gystadlaethau am y tro cyntaf wrth i Fernando Gonzalez guro'r Albanwr ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc.

Andy Murray

Gyda lle yn y rownd gynderfynol yn y fantol roedd pŵer a grym y gŵr o Chile yn amlwg wrth iddo ennill y set gyntaf yn hawdd.

Daeth Murray yn ôl yn gryf i ennill yr ail set ond Gonzalez reolodd y drydedd yn llwyr wrth iddo ildio saith pwynt yn unig i'w wrthwynebydd.

Llwyddodd Gonzalez i ddal y fantais i ennill 6-3 3-6 6-0 6-4 ac fe fydd o'n herio Robin Soderling am le yn y rownd derfynol.

Ar ôl i Soderling guro'r ffefryn a'r pencampwr Rafael Nadal yn y bedwaredd rownd, roedd Murray yn llygadu lle yn y rownd derfynol, ond fe fethodd a gwneud yn fawr o'i gyfle.

"Rhaid rhoi clod i Gonzalez," meddai Murray. "Dw i wedi chwarae yn ei erbyn o yn y gorffennol ac mae o'n taro'r bel yn galed, ond heddiw roedd o'n taro'r bel yn eithriadol o galed."

Mae Gonzalez yn mwynhau chwarae ar glai ac fe lwyddodd i gynnal safon uchel drwy gydol y gêm gan dorri ysbryd Murray gyda chyfres o ergydion rhyfeddol.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy