BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tenis

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 31 Mai 2009
Paris: Murray yn torri tir newydd

Mae Andy Murray wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc am y tro cyntaf.

Andy Murray

Chwaraeodd yr Albanwyr 22 mlwydd oed yn wych wrth guro Marian Cilic 7-5, 7-6 (7-4), 6-1.

Cafwyd canlyniad syfrdanol ychydig oriau yn ddiweddarach wrth i'r pencampwr Rafael Nadal golli mewn pedair set i Robin Soderling o Sweden.

Roedd y Sbaenwr wedi ennill ei 31 gêm flaenorol yn Roland Garros ac yn gobeithio ennill y tlws am y bumed tro o'r bron.

Ond chwaraeodd Soderling allan o'i groen i ennill 6-2 6-7 (2-7) 6-4 7-6 (7-2) a chreu un o'r canlyniadau mwyaf annisgwyl yn hanes y gêm.

Wedi brwydro'n galed i ennill y ddwy set gyntaf, carlamodd Murray drwy y drydedd set wrth i'w wrthwynebydd o Groatia gwynno gydag anaf i'w goes.

Yr Albanwr yw'r trydydd dyn yn unig o Brydain i gyrraedd y rownd gogynderfynol ym Mharis, wrth iddo ddilyn ôl traed Tim Henman a Roger Taylor

Bydd Murray, sy'n 22 mlwydd oed ac yn drydedd ymysg y detholion, yn chwarae Fernando Gonzalez yn y rownd nesaf. Cafodd Gonzalez fuddugoliaeth gyfforddus yn y rownd flaenorol drwy guro Victory Hanescu 6-2 6-4 6-2.

Ond mi fydd Murray yn siŵr o fod yn llawn hyder ar ôl ei fuddugoliaeth yn erbyn Cilic, oedd heb golli set drwy gydol y bencampwriaeth cyn hynny.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy