|
Yr oedd Williams ar y blaen 3-1 cyn i Hendry daro'n ôl yn y bumed ffrâm gyda rhediad o 32. Ond y Cymro sicrhaodd y ffrâm i ymestyn ei fantais ymhellach diolch i rediad o 47. Er i Hendry leihau'r fantais i ddwy ffrâm gyda rhediad o 51 fe sicrhaodd Williams y fuddugoliaeth yn y seithfed ffrâm wedi rhediad o 47. Bydd Williams yn wynebu Mark King neu Robert Milkins yn y rownd nesaf ddydd Gwener.
 |