|
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 14-16 ar yr hanner ond rheolodd Cymru yr ail hanner gyda Christiaan Roets, Lloyd White a Rhys Williams yn croesi am geisiau. Dyma'r tro cyntaf mewn 14 blynedd i Gymru ennill y gwpan, gan roi rheswm dathlu cynnar i'r hyfforddwr Iestyn Harris yn ei bedwaredd gêm wrth y llyw. Ashley Bateman, Elliot Kear a Ben Flower groesodd i Gymru cyn y toriad.
 |