BBC HomeExplore the BBC

IAU
10fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi XIII

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 05 Tachwedd 2009
Cymru yn creu argraff ar Noble

Mae hyfforddwr newydd y Crusaders Brian Noble wedi dymuno'r gorau i dîm Cymru cyn eu gêm yn erbyn yr Alban yn rownd derfynol Cwpan Ewrop.

Brian Noble
Sicrhaodd Cymru eu lle yn y rownd derfynol ar Gae'r Bragdy ddydd Sul drwy ennill 88-8 yn Serbia a threchu Iwerddon 42-2 ym Mhontypridd y Sul diwethaf.

Ac mae chwaraewyr ifanc Cymru wedi creu argraff ar gyn hyfforddwr Bradford a Wigan gafodd ei benodi gan y Crusaders fis diwethaf.

"Mae'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn fy nghyffroi," meddai Noble.

"Mae 'na nifer o chwaraewyr y Crusaders wedi body n gwneud yn dda.

"Fe alle ni ddenu mwy o dalent tebyg ac fy ngobaith yw y bydd tri chwarter o'r tîm yn y pendraw yn Gymry,.

"Mae'n bwysig bod tîm cenedlaethol Cymru yn un cryf.

"Roedd y ffaith na lwyddodd Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd y llynedd yn sioc i bawb.

"Ond mae'r broses o ail adeiladu wedi dechrau ac mae'n wych i'w gweld yn rownd derfynol prif gystadleuaeth.

"Fe ddylai Cymru fod yn dyheu, nid yn unig am le ymysg y Pedair Gwlad yn 2011, ond hefyd cystadlu yng Nghwpan y Byd yn 2013."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy