BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi XIII

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 02 Tachwedd 2009
Enw newydd i'r Crusaders

Mae'r Celtic Crusaders wedi newid enw'r clwb ar ôl penderfynu gollwng y gair 'Celtic'.

O hyn ymlaen, Crusaders Rugby League fydd enw'r clwb o Gymru sy'n chwarae yn y Super League.

Yn ôl prif weithredwr y clwb, Mike Turner, y rheswm am y newid yw er mwyn cael gwared â'r cysylltiad gyda'r cyn-glwb rygbi'r undeb y Rhyfelwyr Celtaidd.

Bu'r Crusaders yn defnyddio'r un stadiwm a'r Rhyfelwyr Celtiadd ym Mhen-y-bont ar ôl i'r rhanbarth ddod i ben.

Ond bellach, mae'r Crusaders wedi symud i Gasnewydd ac wedi penderfynu bod angen creu brand newydd.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ar adeiladau clwb sy'n cynrychioli Cymru ac nid un ardal yn unig," meddai Turner.

"Yn y gorffennol, roeddem yn cael ein cysylltu yn ormodol gyda'r hen ranbarth y Rhyfelwyr Celtaidd."

Yn ogystal â sicrhau cartref newydd, mae'r clwb wedi gweddnewid y tîm hyfforddi drwy benodi Brain Noble, Jon Sharp ac Iestyn Harris.

Mae'r clwb hefyd yn gobeithio arwyddo nifer o chwaraewyr newydd ym mis Tachwedd.

Gorffennodd y Crusaders ar waelod y Super League ar ôl eu tymor cyntaf yn y gynghrair eleni.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy