|
Cafwyd cadarnhad ddydd Iau y bydd fisa pob un chwaraewr tramor y clwb yn cael eu harchwilio gan yr asiantaeth,. Ond dywedodd John Ledger o'r RFL bod safle'r Crusaders yn ddiogel be bynnag yw canlyniad yr ymchwiliad. Mae'r RFL hefyd wedi cadarnhau eu bod yn barod i gynorthwyo'r clwb gyda materion ar y maes ac oddi arni. Bydd cyn hyfforddwr Huddersfield Steve Ferris, fu hefyd yn brif weithredwr yn Wakefield, yn cynorthwyo'r clwb. Ond dywedodd Ferris nad oedd ei ddyfodiad ar Gae'r Bragdy yn fygythiad i safle'r hyfforddwr John Dixon.
 |