Sgoriodd Marshall Chalk, Anthony Blackwood, Lincoln Withers a Matty Smith geisiau i'r tîm cartref i ennill am y trydydd tro yn unig yn y Super League eleni.
Roedd hi'n edrych yn ddu iawn ar y clwb o Ben-y-bont, sydd mewn trafferthion ariannol ac yn wynebu archwiliad i mewn i droseddau mewnfudo posib, wrth i Salford fynd 12-0 ar y blaen gyda ceisiau Luka Adamson a Stuart Littler.
Ond brwydrodd y Crusaders yn ôl yn wych ac roedd tîm John Dixon yn llawn haeddu'r fuddugoliaeth.
Parhau ar waelod y tabl mae'r Crusaders, ond dim ond chwe phwynt sydd bellach rhyngddyn nhw a'r tîm uwch eu pennau, sef Salford.
Celtic Crusaders: Quinn, Dyer, Chalk, Dalle Cort, Van Dijk, Blackwood, Smith, O'Hara, Withers, Bryant, J. James, Chan, Lupton.
Eilyddion: Budworth, Peek, Beasley, Lennon.
Salford: Wilshere, McGilvray, Littler, Ratchford, Henry, Smith, Myler, Cashmere, Alker, Stapleton, Adamson, Sidlow, Swain.
Eilyddion: Paul, Walton, Leuluai, Jewitt.
Dyfarnwr: P Bentham (Warrington).