|
Y gred yw bod fisas's gafodd eu defnyddio gan chwaraewyr tramor er mwyn teithio i Gymru ar gyfer y tymor newydd yn anghywir.
Nid oedd asiantaeth yn fodlon cadarnhau'r manylion ac fe ddywedodd llefarydd ar eu rhan wrth BBC Cymru:
"Tra bod 'na ymchwiliad, bydd hi'n amhriodol gwneud unrhyw sylw pellach."
Cyn dechrau'r tymor newydd fe gafodd wyth chwaraewr drafferth i sicrhau fisa er mwyn teithio i Brydain.
Roedd y chwaraewyr hynny yn cynnwys y capten Jace van Dijk, y prif sgoriwr Tony Duggan a chwaraewr y flwyddyn Damien Quinn.
Y gred yw y bydd fisa pob un chwaraewr tramor y clwb yn cael eu harchwilio gan yr asiantaeth.
Ond nid oes sicrwydd am nifer o'r chwaraewyr lle mae amheuaeth ynglŷn â dilysrwydd eu fisa.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Mae'r Celtic Crusaders yn cydweithredu gyda'r Asiantaeth Mewnfudo ac yn gwneud pob dim posib er mwyn dwyn yr ymchwiliad i ben yn gyflym.
"Roedd peth dryswch ynglŷn a'r fisas ar ddechrau'r tymor oherwydd rheolau newydd gafodd eu cyflwyno gan yr asiantaeth, ond yr ydym o'r farn bod rheini bellach wedi cael eu datrys."
Dyma'r ergyd ddiweddaraf yr wythnos hon i'r Crusaders, sydd ar waelod y Super League wedi dwy fuddugoliaeth yn unig y tymor hwn.
Dros y Sul bu'n rhaid i berchennog y clwb, Leighton Samuel sicrhau cefnogwyr bod dyfodol y clwb yn ddiogel ac nad oedd ar fin cefnu ar y Crusaders.
Ac mae'r gynghrair wedi datgan eu cefnogaeth i'r clwb gan ddweud eu bod yn barod i helpu'r clwb ganfod buddsoddwyr newydd.
 |