BBC HomeExplore the BBC

GWENER
8fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi XIII

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 14 Mehefin 2009

Cenhedaeth y Crusaders yn blaguro ar Cae'r Bragdy

Chwaraewyr Celtic Crusaders yn dathlu yn erbyn Wigan

Gan Gareth Rhys Owen, Cae'r Bragdy, Pen-y-bont


Annisgwyl? Oedd. Anghredadwy? Ddim o bell ffordd.

Degawd yn ôl bydde hi wedi ymddangos yn amhosib i dîm o dde Cymru guro cewri'r gêm tri ar ddeg.

Ond mae un ar ddeg mlynedd ers i Wigan ennill y Super League a d'yw nhw ddim y grym yr oedden nhw heb os.

Ond mae pethau wedi newid yn ne Cymru hefyd. Ar ddechrau'r mileniwm, Pen-y-bont oedd cadarnle rygbi'r Undeb yng Nghymru.

Y clwb oedd y tîm olaf i ennill cynghrair y clybiau cyn creu'r Rhyfelwyr Celtaidd. Mae hanes y rhanbarth yn stori arall.

Ond canlyniad methiant y Rhyfelwyr yw bod yna wacter sylweddol yn ardal Pen-y-bont.

Mae'r Celtic Crusaders yn gobeithio llenwi'r gwacter hwnnw. Ac i wneud hynny maen nhw'n dechrau gosod sylfaen ar waelodion strwythur chwaraeon yr ardal.

Mae nifer o ysgolion yr ardal yn cynnal timau tri ar ddeg. Gyda chyn ysgol Gavin Henson a Rob Howley, Brynteg, yn sicrhau pencampwriaeth rygbi'r gynghrair Prydain.

Mis diwethaf, trechodd tîm dan18 y Crusaders Leigh Miners Rangers yn rownd derfynol yr Adran Gyntaf.

Roedd y mwyafrif o'r tîm yn eu tymor cyntaf yn y gamp. Seren y gêm oedd Alex Webber, a hynny llai na tri mis ers iddo chwarae ei gêm gyntaf.

Fe fydd Webber a tri aelod arall o'r garfan yn teithio i Awstralia gyda thîm dan18 Prydain yr haf yma. Ac mae hyfforddwr y Crusaders, John Dixon, yn hyderus y bydd nifer o'r Ieuenctid yn chwarae yn y Super League rhyw ddydd.

Ond am nawr, does gan yr ieuenctid ddim dylanwad ar lwyddiant byr dymor y Crusaders.

Heb amheuaeth, roedd canran uchel o'r pum mil a welodd y fuddugoliaeth hanesyddol ar Gae'r Bragdy nos Sadwrn yno am y tro cynta'. Mae'n siŵr y bydd nifer yn dychwelyd ar ôl gweld perfformiad o'r fath.

Mae'n ddiddorol cymharu'r gêm yn erbyn Wigan gyda'r gêm gartref flaenorol. Dim ond dau fil oedd yno i weld y tîm yn cael eu chwalu o 50-6 yn erbyn Wakefield. Perfformiad nad oedd o unrhyw gymorth i enw da'r clwb.

Fel mae'r Scarlets wedi dysgu, mae'n anodd denu torfeydd pan bod y tîm yn dioddef ar y cae. Ond gyda'r gêm bellach yn cael ei chwarae yn yr haf, mae yna botensial mawr i lenwi eisteddle Cae'r Bragdy a Rodney Parade (fydd yn croesawu Leeds fis Awst).

Llynedd roedd prop y Crusaders, Mark Bryant, yn ennill yn rownd derfynol cwpan yr NRL yn Awstralia. Mae e'n cyfaddef bod hi'n fyd gwahanol eleni mewn tîm sydd wedi ennill dwywaith yn unig mewn pedwar gêm ar ddeg.

"Ond," mae Bryant yn ychwanegu gyda gwen, "mae curo Bradford a Wigan yn dipyn o gamp."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy