Cafwyd y gêm rygbi rhyngwladol cyntaf ym 1871 wrth i'r Alban herio Lloegr ar yr Oval yn Llundain.
Dechreuodd Cymru chwarae gemau rhyngwladol ym 1881 wrth iddynt herio Lloegr ac erbyn 1883, gan fod y Pedair Undeb yn chwarae gemau yn erbyn ei gilydd, ffurfiwyd Pencampwriaeth y Pedair Gwlad.
Lloegr oedd buddugwyr cyntaf y Bencampwriaeth wrth iddynt ennill y Goron Driphlyg ym 1883 a 1884 a chasglodd Cymru eu buddugoliaeth gyntaf a'r Goron Driphlyg ym 1893.
Ym 1906, dechreuodd y pedair gwlad herio Ffrainc yn flynyddol, a chafodd y Ffrancwyr eu cynnwys yn swyddogol ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad ym 1910.
Yn dilyn Pencampwriaeth 1931 cafodd Ffrainc eu diarddel o'r Bencampwriaeth wedi honiadau eu bod yn talu eu chwaraewyr - rhywbeth oedd yn gwbwl yn erbyn ethos amatur y gamp.
Wedi'r Ail ryfel Byd, a chyda Ffrainc yn ôl yn y gystadleuaeth, aeth y Bencampwriaeth o nerth i nerth gyda thorfeydd uchel yn y meysydd ac ar y teledu.
Ym 1972 ni chafodd y Bencampwriaeth ei chwblhau wedi i'r Alban a Chymru wrthod teithio i chwarae yn Iwerddon oherwydd bygythiad terfysgol yr IRA.
A blwyddyn yn ddiweddarach cafwyd sefyllfa unigryw wrth bob gwlad ennill dwy gêm yr un a bu rhaid i'r pum gwlad rannu'r Bencampwriaeth.
Cafodd tlws y Bencampwriaeth ei chyflwyno am y tro cyntaf ym 1993, gyda Ffrainc y wlad gyntaf i'w derbyn wedi eu buddugoliaeth y flwyddyn honno.
Wedi blynyddoedd o geisio sicrhau eu lle yn y Bencampwriaeth, cafodd Yr Eidal eu hychwanegu yn 2000 er mwyn creu'r Chwe Gwlad.
| Cymru | Ffrainc | Iwerddon | Lloegr | Yr Alban | Yr Eidal |
| Penc. (rhannu) | 24 (10) | 16 (7) | 10 (8) | 25 (10) | 14 (8) | 0 (0) |
| Camp Lawn | 10 | 8 | 1 | 12 | 3 | 0 |
| Coron Driphlyg | 20 | - | 9 | 23 | 10 | - |
 |