BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 08 Chwefror 2011

Hook yn faswr wrth i Byrne ddychwelyd

James Hook fydd yn safle'r maswr i Gymru ddydd Sadwrn yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda Lee Byrne yn dychwelyd fel cefnwr.

James Hook a Stephen Jones

Mae Hook yn symud o'r crys rhif 15 ar ôl i'r maswr yn erbyn Lloegr, Stephen Jones, ddioddef anaf i'w wddw yn ystod eiliadau agoriadol y gêm.

Ychydig iawn o ymarfer mae Jones wedi ei wneud ers colli i'r Saeson, ond mae o'n ddigon da i gymryd lle ar y fainc.

Dyma fydd y tro cyntaf i Hook gael ei ddewis fel maswr y tymor yma, a'r tro cyntaf ers mis Mawrth 2009 iddo gychwyn yn y safle yna i Gymru.

Mae anaf i ysgwydd Andy Powell yn golygu fod Ryan Jones yn dychwelyd i safle'r wythwr, ond mae Morgan Stoddart yn cadw ei le ar yr asgell.

Roedd pryderon y byddai anaf i'w law yn cadw Stoddart, sgoriwr unig gais y Cymry yn erbyn Lloegr, allan o'r tîm.

Mae lle ar y fainc i dri aelod arall o'r Scarlets.

Gall y maswr, Rhys Priestland, a Josh Turnbull, sy'n chwarae yn y rheng ôl, ennill eu capiau cyntaf; tra bo'r mewnwr, Tavis Knoyle, yn cymryd lle Dwayne Peel gan nad yw mewnwr Sale Sharks wedi gwella o anaf i'w glun.

Bydd hyfforddwr yr Alban, Andy Robinson, yn enwi eu dîm brynhawn Mercher.

Tair gwaith yn unig mae Cymru wedi ennill yn Murrayfield yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, a bydd tîm Gatland yn teithio i'r Alban yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf mewn naw gêm.


Cymru: Lee Byrne (Gweilch); Morgan Stoddart (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Shane Williams (Gweilch); James Hook (Gweilch), Mike Phillips (Gweilch); Paul James (Gweilch), Matthew Rees (Scarlets,capten), Craig Mitchell (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision), Ryan Jones (Gweilch).

Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), John Yapp (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Tavis Knoyle (Scarlets), Stephen Jones (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets).

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy