BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
1af Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 14 Tachwedd 2009
McBryde yn rhwystredig er ennill

Roedd Robin McBryde yn cyfaddef ei fod yn rhwystredig a siomedig wedi i Gymru grafu buddugoliaeth o 17-13 yn erbyn Samoa yn Stadiwm y Mileniwm.

James Hook
Er iddynt sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r hydref roedd Cymru yn bell o fod ar eu gorau yn erbyn y tîm o Ynysoedd y Môr Tawel.

Ac roedd McBryde, hyfforddwr blaenwyr Cymru, yn teimlo nad oedd y tîm wedi adeiladu ar y perfformiad yn erbyn Seland Newydd y Sadwrn diwethaf.

"Ar ôl gêm wythnos diwethaf roedd pawb yn disgwyl pethau mawr ond yn anffodus wnaeth hi ddim troi allan fel hynny," meddai hyfforddwr blaenwyr Cymru.

"Os edrychwch ar lefel y perfformiad allech chi ddim cymharu'r ddwy gêm.

"Roedde ni'n gobeithio y bydde ni wedi dysgu ambell i wers o'r Sadwrn diwethaf a medru defnyddio'r profiad hwnnw i'n mantais.

"Ond yn anffodus ni wnaetho ni lwyddo.

"Fe wnaetho ni ddechrau'n gryf iawn ac yn creu ambell i fylchiad yn amddiffyn Samoa.

"Ond doedde ni ddim digon clinigol i orffen y cyfleoedd a chael y ceisiau."

Cafwyd cadarnhad wedi'r gêm y bydd maes Stadiwm y Mileniwm yn cael ei ail osod cyn y gêm yn erbyn yr Ariannin y Sadwrn.

Roedd y newyddion hynny wrth fodd McBryde, oedd yn feirniadol o safon y maes ar gyfer y gêm yn erbyn Samoa.

"Tydi cyflwr y cae ddim digon da i'r safon yma o rygbi," meddai McBryde.

"''Da ni'n gweld ambell i unigolyn yn colli eu traed wrth ochrgamu ac wedi gorfod symud man y sgrym o un lle i'r llall.

"Tydi hynny ddim yn helpu ond dyw e ddim yn esgus chwaith gan ei bod yr un peth i'r ddwy ochr."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy