|
Bu arbenigwyr annibynnol yn archwilio'r maes yn ystod yr wythnos ac fe ganfyddwyd bod heigiad o bryfaid Bibionidae wedi achosi niwed i'r glaswellt. Fe ddirwyodd y maes yn sylweddol yn ystod buddugoliaeth Cymru yn erbyn Samoa nos Wener. Roedd cyflwr y maes wedi dod o dan y lach y penwythnos diwethaf wedi'r gêm yn erbyn Seland Newydd gyda Leigh Halfpenny yn feirniadol. Cadarnhaodd rheolwr y stadiwm Gerry Toms wedi'r gêm yn erbyn Samoa nos Wener y bydd y maes yn cael ei ail osod. Bu'n rhaid ail osod y maes 25 o weithiau ers i'r Stadiwm agor ddeg mlynedd yn ôl.
 |