Roedd y noson wedi dechrau yn addawol i Gymru gyda Leigh Halfpenny yn croesi am gais agoriadol y gêm wedi pum munud.
Yn erbyn llif y chwarae fe groesodd Seilala Mapusua am gais i'r ymwelwyr oedd yn dechrau synhwyro bod buddugoliaeth enwog arall yn erbyn Cymru yn bosib.
Er i Gymru greu cyfleoedd roedd eu gêm yn llawn camgymeriadau a fu bron i hynny brofi'n gostus wrth i Samoa bwyso am ail gais yn ystod y ddeg munud olaf.
Roedd y gwledydd yn cwrdd yn Stadiwm y Mileniwm am y tro cyntaf ers naw mlynedd gyda Chymru yn fuddugol o 50-6 bryd hynny.
Pum newid yn unig yr oedd Warren Gatland wedi ei wneud i'r tîm oedd wedi colli yn erbyn Seland Newydd wythnos ynghynt.
Daeth symudiad cyntaf Cymru wedi munud a hanner yn unig ond i Sam Warburton gael ei ynysu ar ôl cael derbyn y bêl gan Dwayne Peel.
Roedd eiliadau pryderus i Gymru gyda Peel yn gorfod derbyn triniaeth ar ôl tacl wyllt gan gefnwr Samoa Lolo Lui.
Fe gafodd Lui ei ddanfon i'r gell gosb gan y dyfarnwr am y dacl ac fe lwyddodd Dan Biggar gyda'r gic gosb ganlynol i roi Cymru ar y blaen.
O fewn munud i hynny roedd Samoa wedi dod yn gyfartal gyda Fa'atonu Fili yn llwyddiannus gyda chic gosb.
Daeth cais agoriadol y noson wedi pum munud gyda Leigh Halfpenny yn croesi yn y gornel yn dilyn cic wedi ei mesur yn berffaith gan Biggar.
Ond fe fethodd maswr y Gweilch gyda'r trosiad ganlynol gyda'i gic yn crafu'r postyn pellaf.
Roedd Biggar wedi ymestyn mantais Cymru i wyth pwynt wedi 17 munud gan lwyddo gyda'i ail gôl gosb o'r noson.
Yn ôl y disgwyl roedd taclo Samoa yn ddigyfaddawd gyda Andy Powell a Huw Bennett ymysg chwaraewyr Cymru deimlodd grym y gwŷr o Ynysoedd y Môr Tawel.

Roedd Cymru yn rheoli'r meddiant a'r diriogaeth erbyn hyn gyda Sam Warburton yn enwedig yn dangos ei rinweddau ymosodol, ond doedde nhw ddim yn gallu manteisio ar eu cyfleoedd.
Tacl anferthol gan Anitelea Tuilagi ar James Hook dyma'n dod â symudiad addawol gan Gymru i ben yn dilyn dadlwythiad Halfpenny.
Yr oedd Fa'atonu Fili wedi methu gyda'i ail gic gosb o'r noson ond ni wnaeth unrhyw gamgymeriad dau funud yn ddiweddarach gan leihau mantais Cymru.
Er iddynt ddechrau'r gêm yn addawol gyda chais gynnar fe orffennodd Cymru yr hanner heb argyhoeddi'r dorf o bron i 60,000 yn Stadiwm y Mileniwm.
Leigh Halfpenny dyma'n ymgymryd â'r dyletswyddau cicio ar ddechrau'r ail hanner gan lwyddo gyda chic wych o du fewn i hanner ei hun i ymestyn mantais Cymru.
Gyda Samoa ar ei hôl hi fe fentrodd y maswr Fili gyda chic adlam ond yn ffodus i Gymru roedd ei ymgais yn un aflwyddiannus.
Bu'n rhaid i Tom Shanklin adael y maes gyda thrwyn gwaedlyd ac fe ddaeth Jonathan Davies o'r Scarlets ymlaen i wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn Stadiwm y Mileniwm.
Ond eiliadau wedi i Samoa dderbyn rhybudd olaf am orwedd ar ben gwrthwynebwyr yn y dacl fe welodd Henry Tuilagi y cerdyn melyn cyn i Dan Biggar lwyddo gyda'r gôl gosb.
Gyda Samoa lawr i 14eg dyn roedd y gêm yn fwy agored ac yn fuan wedi hynny cafwyd symudiad addawol lawr yr asgell chwit.
Ond yn anffodus i Gymru ar ôl derbyn y bas gan Jamie Roberts fe fethodd James Hook â chadw'r bêl yn fyw yn dilyn rhediad cryf.
Nid honno oedd yr unig gyfle i Gymru wastraffu gyda Sam Warburton yn methu â derbyn pas gan Dwayne Peel yn llwyddiannus.
Ac fe brofodd y camgymeriadau hynny yn gostus oherwydd yn erbyn llif y chwarae fe darodd Samoa yn ôl i groesi am eu cais cyntaf o'r noson.
Rhyngipiodd Seilala Mapusua pas Dan Biggar yng nghanol y cae cyn rhedeg 80m i groesi o dan y pyst cyn i Fili lwyddo gyda'r trosiad.
Roedd Cymru o dan warchae erbyn hynny gyda Samoa yn bygwth yn dilyn cic Seilala Mapusua ond i'r bêl fynd dros yr ystlys.
Ac fe gafodd Cymru eu cosbi gan y dyfarnwr Peter Fitzgibbon am gamsefyll ond yn ffodus o'r gic gosb fe dynnodd Gavin Williams y bêl heibio'r postyn.
Roedd yn rhaid i amddiffyn Cymru fod yn gadarn wrth i bac Samoa bwyso am yr ail gais.
Ac fe gafwyd dihangfa arall gyda chapten yr ymwelwyr George Stowers yn gwastraffu cyfle olaf Samoa cyn i Dan Biggar gael gwared â'r perygl.
Cymru: Hook, Halfpenny, Shanklin, J. Roberts, T. James, Biggar, Peel, Jenkins, Bennett, P. James, A. Jones, Charteris, Powell, Warburton, R. Jones.
Eilyddion: Rees, Mitchell, B. Davies, Thomas, M. Roberts, J. Davies, Stoddart. Samoa: Lui, Lemi, G. Williams, Mapusua, A. Tuilagi, Fili,Poluleuligaga, Va'a, Schwalger, Johnston, Levi, Tekori, Stowers, Treviranus, H. Tuilagi.
Eilyddion: A. Williams, Taulafo, Thompson, Fa'amatuainu, Mai, Fa'afili, Esau.
Dyfarnwr: Peter Fitzgibbon (Iwerddon)