Warburton, sy'n 21 mlwydd oed, fydd y diweddaraf i geisio llenwi esgidiau'r hen ben o Bontypridd yn y crys rhif saith i Gymru.
Ond dywedodd Gatland: "Mae ganddo elfen gorfforol sy'n wahanol. 'Da ni ddim iddo chwarae fel Martyn, mae'n rhaid iddo chwarae ei gêm ei hun."
Tra 'roedd Williams ar daith y Llewod dros yr haf, enillodd Warburton ei gap gyntaf i'w wlad yn erbyn Yr Unol Daleithiau ar y daith i Ogledd America.
Mae cyn-gapten tîm dan-19 Cymru wedi serennu i Gleision Caerdydd y tymor yma, ac wedi hawlio ei le yn nhîm Gatland ar draul ei gyd-flaenasgellwr gyda'r Gleision, Robin Sowden-Taylor.
Dywedodd Warburton ei fod wedi elw yn fawr o ymarfer a chwarae gyda Williams i'w ranbarth.
"Mi fyddwn i'n hapus iawn pe bawn i'n datblygu i fod hanner cystal chwaraewr a Martyn," dywedodd Warburton. "Heb os fo ydi'r rhif saith gorau yng Nghymru.
"Dwi wedi mwynhau bod yn ei gwmni, yn dysgu oddi wrtho, yn gwylio fo'n chwarae ac yn cael ambell i wers ganddo ar ddiwedd sesiwn ymarfer.
"Faswn i ddim yn dweud fy mod yn chwaraewr tebyg iddo. Efallai bydd y gêm yn erbyn Samoa yn fy siwtio i oherwydd fy mod i'n mwynhau gêm gorfforol.
"Mi fyddai'n canolbwyntio ar gyrraedd ardal y dacl yn gyflym er mwyn ennill y bêl i ni."
Mae Williams wedi hawlio'r safle blaenasgellwr agored i Gymru ers blynyddoedd lu bellach, a dywedodd Gatland bod y chwilio yn parhau am chwaraewr i gymryd y fantell oddi wrtho.
Bu'n rhaid i Gatland berswadio Williams i ddychwelyd i'r gêm ryngwladol ar ôl iddo ymddeol ar ddiwedd Cwpan y Byd 2007.
Mae'r chwaraewr 34 mlwydd oed bellach yn gobeithio parhau i chwarae tan y Cwpan y Byd nesaf yn 2011, ond mae Gatland yn ymwybodol bod angen datblygu rhif saith safonol wrth gefn.
"Mae Warburton yn chwaraewr cyffrous, yn athletwr da," meddai Gatland. "Da ni'n gobeithio y bydd yn rhoi Martyn o dan ychydig o bwysau.
"Mae o'n chwaraewr ifanc sydd wedi cymryd ei gyfle gyda'r Gleision."