BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 09 Tachwedd 2009
Warren yn iawn i feirniadu: Lewis

Mae Emyr Lewis yn teimlo yr oedd Warren Gatland yn gyfiawn i feirniadu'r dyfarnwr Craig Joubert wedi i Gymru golli yn erbyn Seland Newydd.

Tacl uchel Dan Carter ar Martin Roberts
Yn ôl Gatland penderfyniadau'r dyfarnwr o Dde Affrica oedd y rheswm y collodd Cymru 12-19 yn erbyn y Crysau Duon yn Stadiwm y Mileniwm.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru nad oedd y dyfarnwr eisiau bod yn rhan o ganlyniad annisgwyl na unrhyw benderfyniadau dadleuol.

"Roeddwn i'n meddwl bod y dyfarnwr yn warthus yn enwedig yn ardal y dacl," meddai Lewis, enillodd 41 o gapiau dros Gymru rhwng 1991 a 1996.

"Roedd lot o bethau roedd Seland Newydd yn gwneud fel plymio dros y top doedd dim modd o gwbl gyda Chymru i gael meddiant yn ôl o'r ardal yna.

"Yr oedde nhw'n arafu popeth lawr a phan oedd Cymru yn ceisio gwneud yr un peth roedde nhw'n cael eu cosbi.

Mae Gatland yn anfodlon na gafodd Dan Carter ei gosbi gan Joubert am dacl uchel ar fewnwr Cymru Martin Roberts.

Mae maswr Seland Newydd wedi cael ei enwi yn dilyn y digwyddiad ond nid yw Emyr Lewis yn cytuno gyda hynny.

"Roedd hi'n dacl uchel ond 'dwi ddim yn credu yr oedd 'na unrhyw falais ynddi o gwbl," ychwanegodd Lewis.

"Dod o'r tu ôl yr oedd yn ei wneud a cheisio taro'r bel allan o ddwylo Martin Roberts.

"Chic gosb a dim mwy - tydw i ddim yn meddwl y dyle fe wedi cael ei enwi."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy