|
Ac yn ogystal â cholli'r gemau yn erbyn Samoa, yr Ariannin ac Awstralia fe all chwaraewr y Scarlets fod allan am dri mis. Bydd Jones yn cael llawdriniaeth ddydd Llun wedi iddo ddioddef yr anaf ar ôl dod ymlaen i'r maes fel eilydd yn ystod y gêm yn Stadiwm y Mileniwm. Mae Warren Gatland wedi penderfynu peidio ychwanegu chwaraewr arall i'r garfan i gymryd lle'r chwaraewr 30 oed. Dywedodd ffisiotherapydd Cymru, Mark Davies ei fod yn disgwyl y byddai Jones yn ôl ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Dafydd Jones yw'r ail chwaraewr o'r Scarlets sydd wedi dioddef anaf tar ar ddyletswydd ryngwladol gyda Chymru yn ddiweddar. Dioddefodd Mark Jones anaf i'w ben-glin yr wythnos ddiwethaf ac mae disgwyl iddo fod allan am dri mis.
 |