Roedd Williams, y'i adnabyddid fel "Tywysog y Canolwyr" am ei chwarae medrus ac urddasol, wedi bod yn wael am gyfnod.
Bu farw mewn hosbis ym Mhenarth, ger Caerdydd. Mae'n gadael dwy ferch, mab a phedwar ŵyr ac wyres.
Daeth Williams i amlygrwydd wrth chwarae i Gaerdydd yn y 1940au, cyn mynd ymlaen i fod yn gapten ar Gymru ac yna'r Llewod.
Teyrnged Clive Rowlands i Bleddyn Williams
Huw Llywelyn Davies yn cofio doniau Bleddyn Williams
Fe'i ganed yn Ffynnon Taf, ger Caerdydd yn 1923, i deulu oedd wedi gwirioni gyda rygbi ac, yn fwy penodol, Clwb Rygbi Caerdydd.
Chwaraeodd yr wyth brawd (Bleddyn, Gwyn, Lloyd, Cennydd, Tony, Elwyn, Vaughan a Brynley) rhyw 1,500 o gemau i'r clwb, gan sgorio dros 300 cais.
Aeth Gwyn hefyd ymlaen i arwain ei wlad, ond Bleddyn heb os oes oedd y seren.
Mewn un tymor anhygoel, sgoriodd 41 cais - camp sydd heb ei churo ac yn debygol o barhau am flynyddoedd i ddod. Hyd heddiw, mae ei bartneriaeth gyda Dr Jack Matthews yn cael ei ystyried fel y gorau a welwyd ar Barc Yr Arfau erioed.
Cafodd Williams ei enwi yn is-gapten y Llewod ar gyfer y daith i Awstralia a Seland Newydd yn 1950, ble enillodd rhagor o edmygedd am ei redeg hudolus.
Yn dilyn anaf i Karl Mullen, arweiniodd Williams y Llewod i fuddugoliaeth yn y Prawf olaf yn erbyn Seland Newydd ac mewn dwy gêm Brawf yn erbyn Awstralia.
Ond heb os, daeth uchafbwynt ei yrfa tair blynedd yn ddiweddarach pan, o dan ei gapteiniaeth, trechwyd y Crysau Duon gan Gaerdydd ac yna Chymru - a hynny o fewn 29 diwrnod i'w gilydd.
Daeth y fuddugoliaeth gyntaf ar 21 Tachwedd o flaen torf o 58,000 ar Barc Yr Arfau wrth i Gaerdydd ennill o 8-3 gyda cheisiau gan Sid Judd a Gwyn Rowlands.
"Roedd Caerdydd mor arbennig ar y pryd," cofiodd Williams. "Hwn oedd y clwb oedd yn gosod y safon.
"Ar y diwrnod hwnnw, ymatebodd y chwaraewyr i gyd i'r achlysur ac roedd yn brofiad i'w gofio am byth."
Yna, chwe diwrnod cyn y Nadolig, collodd yr ymwelwyr unwaith eto wrth i Gymru sicrhau buddugoliaeth o 13-8. Nid yw'r Crysau Duon wedi colli mewn 20 gêm yn erbyn Cymru ers hynny.
Dwy flynedd yn ddiweddarach ac ynta'n 32 mlwydd oed, daeth ei yrfa i ben er mwyn, yn ei eiriau diymhongar ei hun, "gwneud lle i ddynion ifancach".
Enillodd 22 cap dros Gymru, ffigwr a fyddai'n llawer uwch pe bai wedi chwarae yn y gêm fodern.
Aeth ymlaen i fod yn sylwebydd rygbi gwybodus ac uchel ei barch, gyda chwaraewyr a swyddogion yn ei holi'm aml am air o gyngor.
Roedd hefyd yn llywydd Clwb Athletau Caerdydd ac fe dderbyniodd yr MBE yn 2005 am ei wasanaethau i rygbi.
Pan ofynnwyd iddo yn 2007 sut y byddai'n hoffi cael ei gofio, ei ymateb oedd "fel person ar gae rygbi a roddodd gymaint o bleser i nifer o bobl".