BBC HomeExplore the BBC

SUL
15fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 06 Gorffennaf 2009
Anrhydedd y Llewod i Roberts

Mae perfformiadau disglair Jamie Roberts i'r Llewod ar y daith i Dde Affrica wedi cael eu cydnabod wrth i'r canolwr gael ei enwi yn chwaraewr gorau'r gyfres.

Jamie Roberts

Ffurfiodd Roberts bartneriaeth gyffrous gyda Brian O'Driscoll yn y canol i'r Llewod, gan chwarae rhan amlwg wrth amddiffyn ac ymosod yn y ddwy gêm Brawf gyntaf.

Y brodor o Gaerdydd, sy'n 22 mlwydd oed, oedd y chwaraewr ieuengaf i gychwyn y gêm gyntaf yn erbyn y Springboks. Methodd y gêm olaf oherwydd anaf i'w arddwrn.

"Dwi wrth fy modd fy mod i wedi cael fy enwi yn chwaraewr y gyfres," dywedodd Roberts, sydd wedi ennill 12 cap i Gymru.

"Mae'r daith wedi bod yn brofiad anhygoel. Mi faswn i'n hoffi diolch i garfan y Llewod ac i'r tîm rheoli am eu holl waith caled a'u hymdrech."

Dim ond blwyddyn sydd wedi bod ers i Roberts chwarae gêm ryngwladol fel canolwr am y tro cyntaf.

Cyn hynny, fe fu'n chwarae fel cefnwr ac asgellwr i Gleision Caerdydd, ac yna i Gymru.

Bellach mae Roberts wedi sefydlu ei hun ymysg canolwyr gorau'r byd, a dywedodd is hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland, bod chwarae wrth ochr O'Driscoll wedi bod yn brofiad amhrisiadwy iddo.

"Cyn i Brian fynd adref [wedi ei anafu], mi wnes i ddiolch iddo am ddatblygu Jamie gymaint. Fe wnaeth o chwerthin a dweud 'dwi'n gobeithio ei fod o heb ddysgu gormod'.

"Roedd y bartneriaeth rhwng y ddau yn un gref iawn; roedden nhw'n chwarae mor dda gyda'i gilydd."

Aelodau'r wasg a fu'n dilyn y daith ddewisodd Roberts fel enillydd y wobr, wrth bleidleisio yn dilyn bob un o'r 10 gêm.

Clo Lloegr Simon Shaw oedd yn ail, gydag asgellwr Iwerddon Tommy Bowe yn drydydd.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy