BBC HomeExplore the BBC

SUL
15fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 06 Gorffennaf 2009
Y Llewod wedi colli cyfle - Evans

Collodd y Llewod gyfle euraidd i gipio'r gyfres Brawf yn Ne Affrica, yn ôl cyn asgellwr Cymru Ieuan Evans.

Chwaraewyr y Llewod yn dathlu eu buddugoliaeth yn y Prawf Olaf

Yr oedd y Springboks eisoes wedi sicrhau'r gyfres cyn i'r Llewod gwblhau'r daith gyda buddugoliaeth yn y Prawf olaf yn Johannesburg.

Ond mae Evans, deithiodd gyda'r Llewod deirgwaith gan gynnwys De Affrica ym 1997, o'r farn i'r teithwyr wastraffu cyfleoedd.

"Mae 'na gymaint o gyfleoedd 'da ni wedi gwastraffu," meddai Evans wrth edrych yn ôl dros y ddwy Brawf cyntaf yn Durban a Pretoria.

"Dyna'r gwahaniaeth rhwng y ddau dîm. Mae'r Boks yn llawer mwy clinigol yn y ffordd mae nhw'n cymryd eu cyfleoedd.

"Fe wnaetho nhw'r penderfyniadau cywir ar yr amser cywir hefyd.

"Gallai'r gyfres wedi mynd rhyw ffordd."

Wedi eu holl waith caled, roedd y Llewod yn haeddu cwblhau'r daith gyda buddugoliaeth meddai Evans, fu yn Ne Affrica yn gweithio i deledu lloeren.

"Fi'n falch dros ben gyda'r ffordd mae nhw wedi cael y fuddugoliaeth," meddai Evans.

"Mae nhw wedi cynnig gymaint yn ystod y daith a'r gyfres hefyd.

"Roedde nhw mor agos yn y ddwy gêm ac fe ddangos nhw gymeriad.

"'Da ni wedi cael tair gêm arbennig, cyffrous dros ben.

"Bydde hi wedi bod yn siom mynd gartref heb gael y fuddugoliaeth.

"Yn awr mae llwyth o chwaraewyr, o Gymru a bobman arall, wedi cael buddugoliaeth mas 'ma yn Ne Affrica."

Ychwanegodd Evans fod y fuddugoliaeth yn Ellis Park brynhawn Sadwrn yn profi bod dyfodol i dîm y Llewod yn yr oes broffesiynol.

"Ry' ni'n gallu cystadlu gyda goreuon y byd," meddai cyn gapten Cymru.

"Tydy nhw [De Affrica] ddim yn colli mor aml â hynny yn Ellis Park.

"'Dwi'n gwybod y gwnaetho nhw sawl newid ar gyfer y gêm - fe wnaetho nhw golli Bismarck du Plessis a Bakkies Botha

"Ond wedi dweud hynny mae mynd mas ac ennill ar ôl cyfres mor galed yn emosiynol a seicolegol yn dangos llwyth o gymeriad."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy