|
Cafodd chwaraewr Wasps a Lloegr ei yrru i'r gell cosb ar ôl defnyddio ei ben-glin i lorio'r mewnwr Fourie du Preez yn hwyr yn yr hanner cyntaf.
Bydd gwaharddiad Shaw yn dechrau ym mis Awst sy'n golygu y bydd yn colli gemau agoriadol y tymor yn Uwchgynghrair Guinness.
Shaw yw ail chwaraewr y Llewod i dderbyn gwaharddiadau yn ystod y daith deg gêem i Dde Affrica.
Cafodd yr Albanwr Nathan Hines ei wahardd am wythnos wedi tacl beryglus yn y gêm yn erbyn yr Emerging Springboks yn Cape Town.
 |