Roedd Cymru ar y blaen o 6-0 ar yr egwyl wrth i Stephen Jones lwyddo gyda dau gol gosb ond fe drawsnewidiwyd y gêm ar ddechrau'r ail hanner pan groesodd Brian O'Driscoll a Tommy Bowe am geisiau i'r Gwyddelod.
Fe lwyddodd Stephen Jones gyda dau gôl gosb bellach i gadw ei dîm o fewn cyrraedd a'r Cymry oedd yn dathlu pan drosodd gôl adlam gyda phedair munud yn weddill.
Ond O'Gara gafodd y gair olaf i sicrhau buddugoliaeth hir-ddisgwyliedig a haeddiannol i'r Gwyddelod er i Jones fethu cyfle arall at y pyst yn yr eiliadau olaf.
Ymateb Dafydd Jones wedi'r gem
Yn dilyn canlyniadau'r gemau yn gynharach yn y dydd yn Rhufain a Twickenham mae Cymru wedi gorffen Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y pedwerydd safle, diweddglo siomedig i'r tymor i dîm Warren Gatland.
Cyn y gêm roedd Gatland wedi datgan nad oedd fawr o gariad rhwng y ddau dim.
Ac yn yr awyrgylch tanbaid yn Stadiwm y Mileniwm fe ddaeth y drwgdeimlad i'r wyneb yn yr eiliadau agoriadol pan adweithiodd Donncha O'Callaghan i dacl hwyr capten Cymru Ryan Jones ar faswr y Gwyddelod Ronan O'Gara.
Er i'r dyfarnwr Wayne Barnes gosbi Cymru 10 llath ychwanegol fe fethodd O'Gara ei gynnig.
Ond y Gwyddelod oedd yn bwgwth yn y munudau agoriadol a chafwyd prawf cynnar o scrum y Cymry wedi pum munud ar ôl i Lee Byrne fethu a dal cic uchel O'Gara yn lan.
Fe ymatebodd blaenwyr Cymru i'r her gan wrthsefyll y bygythiadau cynnar ac roedd y frwydr ymhlith y blaenwyr yn un gyfan gwbl ddigyfaddawd.
Pan gafodd y Cymry y bêl yn eu dwylo roedd y dacteg o dargedu O'Gara yn un amlwg gyda Tom Shanklin a Ryan Jones yn arbennig yn achub ar y cyfle i brofi taclo bregus y maswr.
Ond roedd Cymru yn euog o golli meddiant pan oedd hanner cyfle i'w weld yn egino a phan ildiodd Stephen Jones y bel yn y dacl ar y llinell hanner wedi 13 munud fe roddodd gic O'Gara gyfle i roi gwaith y Cymru yn y llinell o dan bwysau.
Roedd tafliad Matthew Rees yn un wael ac fe gasglodd Iwerddon y bel rhydd gan osod llinell gais Cymro o dan warchae.
Unwaith fodd bynnag roedd amddiffyn Cymru yn gadarn ac er i Luke Fitzgerald groesi yn y gornel roedd y bel wedi mynd ymlaen o bas O'Driscoll.
Gyda'r gêm yn cael ei chwarae ar gan filltir yr awr, roedd man gamgymeriadau yn britho chwarae'r ddau dim ac roedd O'Gara yn enwedig i'w weld yn ddolen fregus yn y gadwyn Wyddelig.
Er bod anallu Cymru i sicrhau meddiant o'r llinell yn llethu eu hymdrechion i sicrhau troedle yn hanner Iwerddon tîm Gatland oedd yn dangos yr awydd i fentro.Llwyddodd Byrne i ddianc o afael y crysau gwyrdd gyda bylchiad wedi 18 munud ond fe ildiodd Rees y meddiant gyda dynion y tu allan iddo.
Dangosodd Henson chyffyrddiad hyfryd wedi 25 munud i ryddhau Ian Gough yn 22 Iwerddon ond unwaith eto fe lithrodd y bel o ddwylo'r Cymry yn y dacl.
Bu'n rhaid i Byrne ildio ei le i Jamie Roberts wedi 31 munud gyda Henson yn symud i safle'r cefnwr, ac fe ddaeth pwyntiau cyntaf y gêm dwy funud yn ddiweddarach wrth i Stephen Jones gosbi'r Gwyddelod am drosedd yn ardal y dacl.
Chwe munud yn ddiweddarach fe ddyblodd maswr Cymru'r fantais pan roedd Fitzgerald yn euog o groesi ar ôl i'r Gwyddelod ddwyn llinell arall oddi ar y Cymru.
Gyda'u gobeithion o hawlio eu Camp Lawn am y tro cyntaf ers 1949 mewn peryg o gael eu dryllio unwaith eto fe ddechreuodd Iwerddon yr ail hanner ar garlam.
Fe dorrodd Bowe yn rhydd lawr yr asgell dde cyn i gic letraws O'Gara orfodi Mark Jones i ildio tafliad i'r Gwyddelod yn y gornel.
Rhoddodd hyn y llwyfan delfrydol i alluogi'r blaenwyr i fabwysiadu eu tacteg nodweddiadol o ennill tir yn raddol gan gadw'r bel yn dynn.
Er i Gymru wrthsefyll y don gyntaf o ymosodiadau roedd cais yn anorfod er y bu'n rhaid i'r swyddog teledu benderfynu ar ddilysrwydd ymdrech O'Driscoll wedi 44 munud.
Dau funud yn ddiweddarach ac roedd hi'n amlwg bod O'Gara wedi deffro o'r hunllef gafodd yn yr hanner cyntaf pan fesurodd ei gic yn berffaith i ganiatáu Bowe i guro Shane Williams i'r bel er mwyn tirio o dan y pyst.
Fe ychwanegodd O'Gara y pwyntiau ychwanegol gan agor bwlch o wyth pwynt ar dim Ryan Jones.
Roedd diffyg disgyblaeth y Gwyddelod wrth iddyn nhw agosáu at eu gwobr yn cynnig gobaith i'r tîm Cartref o fedru o leiaf cipio'r Goron Driphlyg os nad y Pencampwriaeth.
Cosbwyd O'Callaghan gan Jones am wthiad plentynnaidd ar Mike Phillips ac fe dderbyniodd Jones gyfle arall i gau'r bwlch i ddau bwynt ar ôl i'r Gwyddelod droseddu yn y llinell ble roeddynt yn mwynhau rheolaeth lwyr.
Fe ddaeth Luke Charteris a Huw Bennet ar y maes wrth i Gatland geisio datrys problemau ei dim yn y llinell.
Gyda choesau newydd ar y cae fe fwynhaodd Cymru eu cyfnod gorau o'r hanner wrth i Williams gael cyfle prin i ddangos ei ddoniau cyn i Mike Phillips fwgwth llinell yr ymwelwyr gyda rhediad dinistriol i ganol yr amddiffyn.
Fe greodd gwaith nerthol Phillips y llwyfan i ganiatáu Jones i adennill y fantais gyda gôl adlam ac fe holltodd ei gynnig y pyst.
Ond roedd Jones ar fai eiliadau yn ddiweddarach pan aeth ei gic allan yn llawn dros yr ystlys wrth iddo geisio rhyddhau'r pwysau wedi'r ail ddechrau gan alluogi O'Gara i gipio'r fuddugoliaeth wedi i'r Gwyddelod sicrhau'r meddiant o'r llinell.
Mi gafodd Jones un cyfle arall i dorri calonnau'r Gwyddelod pan gafodd Paddy Wallace ei gosbi yn ardal y dacl, ond roedd ei gynnig o bellter ychydig lathenni yn brin o'r nod.
Cymru: Byrne; M Jones, Shanklin, Henson, S Williams; S Jones, Phillips; Jenkins, Rees, A. Jones, Gough, A Jones, D Jones, M Williams, R Jones (capt).
Eilyddion: Roberts yn lle Byrne (30), Bennett yn lle Rees (55), Charteris yn lle Gough (55).
Heb eu defnyddio: Yapp, J Thomas, Fury, Hook.
Iwerddon: Kearney; Bowe, B O'Driscoll, D'Arcy, Fitzgerald; O'Gara, O'Leary; Horan, Flannery, Hayes, O'Callaghan, O'Connell, Ferris, D Wallace, Heaslip.
Eilyddion: Murphy yn lle Kearney (66), P Wallace yn lle Fitzgerald (76), Stringer yn lle O'Leary (69), Best yn lle Flannery (68), Leamy yn lle Ferris (gwaed, 7), Court yn lle Hayes (gwaed, 27)
Heb eu defnyddio: M O'Driscoll.
Torf: 74,625
Dyfarnwr: Wayne Barnes (Lloegr)