Mi gafodd y maswr ei enwi ymhlith yr eilyddion i wynebu tîm Graham Henry er iddo orfod gadael y cae ar ôl 20 munud yn y gêm yn erbyn Canada ar ôl anafu ei ben-glin.
Bydd Dan Biggar yn cymryd ei le ar y fainc os nad yw Hook yn holliach cyn y gêm ddydd yn Stadiwm y Mileniwm prynhawn Sadwrn.
Mae Warren Gatland wedi cadw ffydd gyda'r tîm ddechreuodd yn erbyn De Affrica bythefnos yn ôl ar gyfer y gêm yn erbyn ei famwlad.
Bydd Gareth Cooper yn dechrau'r gêm yn safle'r mewnwr er bod Dwayne Peel wedi creu argraff fel eilydd yn erbyn y Springboks a Canada.
Mae asgellwr y Gleision, Leigh Halfpenny yn cadw ei le yn y tîm i ennill ei drydydd cap tra bod Stephen Jones yn dychwelyd i safle'r maswr.
Bydd Andy Powell hefyd yn ennill ei drydydd cap yn olynol yn safle'r wythwr gyda'r capten Ryan Jones unwaith yn rhagor yn dechrau'r gêm fel blaenasgellwr.
Wrth gyhoeddi ei dîm, eglurodd Gatland pam yr oedd wedi dangos ffydd yn y chwaraewyr oedd wedi dechrau'r gêm yn erbyn De Affrica.
"Yn fewnol roedden ni'n feirniadol o agweddau o'r perfformiad pythefnos yn ôl ac mae gan y tîm hwnnw gyfle i ymateb i'r feirniadaeth," meddai Gatland.
"Mae'r hyfforddwyr, y cefnogwyr, y chwaraewyr a phawb sydd yn gysylltiedig â rygbi Cymru yn gwybod fod hon yn gêm fawr i ni.
"'Dwi wedi dweud yn aml mai ond drwy chwarae yn erbyn timau gorau'r byd y byddwn yn gwella ac mae dydd Sadwrn yn gyfle i ddangos gwelliant."
Mae hyfforddwr Seland Newydd, Graham Henry, wedi gwneud un newid i'r tîm a drechodd Iwerddon y penwythnos diwethaf.
Bydd Richard Kahui yn cychwyn fel canolwr gan fod Conrad Smith yn dal i ddioddef o'r anaf a gafodd yn ystod y fuddugoliaeth o 22-3 yn Croke Park ddydd Sadwrn.
Tîm Cymru: Lee Byrne; Leigh Halfpenny, Tom Shanklin, Jamie Roberts, Shane Williams, Stephen Jones, Gareth Cooper; Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Alun-Wyn Jones, Ian Evans, Ryan Jones (capt), Martyn Williams, Andy Powell.
Eilyddion: Richard Hibbard, John Yapp, Luke Charteris, Dafydd Jones, Dwayne Peel, James Hook/Dan Biggar, Andrew Bishop.
Seland Newydd: Mils Muliaina; Joe Rokocoko, Richard Kahui, Ma'a Nonu, Sitiveni Sivivatu; Dan Carter, Jimmy Cowan; Tony Woodcock, Keven Mealamu, Neemia Tialata/John Afoa, Brad Thorn, Ali Williams, Jerome Kaino, Richie McCaw (capt), Rodney So'oialo.
Eilyddion: Hikawera Elliot, TBC, Anthony Boric, Kieran Read, Piri Weepu, Stephen Donald, Isaia Toeava.