BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 01 Tachwedd 2007
Teyrngedau'r Cymry i Ray Gravell

Mae cyn arwr rygbi Llanelli, Cymru a'r Llewod, Ray Gravell wedi marw yn 56 mlwydd oed yn dilyn salwch tra ar wyliau teuluol yn Sbaen.

Dechreuodd Grav ei yrfa rygbi ar Barc y Strade gyda chlwb rygbi Llanelli, clwb fyddai'n aros yn agos iawn at ei galon am weddill ei oes wrth iddo gael ei benodi'n llywydd ar y clwb wedi ei ymddeoliad.

Roedd yn ganolwr grymus a llwyddodd i ennill 23 cap dros ei wlad rhwng 1975 a 1978 ac roedd yn rhan allweddol o dîm Cymru gipiodd ddwy Gamp Lawn a phedair Coron Driphlyg yn y 1970au hwyr a'r 1980au cynnar.

Collodd daith y Llewod i Seland Newydd ym 1977 oherwydd anaf i'w ysgwydd, ond fe gafodd le ar y daith i Dde Affrica ym 1980 gan chwarae yn y pedair gêm Brawf yn erbyn y Springboks.

Gyrrwch eich teyrngedau a rhannwch eich atgofion o Ray Gravell.


Cyfrannwch

merch o fon
"dydy arwyr byth yn marw"cawr o gymro go iawn, roedd wir yn caru ei wlad, a mae ei wlad wir yn ei garu ef. diolch grav!

blwyddyn 6 ysgol Ponthenri
Grav yr wyt di'n cawr o ddyn ag oedd yn caru ei filltir sgwar ac yn cymro glan. Cydymdeimlo gyda'r merched

Christian Evans o Ponthenri
Grav yr wyt ti yn arwr i finnau ac yn arwr i holl o gymru! Yr wyt ti'n 'one of a kind' os wedai'r sais! Yr oet ti yn cawr o gymro ac yn gwr bonheddig. roedd o'n fraint i dy adnabod ac yn bleser i fod yn dy gwmni. cofion cynnes o'r cymro o'r carn. Meddylion gyda Mari, mannon ac gwennan am fyth am colli berson mor werthfawr!-x-

Diarmuid Johnson, Iwerddon
Doeth Grav draw i neud rhaglen deledu yn Iwerddon, a ffonio fi i gadw cwmni i'r criw. Roedd yn llawn hwyl a chynhesrwydd diffuant yn ystod y penwythnos yn Galway, ac fe gofiai fy ffonio pob tro y deuai i Iwerddon wedyn. Dawn a chynneddf y gwr oedd cofio pawb wrth eu henwau, a dangos mor fonheddig oedd drwy gofio rhyw bethau bach holl bwysig amdanynt. Wela i'i golli, ond gall ei fywyd fod yn ysbrydoliaeth eto. Huned yn dawel.

Dafydd Roberts Ysgol Bryngwyn Llanelli
Pan ddaeth Grav a'r criw i ddarlledu'n fyw o'r ysgol ryw flwyddyn a hanner yn ol, r'on i mor nerfus sut byddai plant ail iaith yn ymateb ar raglen fyw. Doed dim eisiau ifi boeni. Roedd Grav mor naturiol a chartrefol efo'r disgyblion. Wna i fyth anghofio'r diwrnod hwnnw. Diolch iti Grav am godi proffil y Gymraeg yn ein hysgol ni. Erys cof amdanat am byth.

Ffion o Benrhiwgoch
O ti yn arwr mawr i fi ac yn ffrind. Sawl gwaith o ti wedi galw fi yn "ffi ffi rees"?? dim ond ti bydde'n dod bant da hwnna!! diolch am bobeth! "Tip top"x

GRUFF O CAERDYDD
DIOLCH REY AM BOPETH I TI I'R SCARLETS A CYMRU

Bethan o Sir Benfo!
R.I.P Ray! =[rwyt ti'n colled enfawr i cymru cyfan, bydd pawb yn dy weld eisiau!!WEST IS BEST!!xxx

Wena o Gaernarfon
Mae gwled a chlywed hanesion Ray Gravel yn cnesu calon person - mae'n gwneud rhywn i fod yn prowd o fod yn Gymro. Colled fawr fawr iw wraig ai blant a Chymru gyfan.

Matthew, Sarah a Gwion Tyler o Bontypridd
Colled enfawr i'r Genedl. Gorwedda mewn heddwch.

Criw Bl 5&6 Ysgol Llanllechid
Da ni yma o hyd! Yn cefnogi rygbi, cefnogi ein gwlad a chwaraeon dros y byd.Diolch i Ray Gravell

Gweirydd Ioan Hermon =]
3 gair...WEST IS BEST!

Stephen Lewis
Roeddwn yn hynod o ffodus i gyfarfod Grav yn yr eisteddfod 2005 ar ol i Gymru enill y Grand Slam, oedd y gwpan ganddo ar y diwrnod a tynodd fy ngwraig Rhiannon lun o Grav, y gwpan a fi - sydd erbyn hyn yn bwysig dros ben i ni. Ar y diwrnod oedd e'n hynod o gyfeillgar er i mi beidio a cyfarfod e cyn yr achos hyn. Cymro i'r carn a gwr bonheddig.

Derrick Rowlands or Meinciau
Ray roedd yn anrhydedd i dy nabod am ddeugen mlynnedd ond roedd fwy o anrhydedd i ddweud dy fod wedi bod yn ffrind agos i fi am ddeugen mlynnedd. Meddwl amdanoch Mari Manon a Gwenan.Cysgan dawel.Derrick y bachwr

Rhodri Davies Ponthenri
Roedd dy gariad tuag at y wlad yn bleser i'w gweld. Welais i byth fonheddwr mor dda a chdi erioed , wneud i bawb wenu , Colled trist ofnadwy ydy hyn. Byddwn yn dy golli di yn fawr iawn, Am Fonheddwr Ray Gravell !! Gorwedda mewn Heddwch ,meddyliau gyda'r teulu

Idris Reynolds
Bydd un, un mwy na'i hunan, - yn eisiau O'r maes o hyn allan, Un ar goll o ferw'r gan, Un yn llai gan Gwenllian.

Emyr Oernant
Nawr a Graf yn erw'r gro - hiraethwn Ar drothwy'r ymado; Na wylwch wrth ffarwelio, Byw o hyd ei ysbryd o.

Dai Jones, Penmorfa
Er na welir anwylyd - i strydoedd Y Strade'n dychwelyd Mae ef, a Charwyn hefyd, Yn y maes 'yma o hyd'.

Pedr ap Ioan o Gydweli
Annwyl Ray,Roedd yn bleser ac yn fraint I alw ti'n ffrind, I weithio gyda ti ar y ffilm "New Shoes", ac un neu ddau episode o Bobol y Cwm, ambell weithiau chymerid rhan yn dy rhaglen i'r Gorllewin, ar Radio Cymru. Fyddi dy yn iawn cofia Ray bach, Cymraeg, yw iaeth y Nefoedd!!West may be best!! but it's now all the poorer for your passing!!Gyda hiraeth mawrPedr ap Ioan

Pawb yn Grwp WRW - Llanelli
Grav, ma pawb yn y cwmni yn gweld dy eisie yn fawr, rhai yn mynni dy fod dal yn siarad a nhw, a phawb mor falch ei bod wedi cael y siawns a'r fraint o dy nabod.Diolch am bopeth Ray.Owt!

Glenys Thomas Garnant
Cydymdeimlad dwysaf i Mari Manon a Gwenan.Mae Cymru yn wylo.Cawr o ddyn. Tywysog o ddyn. Hen GARIAD o ddyn. Cwsg yn dawel Ray. Nos da GRAV X

W J Jones Caerdydd
Ni adewaist gofgolofn ond cannoedd a wnaed yn well oherwydd dy fywyd. Ni ellid gofyn am ragor.

Iona o Abertawe
Cyn iddo fynd ar ei wyliau i Sbaen, dywedodd Ray ei fod am ddiolch yn gyhoeddus i holl chwaraewyr, staff a chefnogwyr y Gweilch am eu geiriau caredig a'u cefnogaeth iddo yn ystod ei salwch. Yr oedd Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot wedi trefnu mai erthygl gan Ray fyddai'n ymddangos yn ei 'slot' hi o fewn rhaglen gemau cartref y Gweilch ddydd Sul, Tachwedd 10fed pan gyddai'r Gweilch yn chwarae eu gem gyntaf Cwpan Heineken yn erbyn Bourgoin. Y mae Alun Pugh, o'r Fenter Iaith, wedi ymdrechu i ddatgan beth yr oedd Ray wedi dweud wrtho yr oedd am ei ddweud. Yr oedd Ray bob amser yn barod i gefnogi Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot ac fe ddaeth draw yn gyson i wahanol ardaloedd o'r sir i ddarlledu ei raglen wych.

Sioni o AZ
'flin 'da fi, un dewis.Oes 'ma loes yn oes oesoedd – pawb Cymru?Pob cyfle i rowch floedd!Gwladgarwr, canolwr oedd; Yn arwr llan a'r lluoedd

Sheila John, Blaenau
Cofio'n cynnes am Ray pan oedd yn Rep i Sharpe and Fisher. Galw i mewn pob dydd Mawrth. Cael hanes pob gem oedd wedi bod ar y Sadwrn a phob claish new gwt oedd ganddo ar ol y gem. Braint oedd cael ei adnabod.Mi a ymdrechais ymdrech deg mi a gedwaist y fydd dyna Grav i'r dim, Cwsg yn dawelMeddwl heddiw am Mari, Mannon a Gwennan

Huw Jones o Gaerffili
O,dd Grav yn ddyn arbennig iawn! bydd pawb byth yng nghofio y cawr o,r Mynydd y garreg, dyn y sgarlets. O,dd Grav yn arwr i bawb yng Nghymru a,r tu hwnt. Cofion gore gwir Tywysog Cymru

Huw Meredydd, Pontypridd
Diolch i ti Grav am lenwi ein calonnau gyda hapusrwydd, ac am dy garedigrwydd a dy haelioni di-ben-draw. Does gennym ddim ond atgofion melys wrth feddwl am yr holl hwyl fu yn dy gwmni. Nawn ni fyth anghofio dy gefnogaeth brwd i gerddoriaeth newydd Gymraeg, a dy awydd cyson i ddarlledu grwpiau ifanc a newydd ar dy raglen foreol. Diolch am gymaint.

Huw Jones o Gaerffili
O,dd Grav yn ddyn arbennig iawn! bydd pawb byth yng nghofio y cawr o,r Mynydd y garreg, dyn y sgarlets. O,dd Grav yn arwr i bawb yng Nghymru a,r tu hwnt. Cofion goreHuw Jonws

Cathryn o Rydaman
Gwir Tywysog Cymru!! Diolch am dy ysbrydoliaeth fel capten y Scarlets ac ym mhob peth Cymreig. Mi fyddi di wastad "Yma o Hyd" gyda ni gyd fel cenedl! Diolch Grav !

Gary Baxter o Fynydd y Garreg
Fel gwr bach o bentre Mynydd y Garreg, fe hoffen ymestyn diolch i'r cawr Ray Gravs am ddodi ein pentre bach ni ar y map, nid map o Brydain ond map y byd, colled enfawr i'r gymuned. Canu corn a gwen ar ei wyneb wrth gyrru heibio pob dydd.

Fe golles fy mam rhyw bedair blynedd yn ol i Motor Neurone Disese, roedd Ray a fy mam yn ysgol gyda'i gilydd, ac roedd e mor cydymdeimladol ar y pryd hynny. Er ei bod yn gawr o ddyn a phresenoldeb enfawr roedd yna ochor feddal iddo.Hoffwn ymestyn diolch yn personol iddo am chwarae rhai o'n ganeuon ar y radio, ac un stori rydw i'n gofio yn arbennig odd un tro fe aeth fy ngwraig i'r archfarchnad i siopa yn Nghydweli, a newydd symud i'r pentre oedd hi a ddim yn rhy siwr o'r ardal a byw mewn pentre bach mor dawel, a daeth hi yn ol a gwen enfawr ar ei wyneb. Gofynnes pam ei bod mor hapus a dwedodd hi yn saesneg,"I think I've been accepted into the village" gofynes i pam a wedodd "Well the shop was full of people and Ray Gravell shouted as loud as he could 'HAY MOUNTAIN GIRL' and was waving his hands frantically." A wedodd "I was so embarressed but flatterred."
Diolch i ti Ray.
Fel y mha nhw yn dweud "Tan Gewn Cwrdd Eto"
Gary Baxter

Ian Tymbl
Yn syml, dim Jose Mourinho odd y 'Special One' ond Grav.

Y Parchedig Elfed Jones o Benarth
Rhai blynyddoedd yn ol cefais gyfweliad a Ray, oherwydd roedd ganddo ddidordeb a ymuno a Oxfam yng Nghymru, fel cynrychiolydd y Gorllewin. Fe aeth ei orwel tua'r BBC. a diolch am hynny oherwydd roedd e'n gyfarthrebwr eithriadol o dda, er buasai wedi gwneud cynrychiolydd eithriadol o dda i Oxfam hefyd. Roedd e bob amser ynghanol ei bethau. Roedd wedi taro deuddeg ambell dro ar y maes rygbi, ond yn ddiweddar roedd ar yr ystlus, ond nawr mae unwaith eto wedi taro deuddeg ynghanol ein calonnau ni i gyd.

Elin o Dyffryn Ardudwy
Gwir Gymro, Gwir golled. Heddwch i'w lwch.

Teulu o Flaenau Ffestiniog
Doedd dim byd yn fawreddog yn Ray Gravell. Roeddem yn sefyll ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn aros i weld yr Orsedd yn mynd i fewn i'r Pafiliwn. Roedd y mab yn gwisgo crys pel-droed Cymru a phan welodd Ray ef, dywedodd "Fi'n licio'r crys!"Roedd yr ychydig eiriau yna wedi gwneud ein diwrnod yn y Steddfod yn un i'w gofio.Diolch Ray x

Hywel - Llanrhystud
Yn eilun, ffrind anwylaf,Yn foi gret, dyna fu Grav.

Bethan Mair o Rydaman
Rwy'n dal ffaelu credu'r newyddion llym a thrist a ddaeth fore dydd Iau. Mari, rydym yn meddwl amdanat ti a Manon a Gwenan yn arbennig. Ray oedd yr unig un oedd yn gallu uno Cymru benbaladr a de, gogledd, dwyrain ac, wrth gwrs, y gorllewin a hynny am mai dim ond un Grav oedd. Boed i'r atgofion lu amdano fod yn hir a melys.

Dr Glyn Jones o Bow Street, Ceredigion
Ray Gravell - pleser oedd ei adnabod ar ol gwneud sawl cyfweliad gyda Grav i'm Rhaglen Crwydro Cynefin ar Radio Ceredigion. Dau sefyllfa arbennig sy'n aros yn y cof - yn Awst 2005 yng Ngwyl y Cobiau ar Merlod Cymreig yn Aberaeron pan gafodd fel Llywydd y dydd gyda'r teulu i gyd eu cyrchu ar Goets Fawr a phedwar ceffyl Mr Gwyn Williams o blasdy Llanerchaeron i Gae Sgwar Aberaeron. Ac fel arfer roedd Grav yn egniol a llawn brwydfrydedd gyda'r achlysur er braidd yn bryderus am y daith!. Yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2006 buais yn ffortunus iawn i gyfweld a Grav ar ein maes Cenedlaethol ar Stadiwm y Mileniwm gyda'r Tarw Du Cymreig Cwmcae Brenin y Trydydd cyn y gem fawr yn erbyn y Crysau Duon pan na welwyd yr hacca ar y cae. Roedd Grav fel arfer yn llawn brwydfrydedd ac yn wir edmygol o Mr Tevor Jones o Fferm Cwmcae, Bow Street, Ceredigion 'am ddod ar tarw du yr holl ffordd i Gaerdydd i herio'r crysau duon ar ein maes cenedlaethol ! Trysoraf yr atgofion hyn a byddaf yn gwneud rhaglen deyrnged fy hunan i Grav - Y Cawr o Fynydd y Garreg gan ail ddarledu'r cyfweliadau hyn ar rifyn nesaf Crwydro Cynefin ar Radio Ceredigion fore Mawrth nesaf 6ed o Dachwedd 2007 am ddeg y bore ac ail ddarllediad am ddeg y nos.Gyda fy nghydymdeimlad dwysaf i Mari, Manon a Gwenan - Braint ac Anrhydedd oedd ei adnabod Dr Glyn Jones ar Teulu

Keith Bach Caerdydd
"Dyw arwyr ddim yn marw", dyna ddwedodd rhyw fardd rywdro. Capten, fyddi di byw am byth. Fe dries i gadw trefen arno ti ar dy raglen, ond fe fethes i'n rhacs, a hwyrach ma' peth da oedd hynny!Diolch am fod yn ffrind, diolch am y cwmpo mas a'r cwtsho wedyn, diolch am fod yn ysbrydoliaeth ac yn benna, diolch am dy ddidwylledd ar ac oddiar yr awyr. Ma lot fawr 'da nifer o bobl i ddysgu oddiwrtho ti. Dwi'n addo, y gwnawn ni bopeth i sicrhau fod dy etifeddiaeth yn para. Fe byse ti'r diawl bach yn dweud -"Caru ti"

Siani o Lannon, Llanelli
Dyn arbennig iawn. Colled mawr i Gymru. Cydymdeimlad dwys i Mari a'r merched.

Hywel Jones, Caerdydd
Ces i'r fraint rhwng 1987-91 o weithio i adran chwaraeon BBC Cymru. Des i 'nabod Grav yn dda tra'n sylwebu ar y cyd ar gemau clwb ar draws De Cymru. Roedd Ray yn aml yn hwyr i'r pwynt sylwebu - roedd rhaid taro gair ag aelodau'r dorf ar y ffordd ac weithiau talai ragor o sylw i'r cefnogwyr nag i'r gem! Mae llawer wedi ei ddweud am ansicrwydd ei bersonoliaeth. Ond hwn oedd y 'Cymro cyfan' a lwyddodd i gyfanu ei genedl. Ceisiwn efelychu HYDER Grav yng Nghymru. 'Fe ddaw eto haul ar fryn ...'

Aled, Talyllychau
Roeddet yn arwr ac yn ysbrydoliaeth i ni yg fel Cymry!!Diolch am bopeth Ray!Dymuno cydymdeimlad a'r teulu!

Erin Aled, Llanuwchllyn
Gwir Tywysog Cymru.

Llinos o Nant Peris
Gwrddes i a Grav am y tro cynta pan oeddwn i ar gyfnod o ymlyniad yn Radio Cymru Caerdydd o Fangor. Er mai dim ond am fis yr oeddwn i yno 'roedd o'n wastad yn fy nhrin fel petaen ni'n hen ffrindia bob tro fydden ni'n cwrdd wedyn ac yn gwneud i rywun deimlo'n 'sbeshal'. Cymro i'r carn oedd mor falch o'i wreiddia'. Bydd colled mawr ar dy ol Grav x

Catrin Alun, Pontlliw
Roeddwn ar daith efo Cor Ty Tawe yn Barcelona pan glywson ni'n newyddion trist. Doedd neb ohonom yn gallu credu'r peth! Roedd Ray'n un o ffans mwya'r cor, ac yn enwedig o Helen Gibbon, ein harweinyddes. Bu chwarae mawr ar ein CD ar ei raglen, yn enwedig y trac 'Arglwydd Dyma Fi'lle byddai bob amser yn dotio ar lais Helen! Clywais rhywun ar y radio'n son fel y byddai Ray'n cofio pawb, a gallaf innau eilio hynny. Newydd symud i Langennech (o'r Gog!) oeddwn i pan wnes i ei gyfarfod am y tro cynta - ac anghofiodd o fyth! Mae'n golled enbyd, ac mae'n cydymdeimlad a'r teulu bach yn fawr. Diolch am gael ei adnabod. Pob bendith i Mari, Gwenan a Manon.

Sian Ifan, Abertawe
Mae Cymru mewn galar yn dilyn y newyddion trist iawn a'm tarodd bore Iau fod 'Grav' wedi ein gadael. Byddai ei orchestion rygbi, yn eu hunain, wedi gwneud hyn yn golled enfawr i Gymru ond, fel mae pawb yn gwybod, roedd 'Grav' yn gawr gwlatgarol mewn cymaint o ffyrdd eraill. Roedd yn ddyn Glyndwr mawr a byddaf yn colli ei gyfarchiad brwdfrydig o 'Juratus Oweyn' bob tro roedd o'n fy ngweld. Roedd poblogrwydd 'Grav' yn golygu fod pawb yn mynnu ei amser ond roedd yn gwneud amser i bawb ac yn trin pawb yn yr un modd, a phob sefyllfa gyda'r un brwdfrydedd. Byddai 'Grav' wastad yn dweud, petai wedi bod yn byw yn yr un cyfnod a Glyndwr byddai, heb unrhyw amheuaeth, wedi bod wrth ochr ei arwr ar faes y gad; 'Grav', o achos dy wasanaeth di-flino dros Gymru, rwyt yn haeddu dy le wrth ochr Glyndwr a dwi'n siwr byddai'n gysur i ni gyd rwan i gredu iti fod wrth ochr dy arwr pennaf erbyn hyn.

Alun Tumelty Zeland Newydd
Dim ond ddechrau nabod Ray cyn ddod mas yma i fyw ar ol gweithio yn y gwenllian cydweli. diolch am popeth Ray ar teulu. Ble mae'r amser yn mynd?

Owain, Ynys Mon
Grav, rwyt bellach wedi cyraedd man lle mae cymraeg yn iaith gntaf-nefoedd! Rwyt yn fwy breintiedig nai ni oll,yn nol y son, mae pob gem o rygbi fynu fana yn beffaith, y gorau y fuodd erioed! mi nai gwrdd a ti eto rhyw ddydd, tan hynnu-DIOLCH!

Steffan a'r teulu o'r Hendy
Cefais y pleser o gyfarfod Ray ar sawl achlyur yn ddiweddar tra'n darlledu ei raglen o'n hysgol. Gwefr oedd cyfarfod cawr enwog mor gynnes a didwyll hyd yn oed yn ei waith. Teimlaf ei golled i'r carn gan ei fod wedi bod yn un o'r lleiafrif i gadw gwerthoedd gonest at ei waith,at rygbi a'i gariad at Gymru. Ni welwn ei debyg eto. Cydymdeilwn yn ddwys a'r teulu. Gobeithio y byddant yn cael cryfder o'r hapusrwydd y cawsant yn ei gwmni.

Alan, Eirlys, Jane a Geraint Altham, Gorslas.
Braint oedd dy adnabod, mae colled Cymru yn fawr, atgofion melys a phob bendith i'r teulu bach.

Rhian o Gaerdydd
Dyn annwyl. Tad annwylach. Egni heintus a chalon gynnes.Cyfrannodd yn hael i fywyd y Gymru fodern mewn modd naturiol, diymhongar a hoffus iawn. Diolch Grav.

Bethan o Rhuthun
Wnes inne erioed ei gyfarfod ac eto roedd y dagre'n llifo wrth ddarllen y papur heddiw a gwylio dechre'r gem rygbi heno. Grav - dwi'n gutted.... Fy nghydymdeimlad llwyraf i'r teulu.

Richard a Sian o Aberystwyth
Mor falch yr oeddwn i gyfarfod a Ray a Mari mewn bwyty cymreig (am y tro cyntaf) yng Nhaerfyrddin a hynny ond mis yn ol. Gwr annwyl a chynnes efo personoliaeth didwyll. Heb ddim ffys na ffwdan, llofnododd Ray gyfarchion iddo'n mab a oedd yn dathlu deunaw oed. Cyfarchion a fydd yn drysor am byth. Ein cydymdeimlad dwysaf i Mari, Gwenan a Manon.

Sioned o Aberystwyth
Newyddion trist iawn iawn. Teimla fel bod pawb yn adnabod Ray Gravel ac roedd y sioc o glywed y newyddion bore ddoe yn union fel clywed am farwolaeth aelod o'r teulu. Ymddangosai yn ddyn mor hynaws - roedd pawb yn arbennig iddo, a'i falchder o fod yn Gymro yn esiampl i bob un ohonom. Cydymdeimlad dwysaf a'i deulu i gyd. Bod i Dduw edrych ar eich ol.

Meinir - Caerfyrddin
Bydd byth unrhyw un fel ti Grav. Saint Grav. Cydymdeimladau dwysaf i'r teulu.

Sandra Davies o Gefneithin
Newyddion mor drist a syfrdanol oedd newyddion saith O`r gloch bore dydd Iau pan daeth y newyddion am Grav. Cwrdd a fe yn y Betting shop Lynn James yn Cross-Hands wnes i. Penderfynnwyd mai fi oedd yr un mwyaf tebyg i allu rhoi cyfweliad iddo am ei rhaglen ynglun a`r Grand Ntional ac fel yna y buodd hi. Gwneud i mi deimlo yn hyderus a gwneud i mi chwerthyn y gwnaeth o! Roedd ei gymeriad yn un hoffus iawn ac fe fydd Cymru yn gweld ei eisiau yn fawr iawn. Cydymdeimladau mawr i`w deulu a phob lwc i`r Scarlets heno. Gwnewch Y Grav yn browd boys. Rwy`n siwr y bydd e`n canu yn y nefoedd heno.

Lynda Ganatsiou GROEG (gynt o'r Bont)
Cydymdeimlladau dwys i'r teulu oll ar eu colled.

Arwyn Gittins,Salmon Arm,British Columbia
Cawr ymlyth y cewri. Cymro i'r carn Cydymdeimladau dwys i'r teulu. Ni ddaw person fel efe eto.Fe fydd yn amlwg a'i grys coch yn y nefoedd

Adam Jones
Yn Cawr o Gymro.Ni anghofiaf byth am beth y wnaeth y Cymro bonheddig yma i Gymru. Mae Cymru yn wlad wag ei ysbryd dan ni wedi colli ein Owain Glyndwr newydd. Yn chwarae i'r gad yr oeddet ar y cae. Ac yn brwydro i'r gad gyda'r Cymraeg a chendlaetholdeb/gwladgar wch Cymraeg yn bwysig iddo.Mae Cymru wedi gwawrio dydd ers iddyt fyndOnd roedd dy wen dal yn cynhesi'r cymoedd gyda'r haulMae'r genedl yn dawel a'r ol colli gwir ffrind.Cymro Cymraeg yn ysbrydoliaeth hael.Gorffwysfa'r nef yw dy hafod bellach. Ni anghofiwn byth am beth a wnest ti i Gymru.Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion enwogion o fri.Ei gwrol rhyfelwyr, gwladgarwyr tra mad.Tros rhyddid collasant eu gwaedWel Ray . Ti oedd ein tad, ein bardd, ein enwog ddyn. .Ein gwrol rhyfelwr, Ein gwladgarwr, Tros rhyddid collasant dy gwaed

Phil a Janet, Cross Hands
Yn "Y Mynydd" roedd dy wreiddie;yn yr iaith Gymraeg a'r pethe.Cyffwrdd wnest a'n holl galonne;Annwyl Grav - bydd mawr d'eisie.Bydd y boreuon byth 'r'un fath hebddot. Cydymdeimlad dwys i Mari a'r "gels".

Carwyn James, Pontiets
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,Deigryn a ddaw i'r dyn yma drwyddi.Cawr o ddyn o Mynydd Y Garreg,Ac egni rhyfeddol fel caseg yn rhedeg.Llywydd llawn sbort a'i farf byr cochlyd,Ond ar y cae, byth yn joclyd.Tri-deg-pump mlynedd ers chwarae da'r backs,Ond gwmws i'r diwrnod o guro'r 'All Blacks'.Sosban fach oedd yn berwi ar y tan,Hwn fydd ei anthem yn hytrach nai gan.Bolchder o gario cledd yr Eisteddfod,Heb ei bresenoldeb roedd braidd yn 'odd'.Gwalia a llifodd drwy waed y gar,Pwy arall? Medd Aneurin fel Owain Glyndwr.Rhaglen bywiog ar Radio Cymru,Ond aller neb o'i gydweithwyr ei dyrnu.Pwy arall gall y hwn fod, on Ray,Dyn a barchwyd dros y byd, glei.Fydd ei ysbryd gyda n gyd dragywydd,Yn hedfan dros ben a wastad dros Mynydd.Gwisgodd y fanner yn browd ar ei frest,Ac fyddwni gyd yn gwaeddu drosto...WEST IS BEST!!!Carwyn James

Geraint o Beniel
Y Cymro cyflawn!Diolch am y fraint a'r cyfle o gael ei adnabod.Cydymdeimlad dwysaf i Mari,Manon a Gwenan yn eu colled.

Gwydion o Gaerfyrddin
Colled enfawr i'r genedl. Cymro i'r carn.Boi ai draed ar y ddaear a wnaeth byth anghofio pwysigrwydd ei gynefin a'i filltir sgwar.

Peter Bradley o Gaerdydd
Dyn oedd yn medru sefyll yn gadarn dros ei argyhoeddiadau heb golli ei hawddgarwch.Dawn prin, gwerthfawr. Colled mawr ar ei ol.

Ian Parri o Lanystumdwy
Arferwn gyfarfod Grav wrth grwydro pencadlys y Beeb yn Llandaf mewn cyfnod byr o weithio yno, ac roedd ei garisma a'i frwdfrydedd wastad yn llenwi'r coridor a'i gyfarchiad bob tro o'r galon. A chofiaf dro arall noson go wyllt yn Yr Afr ym Mhenygroes, ar ol iddo dreulio amser yng ngwmni aelod o Gymdeithas yr Iaith oedd newydd ddod o'r carchar. Arwr a chawr yng ngwir ystyr y geiriau, mewn cyfnod pan gaent eu gor-ddefnyddio.

Huw o Abercarn
Mae'r cenedl wedi colli dylanwad mawr, fe fydd colled Grav yn anmesuradwy. Am arwr i bawb

Rosalyn Davies Cilmaengwyn Pontardawe
Colled enfawr i Gymru gyfan.Diolch iddo am wneud codi yn y bore yn bleser.Cydymdeimlad dwys i'r teulu.

Sioned James, Caerdydd
Roedd gan Grav y ddawn o wneud i bob un a gyfarfu e', yn sbeshal. Ac wrth wneud eitem ne' ddou i'w raglen foreol e, yr un oedd y linc ganddo, "Rhowch groeso i arbenigwraig gerddorol swyddogol rhaglen Grav, Sioned James"...er mai prin ryw deirgwaith wnes i gyfrannu i'r rhaglen yn y cyd-destun hwnnw! Cusan a cwtsh oedd ei argebigedd e', ac mae'n anodd amgyffred na chewn ni glywed ei eirie' didwyll e fyth eto. A Grav oedd yr unig un a lwyddodd i wneud Keith Bach yn Keith llai fyth..."Keith Bach Bach Bach baaaaaaaaaaach"....cofion annwyl iawn at Mari a'r plantos. x

JOHN DUGGAN. Porth Tywyn, gynt o Gwm Gwendraeth
Grav, Fe dreulion amser da a hwylus, yn arbennig yn y Cydweli Arms yn mwynhau cwpwl o beints, ag ambell Jameson bach!!! Cenedlaetholwr a Cymro lawr i'r asgwrn. Tawelach fydd Cymru, ond fydd dy ysbryd yn dal i fyw. Mae'r Heaven Welsh 15 yn brin o "centre" i chwarae'r Heaven English. Da Bo Grav, West is Best.

Criw Ty Tawe, Abertawe
Blwyddyn i mis yma daeth Grav a Marky G i ddarlledu ei raglen wych o Dy Tawe ar achlysur o ail agor y siop. Roedd hi'n fore byth gofiadwy gyda Grav yn denu pawb i'r siop gyda'i fwrlwm a gweiddi 'west is best' ar bob un oedd yn pasio! Roedd nifer o ddysgwyr yma y bore hwnnw yn cael ei gwersi Cymraeg gyda'r tiwtoriaid a byddwn ni byth yn anghofio mor falch oeddynt i gael y cyfle o siarad gyda Grav, roedd yntau mor groesawgar ac yn eu llongyfarch ar wneud yr ymdrech o ddysgu'r iaith - roedd ei annogaeth a'i barodrwydd i gynnal sgwrs gyda nhw yn y Gymraeg heb os yn ysbrydoliaeth.Diolch i ti Grav am dy gefnogaeth i Dy Tawe - byddwn ni gyd yn gweld dy eisiau xx

Aled o Sir Benfro
Pob cydymdeimlad i Mari a'r merched. Yr unigryw Grav - atgofion melus.Cysga'n dawel.

John Lewis o Aberystwyth
Cawr ymysg y cewri - cymeriad,conglfaen y Strade;Cymro a cheidwad y cledd,Gwaeddwn 'heddwch' i'w lwch e'.Diolch Grav

Alwyn ap Huw, Llansanffraid Glan Conwy
Arthur, Llywelyn, Glyndwr, Gwynfor ... a Grav. Cwsg ymysg cewri ein cenedl yr hen gyfaill. Hyfryd bydd pob coffa amdanot.

Lowri, Caerdydd
Mae na wacter mawr yn enaid y Cymry heddiw - gwacter na ellir byth ei lenwi - hollol unigryw oedd Grav - Cawr tyner a diymhongar - mae'n meddyliau ni i gyd gyda'i deulu bach annwyl yn Sbaen heno.Diolch am yr holl gofion a llawenydd wrth i mi dyfu fyny yn cefnogi Grav a tim rygbi Cymru dros y degawdau ac yn gwenu ac yn chwerthin yn braf wrth ei weld ar ochr y cae yn y gemau rhyngwladol mwya ddiweddar. Am golled enfawr ond am atgofion mwya melus o arwr Cymreig na fydd byth yn ein gadael ni fel cenedl.

ALAN a DILYS o BONTNEWYDD
Colled fawr i Gymru ond mae'r golled fwyaf ar yr aelwyd ym Mynydd y Garreg.Ein cydymdeimlad dwys.

Tri Tenor....Crwys, John a Robyn Lyn.
Ffrind, Arwr a Cymro cyflawn.Braint mawr oedd cael ei adnabod. Diolch i ti Grav am yr holl cefnogaeth i ni "Tri Tenor."Cydymdeimlad dwysaf i Mari,Manon a Gwennan."O'r tip top tenors....West is Best!"

Arwel o Borthaethwy
Newyddion sobor o drist. Cydymdeimlad dwys iawn i deulu a ffrindiau Grav.Heb gael y pleser o gyfarfod Grav ond yn dal i deimlo fel fy mod wedi colli ffrind.

Tri Tenor....Crwys, John a Robyn Lyn.
Ffrind, Arwr a Cymro cyflawn.Braint mawr oedd cael ei adnabod. Diolch i ti Grav am yr holl cefnogaeth i ni "Tri Tenor."Cydymdeimlad dwysaf i Mari,Manon a Gwennan."O'r tip top tenors....West is Best!"

Leigh Thomas, Dundee ( O Llanelli)
Wel, fel pob cymro glan, mae'n ofnadw i clywed amdano Ray Gravel yn marw. Rydyn yn defnyddio'r gair 'seren' ac 'chwedl' yn gyson iawn dyddiau yma, ond roedd Ray Gravel yn gwir chwedl A seren, ac i llawer o pobl yn arwr yn y byd rygi dros y byd i gyd. Mae'r delwedd o gweld Mr Gravel ar ol ei tryniaeth ar ei goes, yn dod yn syth i'm meddwl i. Roedd yn dyn mor ystum ac gobeithiol, hapus, o hyd yn gwenu, hyd yn oed pryd oedd y Scarlets yn cael crysfa!Mae Cymry (cyntaf) ar byd chwaraeon wedi colli gwir seren a engraifft o agwedd bositif, mae fy nghalon a gweddiau yn mynd allan i eu deulu, cofiown ni am byth Ray

Rhodri Jones Felinfach
Roedd Grav yn ddyn hynaws iawn ac yn heintus ei frwdfrydedd!Er na chefais y cyfle i ddiolch iddo'n bersonol, hoffwn ddiolch iddo am yr ysbridoliaeth a gefais pan golles fy ffrind gorau yn dair ar hugain yn ddiweddar!roedd clywed ei ffydd a'i ddiolchgarwch yn ystod ei salwch diweddar yn hwb enfawr!gobeithiaf ofewn amser gall Mari a'r merched rannu yr un cysur a gobaith!

Cyfarwyddwyr a Staff Menter Cwm Gwendraeth
Mor anodd yw dod o hyd i eiriau gan anfon ein cydymdeimlad dwysaf i Mari, Manon a Gwennan ar golli priod a thad ffyddlon ac annwyl iawn. Roedd Ray yn gawr o Gymro a Chwm Gwendraeth yn rhan annatod ohono. Diolch am ei gyfraniad amhrisiadwy. Braint oedd cael ei adnabod. `Yr hwn a allodd, efe a'i gwnaeth'.

Andrew o Aberystwyth
Daeth e i'r Llyfrgell Genedlaethol a rhoi un o'r anerchiadau mwyaf nerthol ac angerddol a glywyd yna erioed. Dyn oedd yn naturiol agos-atoch ac yn gyfeillgar i bawb heb eithriad. Braint ei nabod.

Angharad o Gaerdydd
Mae'r byd gymaint tlotach heddiw o dy golli di.Cysga'n dawel Grav

Ian o Rhuthun
Wnes i erioed dy gyfarfod ond teimlaf dy fod yn ffrind. Ray - ti oedd yn adlweyrchu calon Cymru dors y blynyddoedd diwethaf - diolch i ti am bopeth.

Dennis Morgan Capel Hendre
Mae cwmwl du yn gwasgu ar ddyfroedd CydweliA Mynydd Y Garreg yn fud,wedi'r cawr ymadael a hi.Y Nefoedd fydd yn dathlu,wrth baratoi am ddyfodiad Ray.Mae Carwyn yno ,yn gwenu ,wrth baratoi ei dim o'r newydd.Un yn cynnwys ei ffrind annwyl,sef Ray o'rMynydd.Bydd y clychau Nefol yn canu'n ddibaid heddi, ond ein calonnau ninnau yn gofyn pam oedd rhaid ei golli? ------------Bydded i Dduw gofleudio'i deulu.

Cyfarwyddwyr a Staff Menter Cwm Gwendraeth
Mor anodd yw dod o hyd i eiriau gan anfon ein cydymdeimlad dwysaf i Mari, Manon a Gwennan ar golli priod a thad ffyddlon ac annwyl iawn. Roedd Ray yn gawr o Gymro a Chwm Gwendraeth yn rhan annatod ohono. Diolch am ei gyfraniad amhrisiadwy. Braint oedd cael ei adnabod. `Yr hwn a allodd, efe a'i gwnaeth'.

Eifion ap Gwilym O llanwnda
Newyddion trist ofnadwy oedd clywed am ei farwolaeth. Colled enfawr i'n genedl arwr annwylaf ac fwyaf Dymunol a fu. Trist heb ei gwmni ar y radio a theledu. Mae Tim da gan y nefoedd Rwan.Da bo chi Ray.

Emyr James - Penfro
Cymro I'r Carn, Roedd Ray yn cymrud chwarae I cymru, Llanelli a hyd yn oed y Llewodd yn braint personol, ac yn rhoi cant a cant i'w clwb ai wlad. Yn dyn oedd yn ysbrudoli a rhoi yr "S" yn y Scarlets. ynrhywyn oedd yn nabod Ray oedd yn e caru, fel dyn hynod o neis ac a amser I pawb. Cofion Personol o Ray "West is Best" gorwedda yn Hedd Gav. bydd y ysbrodolieth yn byw ymlaen.

Wyn Thomas o Gydweli
Fel plentyn, ti oedd fy arwr.Fel dyn a thad, ti yw fy esiampl.Braint oedd dy adnabod, cofia JR.

Huw o Ddinbych
Am golled i Gymru. Cyfarfod o unwaith ar maes Eisteddfod yr Wyddgrug. Am ddyn llawen a gwen fawr ar ei wyneb. Cymro i'r carn. Mae rhai i'r WRU calw y gem nesaf Cymru erbyn De Affrica Cwpan Ray Gravell. Fy meddyliau hefo ei wraig ai blant. Diwrnod trist i pob Cymro.

Aron, Dolgellau
Gwr oedd gyson a gwen ar ei wyneb. Bydd calonau'r Cymry yn wanach hebddo. Diolch am bob munud o fwynhad ynghylch y rygbi.Cydymdeimladau a teulu'r cawr.

Ceri o Gaerfyrddin
"Daw'r bel mas i Bennett sy'n hanner bylchu. Mae'n cael ei daclo ond mae Jenkins yno i gymennu. Mae'r bel gan Gareth Jenkins, heibio i un chwaraewr cyn chwilio am gymorth. Mae Ray Gravell ar ei ysgwydd. Mae Jenkins yn pasio'r bel i Gravell sy'n hyrddio drwy'r dacl gyntaf. Mae Gravell yn dal i fynd, does neb yn mynd i'w atal e' ac mae e'n croesi dros Lanelli. Cais i Lanelli ac mae Ray Gravell yn cydnabod cymeradwyaeth y dorf wrth gerdded nol dros hanner ffordd." Diolch Grav.

Deiniol Thomas o Benmachno
Newyddion hynod o drist am Grav. Dyn mawr efo calon fawr! Bydd colled enfawr ar dy ol.

Lleucu Edwards o Gaerfyrddin
diwrnod drist iawn. Yn meddwl y byd o Grav. Gydymdeimlad a'r teulu cyfan xxxxx

Annette Hughes(gynt Thomas) Clydach
Cofio cydgerdded gydag e yn Abertawe yn Rali Mudiad Meithrin yn y saithdegau.Cydgerddodd gyda nifer ar hyd ei oes.Does neb yn gwybod am y gefnogaeth dawel a roddodd i gymaint o'i gydweithwyr ifanc.Diolch.

Ann o Ynys Mon
Diolch am y rygbi; diolch am fod yn Gymro bob amser. Colled anferth.

Dafydd o Aberteifi
Hwyl fawr Grav! Diolch i ti ffrind.

Ruth Owen o Landdoged
Wedi wythnos o steddfota gwych yng Nghaerfyrddin roedd ymddangosiad arwrol RAY ar y llwyfan yn ysbrydoliaeth ac yn destun edmygedd i ni gyd. Daliwn ein gafael yng nghan Gravell - Cymru am byth !! Boed i nerth Duw gynnal y teulu bach , yn eu galar.

Gareth o Landeilo
Ein Glyndwr ni.....yn esiampl da i ieuenctid y dyfodol.Byddwn yn ei gofio am byth gyda gweddill mawrion Cymru.

John Rees o Bonthenri
Fraint dy nabod, colled enfawr i dy deulu a'r byd. Diolch am atgofion ar y cae ac oddiwrth, nos da Grav, cysga'n dawel.

Peter o Rydaman
Yn wir - colled i'w deulu yn arbennig, ac i'w genedl hefyd. Bydded i Dduw trugarog gofio am hiraeth Mari a'r merched a'u cofleidio yn ei gariad. Diolch am gyfraniad nodedig a diffuant Grav.

Barry Taylor o Goed Duon
Mae Cymru wedi colli un o'i meibion gorau. Huna'n dawel, Grav.

Delyth o Fethesda
Er na chefais y fraint o siarad na chyfarfod Grav am sgwrs bersonol fe gefais y fraint o'i nabod fel un o arwyr Cymru. Fe ddywedodd Martin Luther King unwaith : "cwestiwn mwyaf pwysig a chyson bywyd yw : Beth rydych yn ei wneud i eraill?" Ma'r ateb hwnnw wedi ei roi yn y llu teyrngedau i Grav heddiw."Un ifanc hoff o fewn co'Un annwyl mewn hedd heno"Diolch Grav am bob dim, gwyn dy fyd Grav, cysga'n dawel.

Iwan Roberts, Nantglyn
Roedd Ray Gravell yn arwr ac yn ysbrydoliaeth. Un o gewri ein gwlad.

Trystan Bevan o Gastell Nedd
Canolwr cadarn a ddaeth yn bersonoliaeth heb ei ail a ddaeth yn arwr i genedl. Ymgorfforiad o bopeth da sydd ynddo ni fel gwlad. Erioed wedi cwrdd a unrhywun fwy positif. Diwrnod hynod o drist.

Iestyn Hughes o Aberystwyth
Fe gwrddais a Ray pan ddaeth i'r Llyfrgell Genedlaethol. Wrth i rywun fy nghyflwyno iddo, fe atebod, "Shwd ych chi, Ray Gravell ydw i". Un o'r gwyr mwyaf diymhongar, cymwynasgar, annwyl, tyner, ond eto taer a fu erioed. Mae Cymru'n tipyn gwacach, tlotach lle hebddo heno.

Ifor Glyn
Cawr o Gymro.Colled enbyd i'w deulu, ei frindiau, ei fro, ac i Gymru gyfan.

Garry Nicholas,Llannon, Llanelli
Y Cymro cyfan, chwedl Dic Jones. Bonheddwr.Gwylaidd a gostyngedig. Ffrind i bawb a phawb yn ffrind iddo yntau. Braint oedd cael ei adnabod. Colled enfawr i ni fel cenedl! Pob cydymdeimlad i Mari a'r merched

Aled G.Job, Y Felinheli
Er mod i'n llwyr anghymeradwyo'r duedd gyfoes o fynegi galar am unigolion nad ydym yn eu hadnabod yn bersonol, mae marwolaeth Grav wedi'm sigo heddiw ma ac wedi dangos imi nad oes y ffasiwn beth a rheol absoliwt mewn bywyd. Yn ei fywyd, ei farwolaeth, a'r ymateb anhygoel i hynny sydd wedi ei ddangos yng Nghymru heddiw, dangosodd Ray y "social capital" hwnnw sydd gynno ni fel gwlad fechan ar ei orau, sef agosrwydd, cynhesrwydd a'n hymrwymiad i'n gilydd fel Cymry. Mi fydd hi'n chwith iawn ar dy ol di Grav. Huna'n dawel.

Taran a Cadi Davies, Caerfyrddin
Hwyl Fawr i ti Grav, Tywysog Cymru.

Lowri, Caerdydd
Colled enfawr i ni fel cenedl gyfan. Roedd yn un o'r unigolion prin hynny wnaeth uno'r Gymru Gymraeg a'r Gymru ddi-Gymraeg, a bydd colled fawr iawn ar ei ol wrth i ni barhau i geisio pontio rhwng dau ddiwylliant sydd, yn amlach na pheidio, yng ngyddfau ein gilydd... neu'n waeth byth, yn hidio dim am ein gilydd. Fe hidiodd Grav, y Cawr o Gymro.

Gerallt o ynys mon
Grav, diolch yn fawr am yr atgofion melys sydd ganddof i a gweddill pobl Cymru ohonoch. Roedd yn anodd dal y dagrau yn ol pan glywais y newddion drwg bora ma. Rwyf yn gwybod eich bod mewn lle arbennig heno yn chwarae rygbi gyda Duw ac y byddwch yn gwylio Cymru a'r sgarlets o'r top na. Dylai newid geiriau can Max Boyce i ' we have a sliding roof so grav can watch us play'. Fel dywed llawer un heddiw os byddwn hanner y dyn oedd Ray fyddwn i yn eithaf dyn. Diolch eto am yr atgofion roeddech yn w^r bonheddig. cysgwch yn dawel grav, nos da. Gair byr i Mari, Manon a Gwenan - 'er bod tristwch a cholled mawr wedi disgyn aronoch fydd Cymru i gyd yno yn gefn i chi ac mi all Manon a Gwenan fod yn falch iawn o allu dweud mai Grav oedd ei tad.

Canon Tegid Roberts Cadeirydd Fforwm Hanes Cymru
Rydym yn drist iawn fel Fforwm Hanes o glywed am farwolaeth Ray Gravell, un oedd yn ymddiddori yn hanes ei wlad ac yn enwedig yn hanes ei arwr Owain Glyndw^r. Roedd yna fwriad gan rai ohonom i fynd ar ol hanes y Gravelliaid a'u cysylltiad gyda Owain Lawgoch a chael Ray yn rhan o'r prosiect hwnnw. Fe awn ymlaen petai ond er cof am y Cawr Mwyn o Fynydd y Garreg. Mae heddiw yn Wyl yr Holl Saint, ac fe allwn ni'n sicr o feddwl am Ray fel un o'n seintiau Cymreig wnaeth gymaint i'n hysbrydoli ni fel cenedl. Yfory bydd yn Wyl yr Holl Eneidiau a chawn gyfle i offrymu gweddi er cof amdano. Huned ei enaid hoff mewn hedd.

Mrs Williams o Llansannan
Er na chefais i y cyfle i gwrdd a Mr Gravell mae'r newyddion dal yn drist iawn. Roedd ei bersonoliaeth mawr a annwyl yn dod drosodd ar y teledu i ni y gwylwyr yn gryf iawn, pan roedd o'n siarad am rygbi mi oedd ei wyneb yn llawn hapusrwydd ac yn bleser ei wylio. Diolch Mr Gravell, mae'r nefodd yn le lwcus iawn!

Tomos Morse o Donteg ger Pontypridd
Fy Arwr, Fy Ffrind. Diolch i ti am gael cyd-weithio a rhannu profiadau dros y bum mlynedd dwetha ma Cariad Mwya Posib, Titus.

Ann a John Lewis o Langynin
Dim ond rhwy dair wythnos yn ol y cawson ni sgwrs gyda Grav yn y Strade a minne bryd hynny yn gofyn os cawn ni ei rif ffon e' er mwyn trefnu iddo fod yn llywydd mewn Cyngerdd o dan nawdd y pentref ym mis Mawrth. "Bydda i 'da chi" medde fe gan roi ei rif ff�n cartref i mi yn ddiymdroi. Mor fregus yw bywyd. Ond bydd atgofion am y cawr hoffus yn parhau am byth. Wnaeth e ddim o'n pasio ni yng Nghaerfyrddin unwaith heb daro sgwrs. Cymro i'r carn ac ymladdwr dewr a oedd yn esiampl i ni i gyd. Bydd yr ardal, y wlad a'r byd yn dlotach o'i golli ond bydd y golled fwyaf i'r teulu ar yr aelwyd. Pob cydymdeimlad a Mari, Manon a Gwenan. Diolch am gael adnabod rhywfaint ohono.

Dafydd Huws o'r Dreboeth
Pan ddaw dydd dychwel Glyndwr fe fydd Grav ar ei benelin.

Paul o Ddolgellau
Colled Cymro fwyaf ein cenhedlaeth.Chwareuwr, darlledwr, arwr, Cymro! Diolch Ray am adael gymaint i ni dy gofio.

Dyfrig o Landeilo
Roedd cael ei adnabod yn fraint. Fe fu ac y mae yn ysbrydoliaeth ac yn esiampl o Gymro cyflawn. Diwerth yw geiriau ar adeg fel hyn i gyfleu dyfnder ein cydymdeimlad gyda chi Mari a'r merched. Dyfrig, Nia, Mared a Siwan

Richard Hughes o Deri ger Bargoed(gynt o LLangybi
Colled enfawr i Gymru a'r iaith Gymraeg. Mi wnes dreulio 3 wythnos efo Grav yn Awstralia yn 2001, roedd o yn un o'r dynion mwyaf cyfeillgar a fedrwch ei gyfarfod. Cydymdeimlad mawr i Mari a'r teulu. 'HEDDWCH' i ti Grav, un o'r trysorau mwyaf a welodd ein gwlad.

Dylan A Roberts
CAWR o GYMRO. Un o'r Hogia. Collad fawr i Gymru fach.

Llio Wyn, Caernarfon
Arwr i bawb a cholled enfawr - Tywysog Cymru! Cawr o ddyn, fydd y wlad ma byth run fath. Heddwch i'w lwch x

Alun Teagle, Bargoed
Y Cymro mwya' - 'na gyd sydd angen i'w ddweud. RIP Grav.

Bill Griffiths o Langennech
Ray Gravell - Cristion,Cymro,Cymwynaswr,Cyfaill i bawb - ni fydd y cyfryngau,y byd rygbi, y Strade na Cymru yn gyffredinol yr un peth hebddo.

Bethan Jones o Rydymain
Newyddion syrfdanol a thrist iawn y bore ma. Er nad oeddwn yn ei adnabod yn bersonnol, teimlais ei fod yn berson sensitif, caredig ag annwl tros ben. Bydd colled mawr ar ei ol, ond mi fydd y golled yn enfawr i'w deulu. Cwsg yn dawel XX

Heledd, Caerdydd
Braint oedd cael nabod Grav. Fe nes i gwrdd ag ef gynta pan ges i fynd i barc y Strade i wylio rygbi hefo fo - roedd yn dweud bod isho 'converto chi gogs i rygbi!' Roeddwn hefyd yn ei weld ymhob steddfod a doedd o byth yn pasio heb aros am sgwrs a choflaid gynnes. Dyn annwyl iawn yn llawn angerdd. Fe fydd colled aruthrol ar dy ol

Rhodri Tomos o Fangor
Fe nes i weithio gyda Ray am wythnos yn unig 17 mlynedd yn ol, ond bob tro i ni gwrdd ers hynny, roedd e'n fy nghyfarch fel petai ni'n ffrindiau bore oes. Roedd ganddo amser i bawb bob tro, ac yn un o'r dynion mwya hoffus i fi gael y fraint o'i gwrdd ag e erioed. Mae'n cydymdeimlad ni i gyd gyda Mari a'r teulu yn enfawr.

Terwyn Davies, Caerfyrddin
Trist iawn bore ma oedd clywed am farwolaeth Ray, ac yntau wedi brwydro nol mor dda o'i anhwylustod yn gynharach eleni. Dwi'n ei gofio am ei frwdfrydedd a'i ddiddordeb ynof i bob tro y bydden ni'n cwrdd, a'i gefnogaeth i'n rhaglenni ni ar Radio Cymru. Roedd e'n un o'n cefnogwyr amlycaf! Dwi erioed wedi cyfarfod a nabod neb mor frwdfrydig a Ray Gravell! Dwi'n cofio un adeg pan o'n i fod i gyfweld ag ef yn hwyr yn y nos ar "C2" - Llinos y cynhyrchydd yn ei ffonio fe, a Ray yn ateb yn gysglyd i gyd wedi anghofio popeth - ac yn ei wely ers oriau er mwyn codi'n gynnar ar gyfer ei raglen foreol. Ond fe fu'n ddigon parod fel arfer i barhau a'r cyfweliad gyda'r un brwdfrydedd hwyliog ag yr oedd ganddo bob amser! Ac yna bydde fe'n gofyn fel arfer "Odd hwnna'n iawn bois? Chi'n siwr?"Bydde Ray bob amser yn eich gweld chi, a fydde dim byd mawreddog yn perthyn iddo fe, a dyna oedd ei wneud e'n unigryw.Pleser oedd gwrando ar ei raglen e a Marci G bob bore - ac fe fyddai'n colli'r troeon trwstan fydde'n digwydd iddo oedd yn gwneud i fi chwerthin bob amser.Mae 'nghydymdeimlad dwysaf gyda Mari a'r plant.Diolch am gael ei adnabod, ond wnaiff neb fyth ei anghofio. Diolch Ray, am yr atgofion.

Rhiannon a Dewi Pws
Grav - 'Wyt ti yma o hyd'

Audrey a Roger Jones o Bontardawe
Cefais y fraint a'r anrhydedd i gyfarfod � Ray Gravell ar ddau achlysur; y tro cyntaf pan gefais by nerbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, a'r ail dro pan gafodd ein hwyres fach Awen Medi gyd-gyflwyno rhaglen Graf gyda'r gw^r mawr ei hun, wedi iddi ennill cystadlaeaeth ar Radio Cymru. 'Roedd Graf mor groesawgar pan aeth fy ngw^r, minnau ac Awen i'r stiwdio yn Abertawe ac yr oedd yn brofiad gwych i Awen. Mae ganddi feddwl mawr ohono, yn wir mae Graf yn arwr iddi, ac mae llun ohoni gyda Graf yn hawlio lle blaenllaw yn ein hystafell fyw. 'Roeddem yn teimlo fel ein bod wedi ei adnabod ers blynyddoedd, ac rwy'n siwr fod Cymru gyfan a'r byd yn gyfangwbl yn teimlo eu bod wedi colli ffrind annwyl iawn a bydd bwlch enfawr ar ei �l. Roedd clywed ei lais yn y bore yn goleuo'r dydd i ni. Roedd yn w^r mor annwyl a diymhongar, ac yn Gymro i'r carn. Danfonwn ein cydymdeimlad dwysaf i Mari ac i Manon a Gwenan yn eu profedigaeth.

Ellis Davies o Gorslas
Un o brofiadau bywyd yw adnabod person sydd wedi creu argraff, esiampl a dylanwad ar ein hiaith, ein bywyd dyddiol a'n cenedl.M ae colli Ray yr un mor galed a'r ergyd sydyn o golli'r diweddar Ryan Davies. Y ddau yn gymharol ifanc eu hoed ond eto wedi cyfrannu'n helaeth trwy eu dawn a'n hatgofion ohonynt.Rwy'n hollol cytuno �'r sylwadau i anghofio Cwpan y Tywysog William - Cwpan Ray ddylai'r gystadleuaeth fod o nawr ymlaen. Dyna'r lleiaf allwn ni wnued!

Geraint, Penpedairheol.
Ray, arwr i fi o't ti - Cymro cant y cant. Diolch am bopeth!

Nigel a staff Garej Raymond Pontyates
Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn i ni gyd. Diolch i ti Grav am bob cefnogaeth i ni yn y Garej. Colled mawr i Mari ,Gwennan a Manon. Hwyl fawr Grav. "West is Best"

Ceri o Gwm Rhymni
Cymro pur a chawr o ddyn. Gwyn eich byd bach.

Heulwen Jones, Caerdydd
Dyma un o'r atgofion rwy'n trysori o'r annwyl Ray Gravell: O'n i wedi bod ar staff yr Eisteddfod Genedlaethol am bron i flwyddyn, ac yn ystod gw^yl cyhoeddi Eisteddfod Casnewydd yn 2003 bum yn cydgerdded ar orymdaith trwy'r dre cyn y seremoni. Oedd Grav yno wrth gwrs, ac wrth gerdded a sgwrsio gyda'r criw fe drodd a sylwi ar yr enw ar fy mathodyn, a dweud: Heulwen, mae'n dda da fi gwrdd a chi. Ni wedi siarad ar y ffon. Ray ydw i. Os oedd unrhyw un y diwrnod hwnnw nad oedd angen iddo gyflwyno'i hun, Ray Gravell odd hwnna!

Hywel Ifans o Ddihewyd
Fel Cymro oddi cartref y dihunais y bore 'ma, a chlywed y newyddion na feder ei dderbyn nes ei glywed am yr ail dro, neu efallai y trydydd gwaith. Er nad oeddwn yn ei nabod, cefais y pleser o'i gyfarfod ond pythefnos yn �l, ac mi fydd yr argraff y gwnaeth ar fy mhlant yn para am byth. Roedd balchder chwaraewr rygbi, balchder Celt a Chymro ac uwchben popeth arall balchder Tad i'w weld yn glir ymhob peth y dywedai neu a wnaed gan Grav. Mae Cymru, a'r byd wedi colli un o'r esiamplau gorau o Gymro a welwyd erioed, ond mae'n rhaid cofio, yn ein galar fel cenedl, am Grav y tad balch. Fy nghydymdeimlad gyda Mari, Gwenan a Manon.

Y Parchedig Aled Edwards Cilfynydd
Fe redodd yn arwr yn ein plith: fe saf yn gawr yn ein plith

Marc Griffiths (Marci G)
Roedd na dristwch mawr yn ein cartref ni y bore ma o golli ffrind agos iawn. Wedi treulio y tair blynedd diwethaf yn darlledu yn foreol gyda Grav, mae'n anodd credu bod ein cawr ni o'r De Orllewin wedi ein gadael ni. Roedd Grav yn dod � gw�n i'n wyneb i a'r holl wrandawyr cyson a fel oedd grav yn ei ddweud "roeddwn yn un teulu mawr". Mae wedi bod yn fraint cael gweithio'n agos a rhannu phrofiadau niferus gyda'r cymeriad hoffus hwn. Roedd Grav yn browd iawn wrth i ni sefydlu rhaglen y Gorllewin, ac yn cael pleser o'r mwya wrth weld y rhaglen yn mynd o nerth i nerth. Wi'n cofio tra oedd Grav yn yr ysbyty a finne wrth y llyw, y negeseuon di-ri oedd yn ein cyrraedd ni yn y stwidio yn ddyddiol. Teyrngedau ar yr awyr, ar y we, roeddent yn dod o bob cyfeiriad ar draws y byd i gyd. Roedd Grav yn berson ansicr hefyd ac un o'r pethau cyntaf byddai fe'n gofyn i fi oedd "Siwd mae'n lais i Marci?" A hefyd "odwy'n edrych yn iawn?" er taw rhaglen radio oedd e yn ei gyflwyno a neb yn ei weld e yn y stiwdio! Bob bore ar y ffordd i'r gwaith byddai Ray yn mynnu fy mod i'n ffonio fe i gael gwneud yn siwr bod y ddau ohonom ni wedi codi ar amser ac ar y ffordd i'r stwidio neu i'r gwahaol leoliadau. Ry'n ni wedi teithio ar draws yr ardal a chwrdd � ffans mwyaf Grav. Cwympo dros cables, gwasgu botwmau anghywir a'r geiriau "wps y deri dando" - roedd hyn i gyd yn rhan o'i gymeriad. Roedd e'n gallu cyffwrdd � phob math o berson boed nhw'n blant neu'n oedolion. Cafodd e hyd yn oed Jack Russell i ganu yn fyw ar y rhaglen! Yn ddiweddar ar ei benblwydd wnes i roi darlun o Senedd Owain Glyndw^r iddo fe, roedd yr emosiwn yn amlwg ac yn dystiolaeth i'r edmygedd oedd gydag ef am ei arwr. Roedd e'n hael iawn i bawb. Pan anwyd fy mab Tomos, un o'r anrhegion cyntaf gethon ni oedd pyjamas y scarlets a roedd na falchder ar ei wyneb wrth rhoi hwn i fabi wythnos oed!! Ni'n cydymdeimlo'n fawr gyda Mari, Gwenan a Manon wrth golli gw^r a thad unigryw dros ben. Mi fyddai'n colli'r galwadau ff�n dwy, dair gwaith y dydd, a'r geiriau �Marci G fy ffrind bach i"

Dafydd, Porth Tywyn
Roeddet ti wir yn berson heb ei ail, yn ysbrydoliaeth, ac yn dod � gw�n i'n wynebau bob tro. Gyda thristwch mawr dwedaf diolch Grav, a Duw a'th gadwo di.

Rhys o Benarlag
Ni chefais erioed y fraint o gyfarfod Ray, ond 'roedd clywed y newyddion y bore 'ma yn andros o sioc. Cymro cadarn. Byddai Owain Glyndw^r yn sicr o fod wedi ei ddewis i fod yn Gadfridog yn ei fyddin. Balchder o'r mwya' oedd cael ei weld a'i glywed yn cyfarch mawrion byd rygbi yn Gymraeg pam 'roedd yn eu cyfweld. Trist.

Trystan Roberts, Sir Fon
Colled enfawr i rygbi, i Lanelli, i Gymru a'r iaith Gymraeg. Oni fyddai'n ffordd wych i dalu teyrnged i Ray gan enwi'r tlws yn g�m Cymru v De Affrica yn Dlws Coffa Ray Gravell a wnaeth gymaint i'r wlad a'r iaith a'r g�m drwy'r byd i gyd!!

Wil Morgan - Caerdydd
Wiiiiiiil ! Gyda'r pwyslais ar yr "i" a'i dal yn hir - dyna sut y bydda ti'n fy nghyfarch a gwen a hwyl a sgytwad llaw gynnes bob amser - dwi'n dy glywed di rwan - ac mi fyddai'n dy glywed tra byddai. Roedd hi'n bleser bod yn dy gwmni di bob amser Ray ac mi fydd na golled fawr fawr ar dy ol, ond wnawn ni byth dy anghofio di.

David Davies, Yr Wyddgrug
Er na chyfarfum erioed a Ray, mi 'roedd yn un o'm arwyr o dimau Cymru'r 70au. Mae hi'n hollol amlwg o'r holl deyrngedau iddo gymaint o feddwl ohono oedd gan bawb, fel dyn, cyfaill, cymydog, chwaraewr rygbi, darlledwr, ac yn bennaf oll, gar a thad. Cydymdeimlaf yn ddiffuant gyda'i deulu oll.

Carys Edwards, Caerfyrddin
Newyddion trist ofnadwy. Cariad o ddyn oedd yn gwneud i bawb deimlo mor werthfawr, wastad yn eich gweld ymhobman ac yn llawn canmoliaeth am bopeth. Ei frwdfrydedd a'i gefnogaeth i Theatr Ieuenctid Menter Cwmgwendraeth a'r Ysgol yn ddi-flino ac roedd ei weld ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd eleni yn wefr ac yn eich gwneud mor falch eich bod yn adnabod y fath Gymro. Mae Cymru yn dlotach hebddo. Ein meddyliau gyda Mari, Gwenan a Manon. Diolch am gael dy adnabod Grav X

Cris Haines, Cwmtwrch
Colled enfawri'r genedl gyfan. Mor drist!

sian a wil williams gwalchmai
arwr annwylaf a fu. chwith fydd heb ei gwmni ar y radio a theledu.

Owain Evans, BBC Caerfyrddin
Hyd yn oed os taw unwaith neu ddwy o'ch chi 'di cwrdd a Ray oedd e'n gwneud i chi deimlo fel hen ffrind. O'n i 'di dod i'w nabod e'n eitha da yn y blynyddoedd diwetha a di bod lawr i'w holi fe ym Mrynhyfryd sawl gwaith. Doedd e byth yn gwrthod, hyd yn oed os oedd cant a mil o bethau eraill ar y gweill (ac roedd wastad cant a mil o bethau eraill ar y gweill). Fe recordiodd e gyfarchiad i ffrindiau i fi ar ddiwrnod eu priodas. Am gyfarchiad! Roedd e'n ddifrifol a'n ddiffuant cyn gorffen gyda'r floedd hanner gorffwyll "WEST IS BEST". Cydymdeimlad dwysaf i Mari a'r merched.

Tudur Huws Jones, Penisarwaun
I ddyn oedd yn adnabod pawb ym mhobman, roedd o wastad yn gallu ffeindio amser am sgwrs neu gyfarchiad. Wnawn ni byth anghofio dy wen a dy freichiau agored, dy hwyl ac yn bennaf oll dy angerdd dros Gymru. Diolch Ray, a phob cydymdeimlad a Mari, Manon a Gwennan

Helen, Y Coed Duon
Dihunais i'r newyddion trist iawn y bore 'ma. Cymro bendigedig oedd Ray. Colled anferth i Gymru gyfan yw ei ymadawiad. Dwedwyd ar y radio nad oes gair am "legend" yn Y Gymraeg. Efallai taw heddiw yw'r dydd i greu gair. Beth am "reigraf" neu jyst "graf"?

Ceri Lloyd, Caerffili
Pa eiriau all fod yn ddigon i'w ganmol?Cydymdeimlad mawr i'r teulu a'r cyfeillion i gyd. Pob bendith, Grav - mae Cymru'n llawer dlotach hebddot ti...

Lyn o Ystradgynlais
Colled I Mari, Gwennan a Manon ac i Gymru gyfan. Un o'n cewri!!! CYMRO CYFAN

Dylan Jones, Taro'r Post
Diolch Grav am y sgwrs foreuol. Mi oedd hi'n fraint ac yn bleser cael cyfrannu i dy raglen boblogaidd yn y De Orllewin.Be'nawn ni heb y clitch clatch ? Y cydymdeimlad dwysaf i chi Mari, Gwenan a Manon xxx

Arfon Rhys o Rhostryfan
Diwrnod trist i ni gyd, a chydymdeimlad dwys i'w deulu heddiw yn eu galar. Roedd Ray yn wir ddiymhongar ac yn gawr ym mhob ystyr y gair. Esiampl i ni gyd sut i fyw bywyd i'r eithaf gan garu Cymru a'i hanes. Dylid gosod cofgolofn iddo wrth adeilad ein Senedd yng Nghaerdydd.Diolch Ray, a heddwch

Joy Davies o Rydaman
Roedd Ray yn ymgorffori popeth sy'n agos at ein calonnau fel Cymry - roedd yn angerddol dros ei deulu, ei gyd-ddyn, ein hiaith, ein diwylliant, a heb fod yn ofni dangos ei deimladau na sefyll i fyny dros y rhain. Roedd yn esiampl i ni bob un ac yn ffrind i bawb.

Fflur Hughes, Caerfyrddin
Newyddion trist am yr hen Grav. Cefais y friant o gwrdd a Grav ddwy waith - am gymeriad. Colled mawr i'r genedl ac yn enwedig i'w deulu...atgofion dwysaf i Mari a'r plant.

Emyr o Penrhyncoch
Mae Grav yn awr yn sefyll ar ben ei fynnydd, yn cadw golwg, yn gofalu am pob un Cymro, Chymraes a ffrindiau dros y byd. Teimlo yn fawr am ei teulu. Finne hefyd byth wedi siarad a Ray, ond yn gweld fel arwr mewn pob ffordd, ffrind i pawb. Scarled yw fachlud ei fywyd, gwir Tywysog Cymru os oedd. Diolch a hwyl i ti Grav

M Jones o Lanelli
pe bai rhywun yn dweud i fi "sut fyddwch yn disgrifio Cymru fel gwlad a'r Cymry fel cenedl mewn dwy air" yr ateb byddwn yn rhoi fydd Ray Gravell. Colled mawr i'r gymuned ac i'w deulu. Cofiwch "west is best". Gorffwyswch yn dawel Ray

Paul Jones o Gaerdydd
Wedi cael y pleser a'r fraint o gydweithio gyda Ray fel cyflwynydd, actor a gwestai ar amryw o gyfresi ac ar ol pob perfformiad bydde fe'n gofyn "Jonsi o'dd hwnna'n iawn?" "Odd Ray!" "Ti'n siwr nawr?" "Yn berffaith Ray!" "Ti'n hapus te?" "Ydw Ray, paid gofyn 'to!" Fel hyn y buodd hi am flynyddoedd, yr ansicrwydd cyson, yr ymbilio am sicrwydd a cysur. Wedi elwch yr hen Ray, mae tawelwch heddi'n llethol, ac mae'r golled yn brifo. Ond mae gwen yn dod i'r wyneb wrth feddwl am Raymond heddi yn iste ar ddeheulaw y Bod mawr, ac yn gofyn "Nes i'n olreit te?"

Huw o Aberystwyth
Petai gan Undeb Rygbi Cymru unrhyw hunanbarch a pharch at ddyn oedd yn lysgennad gwych i Gymru ac i rygbi Cymru, fe fase nhw'n ail-enwi Cwpan Prins William yn Gwpan Ray Gravell.Mae marwolaeth Ray yn newyddion trist iawn i'w deulu ac i'r genedl - dyn wnaeth gymaint i godi calon miloedd o bobl ac a oedd yn Gymro i'w efelychu. Roedd yn arwr i filoedd - mae Cymru'n dlotach hebddo.

Llywelyn Gruffydd, Bangor
Newyddion trist iawn. Roedd Ray yn Gymro i'r carn a dyn bonheddig iawn. Mae'n golled enfawr i ni fel cenedl. Cymru am Byth!

Staff a disgyblion Ysgol Carwe
Diolch i Grav am bob cefnogaeth i'r ysgol, roedd ei frwdfrydedd bob amser yn rhoi cymaint o hwb i'r disgyblion. Bu'n ffrind da i'r ysgol dros y blynyddoedd diwethaf a chafwyd mwynhad mawr yn gwrando ar ei raglen radio - yn enwedig pan ddaeth i ddarlledu o Ysgol Carwe. Byddwn yn gweld ei golli yn fawr ac anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu.

Huw evans , Abertawe
Colled mawr i ni gyd ac enwedig i'r gorllewin .

Anthony Bwye o Faesteg.
Fe ges ir fraint o wneud cyfweliad efo Ray pythefnos yn ol yng nghyntedd Neuadd y Dref Maesteg. Yn ystod yr cyfweliad roedd Ray yn llawn egni a brwdfrydedd yn son am ei falchder o cario'r Cledd am y tro cyntaf i gyhoeddi Eisteddfod Bro Ogwr, ar ol taethio nol o De Affrig. Mi oedd bod yn ei bresenoldeb yn fraint ac anrhydedd, person diymhongar ac athrylith i bawd. Fel Ryan gynt fe fydd ei golled ir cenedl yn un fawr.Er taw yn Sbaen y bu farw, yng Nghymru roedd ei galon. Cydymdeimlwn efo'i deulu ar gobaith gewn nhw gysur or negeseion hyn.Grav, "Ti yma o hyd".

Eurig o Benisarwaun
Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn i ni fel cenedl gyfan. Nid yn unig yr ydym wedi colli ffrind a chyfaill agos - ond Arwr yn ogystal. Nai byth anghofio'r hwyl a'r pleser a gafo ni o fod yn cwmni Grav tra'n recordio sesiwn i'w raglen radio yn y BBC yn Abertawe ar fore oer nol yn Ionawr '06.Roedd Ray wir yn Gawr o Gymro, - yn gymeriad unigryw a hoffus - a bydd colled enfawr ar ei ol. Diolch am bopeth Grav!"West is Best" am byth!!

Heledd o'r Bala
Cawr o ddyn, a Chymro cyflawn ydoedd a bydd y golled ar ei ol i ni fel cenedl yn anferth. Roedd yn esiampl i bawb. Cysga'n Dawel Grav. X

hannah glan-y-fferi
Colled fawr i Mari a'r merched ac i Gymru gyfan.

Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Sir Gar
Roedd Ray Gravell yn gadarn yn ei ymrwymiad i Gymru, i'r Gymraeg ac yn arbennig i gymunedau Cymraeg. Mae ymgyrchwyr iaith dros y blynyddoedd wedi gwerthfawrogi ei gefnogaeth i'r achos a'i gyfeillgarwch.

Esyllt Lewis o Abertawe
Mae colli Grav yn golled fawr i'r genedl ac yn golled fawr i'r byd.Dyn hynod o gyfeillgar,byddai ddim yn brifo un dyn,mae'n anodd derbyn ei fod wedi mynd.Dwi'n cofio fe'n dod i ysgol Felindre un bore a gwneud i bob un plentyn wenu.Mae cwmwl mawr dros Gymru heddiw.

Eirlys Myfanwy Davies o Lanelli
Newyddion syfrdanol am golled enfawr...braf yw'r atgofion o fod yn gyfaill agos iddo yn Cor y Sgarlets...yffach o gymeriad a chalon fawr!! Teimlaf yn fraint fod wedi bod yn ei gwmni, a rwy'n cofio sawl tro Grav yn fy llongyfarch ar Radio Cymru am ennill ryw gystadleuaeth neu Eisteddfod, neu'n cyhoeddi pa gyngerdd o'n i'n canu yn nesa!! Cofion cynhesaf a dwysaf i Mari, Gwenan a Manon....xx

Aneirin Karadog, Felinfoel, Llanelli
Ma'r byd yn lle tlotach Heddi. Sioc Llwyr. Byddai Grav yn galw Caratacus arna i, yn dangos mor ddiwylliedig odd e, ac fe ddywedai , "Caratacus, wy moyn bod na i dy gadeirio di cyn rhoi'r gore i fod yn geidwad y cledd". Wy'n cydymdeimlo'n fawr 'da Mari a'r Plant. Dyma englyn y gwnes i iddo fe'n gynharach eleni, er nad oes gwerth mewn geiriau ar adeg fel hon.
Gweld y gorwel wna'r gwladgarwr - Gweld
Caisa gweld coch yn heriwr,
aml chwedl drwy'r genedl yw'r gwr,
Un o'r werin yw'r Arwr.

Lisa-marie davies Ponthenri
Colled mawr iawn ydy'r newyddion hyn. Roedd Ray yn fonheddwr, bydd o yn byw mlaen yn ein meddyliau ni i gyd fel cymreictod.Roedd o wastad yn siarad efo pawb , dyn fydd wastad yn gwneud i ni wenu! Meddyliau gyda'r teulu i gyd. Am Gymro oedd Ray

Bethan Gwanas o Ddolgellau
Mi ges i'r fraint o weithio efo Grav nol yn niwedd yr wythdegau - bu'n cael gwersi canu ar yr awyr gan Mary Lloyd Davies a llwyddo i ganu Can yr Arad Goch yn y diwedd. Anghofia i byth yr hwyl a'r chwerthin yn ei gwmni, na'r cofleidiau cynnes y byddwn yn eu cael bob tro y byddwn yn ei weld. Cydymdeimlo'n arw gyda Mari a'r merched. Y dyn anwylaf yn y byd.

Nia o Faes y Bont
Cefais y fraint o gwrdd a Grav ychydig wythnose yn ol ar Barc y Strade. Cawr o Gymro caredig. Colled enfawr i'r genedl. Mae rhan o'r nefoedd yn awr yn Sgarlad. Hwyl fawr Grav. xx

Dafydd o Glyn Ceiriog
Teimlad fel Huw o Langefni - erioed wedi cyfarfod a Grav ond teimlo'r golled yn fawr. Cymeriad a Chymro anhygoel - mawr yw'r golled i'w deulu ac i'r genedl. Diolch Grav

Ken o Bae Colwyn
Bydd bwlch enfawr ar ei ol. Cawr o Gymro ac yn datgan ei Genedl gyda balchder bob amser. Ein cydymdeimlad hefyd a'i deulu yn ei colled.

Nathan o Lanelli, nawr Llundain
Nos da milwr y gadNa anghofiwn byth dy gyfraniadY llu o sgarlad wnaiff fyw o'th gofiantA'th obeithion eu bywhau yn fuan.Diolch am bopeth Ray.

Ema Wyn Williams o Gaerdydd
Pleser ar y mwyaf odd cyd-weithio gyda Ray Grav eleni yn 'steddfod gen a cwrdd a'i deulu cyfeillgar. Fi odd yn cal y fraint oi 'shoffro' ogwmpas y maes ac o ni'n temlio yn 'chyffd' iawn bo fi'n cal gneud hyn. Cawr o gymeriad hoffus ac yn ddiolchgar bob tro. Ond fi sy'n diolch am gal y fraint o dy nabod di, ges i lot o hwyl a pob hwyl i ti yn y nefoedd X

Dewi Prysor, Stiniog
Os oeddech yn mynd draw at Ray i ysgwyd llaw, byddai wastad yn codi ar ei draed i'ch cyfarch. Mae hynny'n dweud llawer am ei bersonoliaeth. A petaen ni i gyd yn gystal Cymry a fo, byddem heddiw'n wlad rydd. Cwsg ymhlith ein mawrion, Gymro glew.

Sioned Dafydd Abertawe
Fi yw ffrind gorau Manon Gravel.Fi wedi nabod Grav am blynyddoedd.Odd Grav yn ddyn spesial iawn.Grav pob lwc yn y nefoedd.Bydd ai byth yn dy anghofio oxoxoxoxox

Eifion Jones o Lansannan
Er na chefais y fraint o gwrdd a Ray'n bersonnol teimlo 'rwyf fy fod yn ei nabod o'n dda. Mae wedi gadael esiampl wych i bawb sut i fyw bywyd llawn. 'Rydym fel cenedl yn dlotach heddiw wedi ei ymadawiad. Pob bendith a'r ei deulu.

Barri Davies, Brynhoffnant
Ray Gravell - Cymro i'r carn, un a oedd yn gwisgo ei grys a balchder a chadernid. Pe byddai chwaraewyr Cymru heddiw yn barod i chwarae o'r galon gyda'r un arddelaid a ddangosodd Ray Gravell ar y cae rygbi. Dyn a roddodd ei oll a mwy i dros ei wlad ar y maes ac oddi arni. Diolch Ray am ddangos i ni gyd sut i fod yn Gymry.

Meira Evans o Gaernarfon
Er na wnes i rioed ei gyfarfod teimlaf fy mod wedi ei nabod erioed. Roedd yn dod drosodd fel ffrind annwyl i bawb. Cydymdeimlad i'w deulu. Rwyn teimlo drosoch gan i mi hefyd golli fy nhad pan oedd yn 56. Fe fydd y cariad oedd o'n ddangos tuag atoch gyda chi am byth a'r trysor o atogfion gwerthfawr yn eich cynnal.

Androw Bennett o Lanarthne
Ray Gravell - Rhywun arall oedd yn meddu ar "...wen na phyla amser". Bum yn gweithio am gyfnod gyda David (Arthur) Cook, a'i deulu'n hannu o Aberafan, canolwr dros yr Harlequins a Lloegr yn y 1970au. Cook yn ymfalchio'n y ffaith iddo fynd ar daith gyda'r Barbariaid i Ganada ym 1978. Grav a Steve Fenwick yn gyd-ganolwyr yn y garfan. Y Sais wrth ei fodd yn cael ei ganmol i'r entrychion gan Grav, a ddwedodd wrth yr holl griw: "Sdim isie becso nawr bois. Awn ni ddim ar goll wrth deithio i Ganada gan fod "Capten" Cook gyda ni i ddangos y ffordd!"Colled i Gymru gyfan yw colli Ray o'r Mynydd.

Wyn ap o'r Bala
Tua'r Gorllewin! - diolch am yr ysbrydoliaeth - colled enfawr

Barri Davies o Aberteifi
Ray Gravell - Cymro Cymraeg hyd y carn. Un odd yn dangos i bawb pwy mor falch odd e i fod yn Gymro. Os bydde cwarter o'r balchder a'r cysegriad yn tim rygby Cymru a odd gyda Ray bydde'r Cwpan y Byd gyda ni yn Cymru. Dyn a cyflawnwyd ei holl ymdrech a mwy dros ei wlad ar ac oddi ar y cae rygbi. Colled difesur. Diolch Ray am ddangos sut i fod yn Gymro.

Leusa o Gaerdydd
Cymro i'r carn

Rhys ap William, Caerdydd
Colled enfawr. Y Cymro mwyaf ymhlith y Cymry. welai di Grav. Rhys Bach

Huw o Langefni
Unwaith yn unig y gwnes i gyfarfod y dyn ei hun, ond bore 'ma dwi'n teimlo fel petawn i wedi colli cyfaill agos iawn. Cydymdeimlad mawr a'r teulu a'r rhai oedd yn ei adnabod yn dda.Daw cyfle eto i feddwl am ffordd deilwng o gofio amdano, ond o ystyried y miri diweddar am enwi cwpan ar ol tywysog estron, beth am gael cwpan er cof am Ray, yn y gemau rhwng Cymru ac Iwerddon efallai? "West is Best" - Amen i hynny.

Huw Roberts, Creigiau, Caerdydd
Roedd Ray a finnau'n gweithio yn y BBC. Un o Sir y Fflint ydw i, ac mi briodais un o ferched Mynyddygarreg. Bob tro byddai Ray yn fy ngweld, byddai'n gweiddi nerth esgyrn ei ben "EDRYCHWCH AR HWNNW!!!!! MAE O'N GOG OND MAE O'N GALL!!!!! MI BRIODODD MERCH O'R MYNYDD!!!!!"�.Cymeriad mawr a Chymro i'r carn.Rydym ni'n cydymdeimlo'n fawr �i deulu a'i gyfeillion. Huw, Jenny, Gwenllian, Heledd a Tom Roberts.

Huw Jones o Aberystwyth
Cymro i'r carn ac arwr i'r genedl.Heddwch ei lwch.

HAYDN WILLIAMS, LLANGAIN
Atgofion melys iawn ohonno yn ymweld a Llangain a darlledu o Bantydderwen pob hydref rhwng 2003 a 2005. Ef ailagorodd y swyddfa bost yn y Neuadd Goffa yn 2004.'Roedd hi'n anrhydedd i gymryd rhan yn ei rhaglenni byw ac 'r oeddwn yn edrych ymlaen i'w gael i launchio 'Llyfr Llangain' ar ei rhaglen y mis hwn. Cydymdeimlad dwys o'r pentref hwn i Mari a'r merched.

Roy James, Cefneithin
Colled enfawr i ni yma yng Nghymru ac i bawb yn y byd oedd yn ei adnabod -ond fe fydd ei ddywediad e o "west is best" gyda ni am byth!Cymro cymraeg i'r carn!

Geraint Criddle o Bontllanfraith
Nid oes geiriau a all fynegi'r teimlad o'i golli na chyfleu'r gwerthfawrogiad ohono.Gorffwysed mewn hedd, Ray.

Ynyr o Lanrug
Newyddion trist iawn. Diolch Ray am fod yn ysbrydoliaeth ac am gymaint o atgofion ac am fod yn berson penigamp! - bydd colled mawr i Gymru gyfan ar dy ol.Cysga'n dawel calon lan.

Nigel Thomas o Lanilltud Fawr
Am fonheddwr! Am ddyn! Am Gymro! Mewn byd lle mae'r rhan helaeth o ddynion yn 'fach'yn y ffordd maent yn ymdrin a phobl eraill, fe oedd yn gawr a chanddo galon enfawr. Fyddwn ni byth yn gweld ei debyg eto. Gwelais i fe unwaith ar faes yr Eisteddfod. Doeddwn i ddim yn ei nabod ond gwenais arnaf a dweud 'Shwmae' Gyda ei deulu mae fy meddyliau heddiw. Heddwch!

ROBERT THOMAS O BWLLHELI
Fel un o gewri nid yn unig rygbi Cymru ar byd on CAWR O GYMRO!!! Hwyl fawr Grav!!a diolch am bob mwynhad! Mawr fydd dy wobr yn y nefoedd!!!



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Bryn Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy