Sgoriodd Hook 22 o bwyntiau yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn yn absenoldeb Jones, a dywedodd Jenkins: "Yn amlwg 'dyw hynny ddim wedi gwneud unrhyw niwed i'w obeithion.
"Mae'n seren, 'does dim amheuaeth am hynny - mae e mor dalentog.
"Stephen Jones yw'r capten, ond 'dyw hynny ddim yn golygu bod rhaid iddo fod yn y tîm."
"Os mai chi ydi'r capten, chi ydi'r cyswllt rhwng y chwaraewyr a'r hyfforddwr.
"Mae'n holl bwysig bod gen i berthynas da efo'r capten ac mae e'n adlewyrchu'r hyn mae'r garfan yn teimlo.
"Mae'n rhaid i'r garfan uniaethu â'r chwaraewr yna. Mae Stephen yn gwneud gwaith da iawn yn y rôl yna ac rwy'n hapus mai fe fydd y capten yng Nghwpan y Byd.
"Ond 'dwi wedi dweud ers y cychwyn nad yw bod yn gapten yn sicrhau lle yn y tîm.
"Os nad yw Stephen yn chwarae yn ddigon da neu os 'dwi'n credu bod rhywun arall yn chwarae'n well, byddwn i'n gwneud y penderfyniad yna."
Roed anaf i Jones yn golygu bod Hook wedi cael y cyfle i symud o safle'r canolwr i safle'r maswr - rhywbeth roedd nifer o gefnogwyr a gwybodusion wedi bod yn ysu i'w weld.
A gwnaeth y chwaraewr 21 mlwydd oed y mwyaf o'i gyfle gan sgorio cais, pedair cic gosb, gôl adlam a throsiad a dod yn gyfartal â record Neil Jenkins o 22 pwynt mewn gêm Brawf yn erbyn Lloegr.
 |