BBC HomeExplore the BBC

LLUN
13eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 16 Mawrth 2007
Dim bygythiad i swydd Jenkins

Mae Gareth Jenkins yn mynnu bod ei swydd yn ddiogel hyd yn oed petai Cymru'n colli yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.


Cyfaddefodd Jenkins y byddai'n "siomedig a chywilyddus" i golli pob gêm yn y Bencampwriaeth ond awgrymodd y byddai'n syniad hurt i'r Undeb Rygbi ei ddiswyddo.

Dim ond dwy fuddugoliaeth y mae Jenkins wedi eu sicrhau - yn erbyn Canada ac Ynysoedd y Môr Tawel - ers cymryd yr awenau ym mis Ebrill 2006.

"Hyd yn oed os ydyn ni yn colli yn erbyn Lloegr, 'dwi ddim yn credu bod bygythiad i fy swydd," meddai.

"Fydde fe ddim yn beth neis i gael y llwy bren. Byddai'n siomedig ac yn gywilyddus. Ond nid wrth ddiswyddo hyfforddwyr mae llwyddo yn y byd rygbi, yn enwedig chwe mis cyn Cwpan y Byd.

"Mae pethau'n tyfu yma yng Nghymru fydd yn rhoi cyfle llawer gwell i ni fod yn llwyddiannus - os ydyn ni'n newid yr hyfforddwr yn rhy aml rydyn ni'n mynd i ddioddef y tymhorau fyny ac i lawr 'ma.

"Dylai fod 80% o'r gwaith yn cael ei wneud yn y rhanbarthau gyda fi'n gweithio ar yr 20% olaf efo'r tîm cenedlaethol.

"Nid yw hynny'n digwydd, ac nid beirniadaeth ydi hynny ond realiti'r sefyllfa."

Ac roedd Jenkins yn feirniadol o'r penderfyniad ym 1995 i ddiswyddo Alan Davies wedi i Gymru golli pob gêm yn y Chwe Gwlad, fisoedd yn unig cyn Cwpan y Byd yn Ne Affrica.

"Ry' chi'n sôn am dair neu bedair blynedd o waith paratoi yn cael ei chwalu gan fod pobl yn rhwystredig.

"'Dwi'n gobeithio na fydd hynny'n digwydd eto."

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy